Mae Gwasanaeth y Llyfrgelloedd i’r Ysgolion yn cynnig gwasanaeth benthyg a chynghori i bob ysgol gynradd yn Rhondda Cynon Taf. Ceir manylion ein holl wasanaethau yma.
Nid yw Canolfan Adnoddau Gwasanaeth y Llyfrgelloedd i’r Ysgolion yn ymwneud â llyfrau yn unig! Mae gyda ni dros 60,000 o eitemau mewn stoc, gan gynnwys casetiau llyfrau, fideos a chasgliad hanes lleol arbenigol. Mae gyda ni ddeunyddiau ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys straeon a nofelau wedi’u gosod yng Nghymru, ar gyfer ystod eang o oedrannau, i fodloni eich holl anghenion yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Mae Benthyciadau Bloc yn gasgliad o lyfrau sy’n cael eu benthyg am flwyddyn i ategu llyfrgell yr ysgol.
Mae’r costau fel a ganlyn:
-
1 neu 2 o lyfrau fesul disgybl = £1 y llyfr
-
3 neu fwy o lyfrau fesul disgybl = 80c y llyfr
Mae tanysgrifio i Fenthyciad Bloc yn rhoi hawl i chi fenthyg pob casgliad arall am bris gostyngol.
Mae Benthyciadau Prosiect yn gasgliadau o lyfrau a deunyddiau eraill (uchafswm o 30 eitem) wedi’u benthyg am dymor ar bwnc (neu bynciau) rydych chi wedi’u dewis.
Mae’r costau fel a ganlyn:
-
Fesul Pecyn = £25 (£20 i ddefnyddwyr Benthyciadau Bloc)
Casgliadau o lyfrau a deunyddiau eraill (uchafswm o 12 o eitemau) o waith awduron a darlunwyr enwog ynghyd â gwybodaeth amdanyn nhw yw Pecynnau Awduron. Gallwch ddewis o blith awduron fel Roald Dahl, Dick King-Smith, Quentin Blake, Shirley Hughes, Beatrix Potter, Jacqueline Wilson ac Anne Fine.
Mae’r costau fel a ganlyn:
-
Fesul Pecyn = £20 (£15 i ddefnyddwyr Benthyciadau Bloc)
Mae Llyfrau Mawr ar ddwy ffurf – Fab Four a Little & Large.
-
Mae Fab Four yn becynnau gyda phedwar teitl gwahanol rydych chi wedi’u dewis o’n Catalog Llyfrau Mawr, ac yn cael eu benthyg am dymor.
-
Mae Little & Large yn becynnau gydag 1 Llyfr Mawr a 6 chopi bach o’r un teitl, ac yn cael eu benthyg am dymor.
Mae’r costau fel a ganlyn:
Mae Adnoddau Dyfal Donc ar gael mewn pecynnau maint gwahanol, felly chi sy’n penderfynu sawl llyfr rydych am eu cymryd. Am restr lawn o’r teitlau Dyfal Donc cysylltwch â ni yn y cyfeiriad isod.
Gellir benthyg DVDau a Fideos fel rhan o brosiect neu gasgliad awdur ar eu pen eu hunain am £1 yr wythnos. Mae gyda ni ystod eang o deitlau cwricwlwm a theitlau nad ydyn nhw yn y Cwricwlwm ar gyfer Addysg y Blynyddoedd Cynnar, Cyfnod Allweddol 1 a 2. Cysylltwch â ni am restr lawn o DVDau, fideos a Phecynnau BBC Video Plus.
Gwasanaeth Cynghori – Ceir cyngor ynghylch sefydlu a chynnal llyfrgell ysgol; sgiliau llyfrgell a sgyrsiau i hyrwyddo llyfrau a darllen – i gyd AM DDIM!
Cysylltwch â ni
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r gwasanaethau hyn neu os hoffech gyflwyno archeb, cysylltwch â Wendy Cole yng Ngwasanaeth y Llyfrgelloedd i'r Ysgolion.
Ffôn: 01443 478463
Ffacs: 01443 477270
E-bost: schools.library@rhondda-cynon-taff.gov.uk|
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!