Mae dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol i ofalu bod pob plentyn yn ystod y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn 3 oed yn cael manteisio ar ddarpariaeth addysg ran-amser (10 awr yr wythnos man lleiaf) naill ai mewn ysgol neu ddarpariaeth gofrestredig nad ydyn nhw’n cael eu cynnal.
Yn Rhondda Cynon Taf, mae’r mwyafrif o’r plant yn cael manteisio ar gyfleoedd llawn-amser mewn ysgol. Fodd bynnag, mae nifer y lleoedd ar gyfer mis Medi mewn ambell i ardal yn llawn ac mae modd i blant sy’n byw yn yr ardaloedd yma i fanteisio ar gyfleoedd rhan-amser mewn darpariaethau cofrestredig nas gynhelir yn ystod y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn 3 oed.
Beth yw Darpariaeth Addysg Gofrestredig?
I ddod yn ddarpariaeth Addysg Gofrestredig, mae gofyn bod cylchoedd chwarae, cylchoedd meithrin, carcwyr plant a meithrinfeydd oriau dydd yn cofrestru ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) – neu CSSIW yn Saesneg – a bod gyda nhw bolisïau a gweithdrefnau yn eu lle i ddarparu cwricwlwm Cyfnod Sylfaen. Bydd canolfannau sy wedi’u cofrestru yn destun arolygiadau Cyn-ysgol Estyn yn ystod y flwyddyn gyntaf, a bydd canolfannau nas cynhelir yn cael arolygiad gan Estyn bob 6 blynedd. Mae’r AGGCC yn arolygu darpariaethau bob yn ail flwyddyn yn ogystal.
Cwricwlwm Cyfnod Sylfaen Curriculum
Wrth fynychu Darpariaeth Addysg Gofrestredig, bydd eich plentyn yn cael manteisio ar Gwricwlwm Cyfnod Sylfaen, a fydd yn cynnwys y saith maes canlynol:
-
Datblygu Lles Personol a Chymdeithasol ac Amrywioldeb Diwylliannol
-
Medrau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
-
Datblygu Mathemategol
-
Datblygu’r Gymraeg
-
Gwybodaeth am y byd a Dealltwriaeth ohono
-
Datblygu Corfforol
-
Datblygu Creadigol
Mae’r Cyfnod Sylfaen yn cynnwys anghenion datblygu’r plentyn. Dyma gwricwlwm hollgynhwysol sy’n adeiladu ar fedrau plant ar draws y cwricwlwm. Ac felly, mae’n rhoi cryn bwyslais ar ddatblygu:
-
Gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth;
-
Lles Personol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deallusol yn gymorth i ddatblygu’r plentyn cyfan;
-
Agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu fel eu bod nhw’n gallu mwynhau dysgu ac eisiau parhau gyda'u haddysg am gyfnod hwy;
-
Hunan hyder a hunan-barch i chwilota, ymchwilio, dysgu pethau newydd a meithrin cysylltiadau newydd.
Athrawon Ymgynghorol Addysg y Blynyddoedd Cynnar
Mae Athrawon Ymgynghorol yn ymweld â chanolfannau’n rheolaidd ac yn darparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth i weithwyr yn y maes yn gymorth i ofalu’u bod nhw’n darparu cwricwlwm Cyfnod Sylfaen o’r radd flaenaf. Maen nhw hefyd yn rhoi cymorth i staff i baratoi ar gyfer arolwg a datblygu Cynlluniau Gweithredu Ôl-arolygiad ac addasu technegau ar gyfer gweithredu ar yr argymhellion hynny a ddaeth i’r amlwg yn ystod yr arolwg ac sy wedi’u cynnwys yn y Cynllun Gweithredu Ôl-arolygiad.
Beth ydy darpariaeth ran-amser?
Mae hawl i bob plentyn i fanteisio ar ddarpariaeth ran-amser rhad ac am ddim yn ystod y tymor yn dilyn ei benblwydd yn 3 oed. Os ydy’r ddarpariaeth yma mewn ysgol yn Rhondda Cynon Taf, mae hi’n debygol ei bod hi’n ddarpariaeth amser llawn, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n rhoi dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol i ofalu bod pob plentyn yn cael manteisio ar ddarpariaeth ran-amser am 10 awr yr wythnos, o leiaf, mewn canolfan gofrestredig sy wedi’i chofrestru i ddarparu Cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen.
Pryd caiff fy mhlentyn fanteisio ar y ddarpariaeth yma?
