Dyma’r ddeddfwriaeth storio a gwerthu tân gwyllt o eiddo neu safle cyfanwerthu, manwerthu, neu eiddo neu safle arall:
-
Deddf Ffrwydron 1875
-
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
-
Rheoliadau Tân Gwyllt (Diogelwch) 1997
-
Rheoliadau Tân Gwyllt 2004, a
-
Rheoliadau Gweithgynhyrchu a Storio Ffrwydron 2005
Chaiff neb storio na gwerthu tân gwyllt oni fydd meddiannydd y safle neu eiddo wedi cofrestru’r eiddo neu safle gyda’r Awdurdod Trwyddedu Lleol.
Trwydded a Thystysgrif Ffrwydron
Bydd angen y ddwy er mwyn:
a) Cadw tân gwyllt am gyfnod o 12 mis, a
b) Cyflenwi tân gwyllt a’u cyflenwi i’w harddangos (gwerthu ac arddangos) yn ystod cyfnodau tân gwyllt dynodedig, sef:
-
Blwyddyn Newydd Tsieina - 3 diwrnod cyn yr Ŵyl, a’i diwrnod cyntaf
-
Diwali - 3 diwrnod cyn yr Ŵyl, a’i diwrnod cyntaf
-
Noson Guto Ffowc - 15fed Hydref - 10fed Tachwedd yn gynhwysol
-
Blwyddyn Newydd - 26ain - 31ain Rhagfyr yn gynhwysol
Chaiff tân gwyllt mo’u harddangos na’u werthu ar unrhyw adeg arall o’r flwyddyn.
Ceisiadau
Os ydy’ch eiddo neu safle chi yn Rhondda Cynon Taf, rhaid i chi wneud cais am Drwydded neu Gofrestriad i’r eiddo neu safle i’r Cyngor yma.
Rhaid i chi dalu ffi pan wnewch chi’ch cais. Dyma’r ffïoedd presennol:
Trwydded Ffi
Cais newydd £170
Adnewyddu cais £100
Cofrestriad Ffi
Cais newydd £80
Adnewyddu cais £50
Cofrestru Cynnwys ffrwydron net y tân gwyllt – hyd at 250 Kg
Trwyddedu Cynnwys ffrwydron net y tân gwyllt - o 250 Kg hyd at 2,000 Kg.
Os rhown ni drwydded neu gofrestriad newydd, bydd hyn o dan Reoliadau Gweithgynhyrchu a Storio Ffrwydron 2005. Fe ddaw’r drwydded i ben 12 mis o’r dyddiad cychwyn. Er enghraifft, os 30 Rhagfyr 2005 yw’r dyddiad cychwyn, fe ddaw’r drwydded i ben am hanner nos 29 Rhagfyr 2006.
Mae gofyn bod yr Awdurdod Trwyddedu Lleol yn derbyn unrhyw geisiadau dilynol am Drwydded neu Gofrestriad cyn bod yr un cyfredol yn dod i ben.
Os oes diwrnod o oedi rhwng un Drwydded neu Gofrestriad a’r cais nesaf, byddwn ni’n cyfri’r cais yma yn un newydd. Bydd raid i chi dalu ffi am gais newydd.
Gwerthu ac Arddangos Tân Gwyllt tu allan i’r Cyfnodau Dynodedig
Hoffech chi werthu tân gwyllt drwy gydol cyfnod y Drwydded neu Gofrestriad? Bydd raid i chi gael Trwydded ychwanegol i gyflenwi tân gwyllt, neu’u harddangos i’w cyflenwi (cyflenwi ac arddangos). £500 fydd cost hon, yn ôl deddf gwlad.
Hoffech chi wneud cais am y Drwydded yma mewn eiddo neu safle? Rhaid i chi gael Drwydded neu Dystysgrif Gofrestru i gadw tân gwyllt yno yn gyntaf.
Gofynnwch i’r Awdurdod Lleol am ffurflen i wneud cais am y Drwydded ychwanegol yma.
Gwerthiant Cyffredinol Tân Gwyllt
a) Rhaid i chi gael Trwydded/Tysysgrif Gofrestru gennyn ni. Os nad oes un mewn grym gyda chi, chewch chi ddim gwerthu tân gwyllt.
b) Os oes Tystysgrif/Cofrestriad i gadw tân gwyllt ar yr eiddo neu safle mewn grym, chewch chi ddim gwerthu’r tân gwyllt tu allan i’r cyfnodau dynodedig.
c) Does dim hawl i werthu tân gwyllt i bobl sy’n ymddangos eu bod dan 18 oed.
ch) Does dim hawl gwerthu tân gwyllt i bobl dan 16. Mae hyn yn cynnwys capiau, snapgracwyr, matsys anarferol, popwyr parti, seirff, a lluchiadau.
d) Does dim hawl gwerthu tân gwyllt ar y stryd neu mewn man cyhoeddus
Tramgwyddau a Chosbau
a) Peidiwch â chadw ffrwydron na thân gwyllt mewn eiddo neu safle heb ei gofrestru. Peidiwch â chadw mwy o ffrwydron na beth sydd yn eich Trwydded/Cofrestriad, neu’u cadw yn y ffordd anghywir. Mae’r rhain i gyd yn dramgwyddau yn erbyn y gyfraith. Bydd pŵer gyda’r Llys priodol i’ch collfarnu am y tramgwydd a chyflwyno dirwy o £5,000 (neu ragor) arnoch chi. Mae pŵer gyda nhw i orchymyn i chi fforffedu’r ffrwydron/tân gwyllt hefyd.
b) Peidiwch â chadw ffrwydron mewn ffordd sy ddim yn ddiogel. Os bydd y Llys yn eich cael chi’n euog o’r math yma o dramgwydd, mewn rhai amgylchiadau bydd pŵer gydag ef i osod dirwy ddigyfyngiad arnoch chi, neu’ch anfon i garchar am dymor digyfyngiad.
c) Peidiwch â gwerthu tân gwyllt/ffrwydron i neb sy’n ymddangos dan 18 oed. Bydd pŵer gyda’r llys i’ch collfarnu ac i osod dirwy o hyd at £5,000 arnoch chi.
NODYN
Peidiwch â chadw ffrwydron/tân gwyllt ar ôl i un Drwydded/Cofrestriad ddod i ben, a chyn i ni gymeradwyo’r un newydd. Byddwch chi wedi cyflawni’r trosedd o gadw ffrwydron/tân gwyllt heb Drwydded neu Gofrestriad. (Gw. a) uchod).
Gwybodaeth ychwanegol
Hoffech chi weld y ddeddfwriaeth sy’n cael ei chrybwyll uchod? Mae copïau ar werth gan Lyfrfa Ei Mawrhydi.
Hoffech chi gael cyngor? Cysylltwch â ni:
Isadran Materion Trwyddedu
Gwasanaethau Amgylchedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Elái,
Dinas Isaf
Tonypandy
CF40 1NY
Ffôn 01443 442 100
Ffacs 01443 425 301