Mae modd ichi gael cyngor/cymorth oddi wrth drefnwr angladdau, meddyg teulu, cyfreithiwr, swyddogion lles ac adrannau personél yn y gweithle, gweinidog, adrannau gwasanaethau cymdeithasol neu Ganolfannau Cyngor ar Bopeth, ymwelwyr iechyd neu nyrs ardal a fu’n rhoi triniaeth a gofal i’r sawl sydd wedi marw. Os mewn ysbyty, gofynnwch i’r brif nyrs neu gaplan yr ysbyty. Yn ogystal â hynny, gweler Cymorth Ymarferol Gwasanaethau Cofrestru.
Cymorth a Chysur
Efallai’ch bod chi eisiau cymorth/cyngor ymarferol ac eisiau siarad â rhywun llawn cydymdeimlad ar wahân i’ch perthnasau agosaf, neu â phobl eraill sy wedi cael profiadau tebyg. Mae nifer o sefydliadau yng Nghymru a Lloegr sy’n cynnig y math yma o gymorth. Dyma rai o’r sefydliadau hynny.
Gofal Galar Cruse Cymru
Mae gan Gofal Galar Cruse Cymru 180 o ganghennau a bron i 7,000 o wirfoddolwyr sy’n cynnig gwasanaethau o’r radd flaenaf ar faterion cymorth emosiynol, cynghori a gwybodaeth i’r sawl sy wedi colli anwylyd, beth bynnag fo’u hoedran, hil neu gredo ar hyd a lled y wlad. Dyma elusen genedlaethol sy’n cynnig cymorth cyfrinachol, rhad ac am ddim i’r sawl sy wedi colli anwylyd. Manylion cyswllt:
126 Sheen Road
Richmond
Surrey
TW9 1UR
Ffôn: 020 8940 4818
Gwifren Gymorth Gofal Galar: 0845 758 5565
Neu ewch i’r wefan:www.Crusebereavementcare.org.uk|
The Child Bereavement Trust
Mae’r elusen yma’n cynnig gwybodaeth ar-lein ar gyfer pobl ifainc sy wedi colli anwylyd. www.childbereavement.org.uk|
Bereavement Direct
Mae’r wefan yma’n cynnwys arweiniad ymarferol ar gyfer y sawl sydd mewn galar gan gynnwys trefnu angladd, cofrestru achos o farwolaeth, cymorth ariannol a gwasanaethau cymorth.
www.direct.gov.uk/cy/Governmentcitizensandrights/index.htm|
Bereavement Direct (dros 50 oed)
Yn cynnig cyngor ymarferol ar baratoi ewyllys, yr hyn sydd i’w wneud pan fo rhywun yn marw a Chymorth o du’r Llywodraeth. http://www.direct.gov.uk/cy/Pensionsandretirementplanning/EndOfLife/index.htm|