Gall unrhyw berygl sydd ar y briffordd (ffordd neu bafin) oherwydd damwain, difrod neu fandaliaeth gael ei ystyried yn beryglus i’r cyhoedd ac fe all anafu cerddwyr, defnyddwyr y ffordd neu ddifrodi eiddo. Dyma rai o’r peryglon sy’n gallu bod ar briffordd:
-
Tyllau yn y ffordd neu’r llwybr troed
-
Gorchudd carthffos neu gwter ar goll
-
Wal sydd ddim yn cuddio cwymp sylweddol naill ai ar y pafin neu ar y ffordd.
-
Rheilen diogelu cerddwyr yn blocio’r pafin neu’r ffordd.
-
Ffens yn blocio’r pafin neu’r ffordd.
-
Bolard concrit wedi cael ei fwrw i lawr ar y pafin neu’r ffordd.
-
Gorchudd archwilio ar goll neu wedi’i ddifrodi.
-
Canllawiau pont wedi’u difrodi.
-
Olew wedi gollwng ar y ffordd.
-
Colofnau lampau wedi’u bwrw i lawr, gwifrau’n dangos neu lanterni’n hongian.
-
Bolard rheoli traffig wedi eu bwrw i lawr neu eu torri.
-
Polion arwyddion wedi’u bwrw i lawr neu arwyddion yn hongian.
-
Goleuadau traffig ddim yn gweithio neu ben y goleuadau traffig wedi torri neu’n hongian.
I ddweud wrthon ni am ddifrod i’r briffordd, gallwch ein ffonio ni neu gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod (bydd peiriant ateb yn rhoi rhif i chi ei ddefnyddio ar gyfer argyfwng ôl-oriau).
Mae angen cymaint o wybodaeth â phosibl arnom ni i ymateb i’ch adroddiad:
-
Enw’r stryd a’r ardal.
-
Lleoliad ar y stryd h.y. ar bwys tŷ neu gyffordd?
-
Disgrifiad manwl o’r difrod.
-
Eich enw a rhif cyswllt.
-
Dyddiad a thua phryd y digwyddodd y difrod.
-
Y bobl neu rif y cerbyd oedd yn gyfrifol am y difrod (os ydych chi’n gwybod).
-
Gafodd yr heddlu ei alw?
Rydyn ni’n ceisio clirio’r rhwystrau mwyaf peryglus o fewn dwy awr gwaith. Byddwn yn ceisio trin rhwystrau llai erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf. Bydd unrhyw ddifrod arall yn cael ei atgyweirio fel rhan o gynlluniau penodol drwy gydol y flwyddyn.
Pan fydd adroddiad o berygl neu ddifrod yn dod i law, bydd y person sy’n derbyn yr adroddiad yn ceisio canfod pwy yw’r perchennog a phwy sy’n gyfrifol am yr eiddo gafodd ei ddifrodi.
Os yw’n amlwg nad cyfrifoldeb y Cyngor yw’r eiddo a bod modd canfod pwy yw’r perchennog, byddwn yn cysylltu â’r perchennog ac yn gofyn iddo gael gwared ar y perygl o fewn amserlen benodol. Os nad oes modd iddo wneud hyn o fewn yr amserlen, bydd y Cyngor yn cael gwared ar y perygl ac yn gofyn am y costau yn ôl.
Os nad oes modd canfod pwy sy’n gyfrifol a bod angen cael gwared ar y perygl, bydd y Cyngor yn gwneud y gwaith.
Dyma rai enghreifftiau o ddodrefn stryd ac eiddo nad yw’r Cyngor yn gyfrifol amdanyn nhw:
-
Gorchudd archwilio ar bafin neu ffordd e.e. stopfalf, hydrant neu gist falfiau.
-
Waliau sydd ddim wedi’u hadeiladu at ddibenion y briffordd.
-
Gorchudd seler.
-
Cypyrddau telathrebu.
Cysylltwch â ni
Ffôn: 01443 494700