Mae modd i bob plentyn i fanteisio ar y ddarpariaeth yma yn ystod y tymor yn dilyn ei benblwydd yn 3 oed. Mae’r tabl isod yn nodi rhagor o fanylion ynglŷn â dyddiadau:
-
Mae modd i blant sy wedi’u geni rhwng 1af Ebrill a 31ain Awst i fanteisio ar y ddarpariaeth yma o’r 1af Medi (yn dilyn ei benblwydd yn 3 oed)
-
Mae modd i blant sy wedi’u geni rhwng 1af Medi a 31ain Rhagfyr i fanteisio ar y ddarpariaeth yma o’r 1af Ionawr (yn dilyn ei benblwydd yn 3 oed)
-
Mae modd i blant sy wedi’u geni rhwng 1af Ionawr a 31ain Mawrth i fanteisio ar y ddarpariaeth yma o’r 1af Ebrill (yn dilyn ei benblwydd yn 3 oed)
Sut rydw i’n manteisio ar ddarpariaeth ran-amser?
Bydd modd i staff mewn canolfannau cofrestredig i roi gwybodaeth, cyngor, arweiniad a’r ffurflenni cais priodol i rieni/cynhalwyr(gofalwyr) i’w llenwi. Mae gofyn bod canolfannau’n cyflwyno ceisiadau ar gyfer sylw Gwasanaethau Addysg y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd ynghyd â chopi o dystysgrif geni’r plentyn. Unwaith bod Carfan Derbyn Plant i’r Ysgol RhCT wedi cymeradwyo’r cais, bydd hi’n cadarnhau’r ddarpariaeth. Bydd Gwasanaethau Addysg y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd RhCT yn talu canolfannau cofrestredig yn uniongyrchol am uchafswm o 10 awr yr wythnos.
Mae rhestr o Ddarparwyr Addysg Gofrestredig isod:
Darparwyr Addysg Gofrestredig
|
Enw'r Darparwr
|
Ward
|
Rhif ffôn ar gyfer cofrestru
|
|
Cylch Meithrin Aberdâr
|
Dwyrain Aberdâr
|
07751523729
|
|
Cylch Meithrin Cwm-parc
|
Treorci
|
01443 776920
|
|
Cylch Meithrin Efail Isaf
|
Llanilltud Faerdref
|
07821960620
|
|
Cylch Meithrin Llanilltud Faerdref
|
Llanilltud Faerdref
|
01443 204942
|
|
Cylch Meithrin Nant Dyrys
|
Treorci
|
07855043356
|
|
Cylch Meithrin Pont-y-clun
|
Pont-y-clun
|
07912101 506
|
|
Cylch Meithrin y Porth
|
Y Porth
|
07977887809
|
|
Cylch Meithrin Thomastown
|
Gorllewin Tonyrefail
|
07757633249
|
|
Cylch Meithrin Tynewydd
|
Treherbert
|
07989721603
|
|
Cylch Meithrin Ynyshir a Wattstown
|
Ynys-hir
|
01443 732414
|
|
Cylch Meithrin Ynys-y-bwl
|
Ynys-y-bwl
|
01443 791111
|
|
Cylch Meithrin Cymunedol Genesis Pontypridd
|
Tref Pontypridd
|
01443 406831
|
|
Cylch Meithrin Cymuned Tonyrefail
|
Dwyrain Tonyrefail
|
01443 675619
|
|
Cylch Chwarae Giggles
|
Y Beddau
|
07984513531
|
|
Cylch Meithrin Little Inspirations Llantrisant
|
Tref Llantrisant
|
01443 222 660
|
|
Cylch Chwarae Little Stars
|
Llanilltud Faerdref
|
01443 217134
|
|
Cylch Chwarae Littlefolk
|
Pentre’r Eglwys
|
07757203855
|
|
Meithrinfa Garth Olwg
|
Pentre’r Eglwys
|
01443 209120
|
|
Cylch Chwarae Eglwys Sant Paul
|
Pont-y-clun
|
07973658426
|
|
Cylch Chwarae Tonysguboriau
|
Tonysguboriau
|
01443 203716
|
|
Cylch Chwarae Prifysgol Morgannwg
|
Trefforest
|
01443 482089
|
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 0800 180 4151.
Oriau Ychwanegol
Mae rhai Darparwyr Addysg Gofrestredig yn cynnig mwy na’r lleiafrif o 10 awr yr wythnos e.e. 9.30am i 12pm bedwar diwrnod yr wythnos. Cyfanswm y ddarpariaeth yw 12½ awr yr wythnos. Mae Gwasanaethau Addysg y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd RhCT ond yn rhoi cyllid ar gyfer yr uchafswm o 10 awr yr wythnos. Efallai bydd gofyn i rieni/cynhalwyr dalu am yr oriau ychwanegol yn yr achosion yma.
Hoffech chi fod yn Ddarparwr Addysg Cofrestredig? Cliciwch yma am fanylion. |