Crwneriaid

Cyfreithwyr yw’r rhan fwyaf o Grwneriaid, er bod ambell un yn feddyg. Maen nhw’n swyddogion barnwrol annibynnol. Mewn geiriau eraill, does gan neb yr hawl i ddweud wrthyn nhw beth i’w wneud ond mae’n rhaid iddyn nhw ddilyn y deddfau a’r rheoliadau sy’n berthnasol i’w gwaith. Rhaid i bob Crwner gael Dirprwy Grwner i’w helpu. Rhyngddyn nhw, rhaid i rywun fod ar gael bob amser. Bydd y Crwner yn cael help gan Swyddogion y Crwner. Mae’r rhain yn derbyn adroddiadau am farwolaethau. Byddan nhw’n gwneud ymholiadau ar ran y Crwner hefyd. Mae rhai o’r Swyddogion yma’n gweithio llawn amser. Ond mewn rhannau mwy tawel o’r wlad, byddan nhw’n gweithio rhan amser. Am weddill yr amser, maen nhw’n gweithio fel Swyddogion Heddlu. Trethi lleol sy’n talu am gostau Gwasanaeth y Crwner.

Gwaith y Crwner fydd ymchwilio i farwolaeth os daw adroddiad am un i law. Dyletswydd y Crwner yw darganfod beth oedd achos meddygol y farwolaeth, os yw’r wybodaeth honno ar gael. Os digwyddodd y farwolaeth yn sgîl trais, neu os oedd rhywbeth annaturiol arall amdani, rhaid i’r Crwner ymchwilio i’r achosion.

Fydd y Crwner ddim yn derbyn adroddiad am bob marwolaeth. Fel arfer, bydd meddyg teulu’r person sydd wedi marw yn gallu rhoi achos y farwolaeth, a dyroddi tystysgrif feddygol. Os oedd yr unigolyn yn derbyn triniaeth mewn ysbyty, bydd modd i’r meddyg oedd yn rhoi triniaeth yno ddyroddi tystysgrif feddygol.

Ond, weithiau, bydd rhaid anfon adroddiad i’r Crwner. Un enghraifft yw os nad oedd yr ymadawedig yn derbyn triniaeth gan feddyg yn ystod ei salwch olaf. Bydd rhaid dweud wrth y Crwner os oedd y farwolaeth yn sydyn hefyd, neu’n annisgwyl neu’n annaturiol.

Yn aml iawn, yr Heddlu fydd yn anfon adroddiad at y Crwner. Os oedd y farwolaeth yn sydyn, a bod meddyg wedi cael ei alw, wedyn y meddyg fydd yn dweud wrth y Crwner. Os bydd cleifion yn marw’n annisgwyl, bydd eu meddygon yn anfon adroddiad. Mewn achosion eraill, gall y Cofrestrydd Marwolaethau anfon yr adroddiad.

Yn Rhondda Cynon Taf, bydd adroddiad yn mynd at y Crwner am farwolaeth pob cyn-löwr. Dydy hyn ddim yn golygu o reidrwydd fod rhaid cynnal post mortem, ond mae angen gwneud gwaith papur arbennig yn yr achosion hyn. Dyna pam bydd meddygon neu Gofrestryddion yn anfon adroddiad at y Crwner. Wedyn fe fydd y Crwner yn cael dyroddi’r dystysgrif i gofrestru’r farwolaeth.

Os bydd adroddiad am farwolaeth wedi mynd at y Crwner, rhaid i’r Cofrestrydd aros i’r Crwner gwblhau’r ymholiadau i gyd. Does dim gwahaniaeth p’un ai yw’r Crwner yn penderfynu cynnal post mortem ai peidio. Pan fydd y Crwner wedi cwblhau’r ymholiadau, bydd ef yn anfon y papurau angenrheidiol at y Cofrestrydd. Wedyn bydd hawl gan y Cofrestrydd i gwblhau cofrestru’r farwolaeth, a dyroddi’r dystysgrif sy’n rhoi hawl i gynnal yr angladd.

Os yw’r Crwner wedi derbyn adroddiad, mae’n bosibl y bydd yr ymholiadau yn cymryd amser. Dyna pam mae’n well i gysylltu â Swyddfa’r Crwner cyn dechrau trefnu’r angladd.

Crwner ardal Rhondda Cynon Taf yw Crwner Ei Mawrhydi Louise Hunt, Mae ei swyddfa yn y Ganolfan ibobun, Rock Grounds, Aberdâr, Rhondda Cynon Taf.

Cysylltwch â swyddfa’r Crwner yn uniongyrchol: (01685) 885202.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am waith y Crwner, ewch i wefan swyddogol yr Adran Materion Cyfansoddiadol (Saesneg yn unig):

http://www.dca.gov.uk/corbur/coron02.htm|