Swyddfeydd Cofrestru

Mae modd dod o hyd i Gofnodion Hanesyddol ynghyd â Thystysgrifau Geni, Marwolaeth a Phriodas yn:


Swyddfa Gofrestru Pontypridd

Mae gan Rhondda Cynon Taf Swyddfa Gofrestru Rhanbarthol ganolog ym Mhontypridd, a swyddfeydd rhanbarthol yn Aberdâr a Threorci'n ogystal.

Byddwch gystal â ffonio Swyddfa Gofrestru Pontypridd am apwyntiad cyn dod i  unrhyw un o’n swyddfeydd.

Dydy gwasanaethau i gyd y cofrestrydd ddim ar gael ymhob un o’n swyddfeydd ardal, felly da o beth fyddai trefnu amser ymlaen llaw.

Mae modd i'r Swyddfa Gofrestru roi cymorth i chi ynghylch

  • Cofrestru Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau
  • Hel Achau
  • Priodasau, Seremonïau Sifil a Seremonïau Enwi

Manylion Cyswllt Swyddfa Gofrestru Pontypridd:

Adeiladau'r Cyngor,
Gelliwastad Road,
Pontypridd
CF37 2DP

Ffôn: 01443 486869
Ffacs: 01443 494040

Mewn achos o argyfwng y tu allan i oriau swyddfa: 01443 425011

Oriau agor Swyddfa Gofrestru Pontypridd
 Llun Mawrth Mercher Iau Gwener
 9:00 - 16:00  9:00 - 16:00  9:00 - 16:00  9:00 - 16:00  9:00 - 16:00

 

Defnyddiwch y llygoden olwyn neu ddwbl-glicio i chwyddo
Cliciwch a llusgo i symud map

 

Archifau Morgannwg

Mae’r swyddfa archifau yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr yn ogystal. Mae’n casglu a chadw cofnodion ac yn ei gwneud hi’n bosibl i gael hyd i ddogfennau sy’n ymwneud â’r ardal mae’n ei wasanaethu. Yn ogystal â hynny, mae’n cynnal a chadw cof corfforaethol ei awdurdodau cyfansoddol.

Mae modd i'r swyddfa archifau'ch helpu chi i

  • hel achau
  • cael gwybod rhagor am hanes eich tref, pentref neu dŷ
  • ymgymryd â gwaith ymchwil ar ran ysgol, coleg neu gwra gyda'r hwyr

I gael rhagor o fanylion, galwch heibio i  http://www.glamro.gov.uk/|

Cysylltwch â Swyddfa Archifau Morgannwg:

Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg
Lecwydd
CAERDYDD
CF11 8AW

Ffôn: 029 2087 2200
Ebost: GlamRO@cardiff.gov.uk|