Rydyn ni’n falch o allu cynnig seremonïau Ail-ddatgan Addunedau Priodas. Mae’r seremonïau hyn ar gael i bob pâr priod sy’n dymuno dathlu eu hymrwymiad parhaus i’w gilydd a’u cariad.
Er bod y seremonïau hyn yn briodol ar gyfer parau ar unrhyw adeg yn eu hoes briodasol, yn aml, maen nhw’n gysylltiedig â phenblwyddi priodas arbennig fel deg mlynedd, pum mlynedd ar hugain, deugain mlynedd ac ati.
Mae’r seremonïau hyn hefyd yn berthnasol i barau sydd wedi priodi mewn gwlad dramor, ac sydd am ail-ddatgan eu haddunedau priodas o flaen teulu a ffrindiau. Gall seremoni hefyd fod yn arbennig o berthnasol i bâr sydd wedi cael amser caled gyda’i gilydd ac sydd am ddathlu ac ail-ddatgan eu hymrwymiadau i’w gilydd.
Sylwer: mae seremoni ail-ddatgan addunedau yn seremoni seciwlar a ni fydd yn cynnwys unrhyw gyfeiriadau crefyddol. Os hoffech chi gynnal seremoni grefyddol, cysylltwch â’ch eglwys neu gymuned grefyddol leol.
Pam ail-ddatgan addunedau priodas?
Mae ail-ddatgan addunedau priodas yn gyfle i barau ddathlu eu hymrwymiad, eu cariad a’u cefnogaeth barhaol i’w gilydd. Mae’n gyfle i’r pâr ail-greu hud eu diwrnod priodas mewn seremoni unigryw wedi’i theilwra’n benodol ar eu cyfer. P’un ai ydych chi’ch dau am ddathlu gyda’ch gilydd, neu yng nghwmni teulu a ffrindiau, gallwn ni eich helpu chi i drefnu dathliad delfrydol.
Er nad oes gan y Seremoni Ail-ddatgan Addunedau Priodas unrhyw statws cyfreithiol, mae’n ddatganiad cyhoeddus o’ch ymrwymiad, eich cariad a’ch cefnogaeth barhaol i’ch gilydd. Mae achlysur o’r fath yn gyfle urddasol a ffurfiol i:
-
Ail-ddatgan eich addunedau priodas
-
Ail-gyflwyno’ch hen fodrwyau priodas neu gyflwyno rhai newydd i’ch gilydd
-
Ail-ddatgan eich ymrwymiad i’ch gilydd a’ch partneriaeth gydol oes
Gall unrhyw bâr priod drefnu seremoni Ail-ddatgan Addunedau Priodas. Does dim ots os ydych chi wedi bod yn briod o’r blaen, dim ond eich bod chi’n gyfreithiol briod â’ch gilydd adeg y seremoni.
Un o’n “Dathlwyr” profiadol ni fydd yn cynnal y seremoni a fyddan nhw ddim yn gweithredu mewn unrhyw gapasiti cyfreithiol. Fodd bynnag, bydd y dathlwr sy’n cynnal y seremoni yn cynnig ei gymorth a’i arbenigedd i chi er mwyn gwneud yn siwr y bydd eich seremoni yn achlysur urddasol a chofiadwy.
Does gan y Seremoni Ail-ddatgan Addunedau na’r Dystysgrif Ddathliadol ddim statws cyfreithiol.
Oes modd i ni gynnal Seremoni Enwi ar yr un pryd â seremoni ail-ddatgan addunedau priodas?
Mae’n bosibl i bâr drefnu Seremoni Enwi i ddilyn ymlaen yn syth o’u Seremoni Ail-ddatgan Addunedau Priodas. Weithiau, bydd pâr yn dymuno gwneud hyn os ydyn nhw wedi mabwysiadu plentyn, pan fydd llysblant neu os yw’r pâr am ddatgan eu cariad a’u cefnogaeth i’r plentyn/plant. Bydd y Dathlwr fydd yn cynnal eich Seremoni Ail-ddatgan Addunedau Priodas yn gallu trafod hyn ymhellach gyda chi.
Ble mae modd cynnal y Seremoni?
Gall Seremoni Ail-ddatgan Addunedau Priodas gael ei chynnal yn y Gofrestrfa Ranbarthol ym Mhontypridd yn ogystal ag yn un o’n “Lleoliadau Cymeradwy” ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – gweler y dolenni isod.
Gellir cynnal seremonïau ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos heblaw am ddydd Gwener y Groglith, Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan, gan ddibynnu ar leoedd.
Beth yw cost Seremoni ail-ddatgan addunedau Priodas?
Bydd tâl trefnu o £67 yn daladwy yn y cyfarfod cychwynnol a does dim modd ad-dalu’r arian yma. Bydd yn rhaid talu am bresenoldeb swyddogion y Cyngor cyn y seremoni hefyd, yn ogystal â chost unrhyw dystysgrifau dathliadol yr hoffech chi eu prynu. Mae pob Tystysgrif yn costio £6.00.
Dyma restr o’r costau rydyn ni’n eu codi am gynnal seremoni.
Seremoni mewn Swyddfa Gofrestru
-
Dydd Llun – dydd Gwener 9am-3pm - £40 (£80)
-
-
Dydd Sadwrn - 9am -1pm - £40 (£80)
Seremoni mewn lleoliad cymeradwy
-
Dydd Llun – dydd Gwener – 9am-3pm £140
-
Dydd Llun – dydd Gwener 3.30pm ymlaen £160
-
Dydd Sadwrn £170
-
Dydd Sul a Gŵyl y Banc – £210
Yr Awdurdod Lleol sy’n pennu’r prisiau yma ac maen nhw’n cael eu hadolygu bob blwyddyn.
Sylwer: os hoffech chi gynnal eich seremoni yn un o’n “Lleoliadau Cymeradwy” bydd rhaid i chi drefnu’r holl ffïoedd ychwanegol, e.e. llogi ystafell gyda’r lleoliad.
Y Seremoni
P’un ai fyddwch chi’n penderfynu cynnal eich seremoni yng Nghofrestrfa’r Rhanbarth ym Mhontypridd neu yn un o’n “Lleoliadau Cymeradwy”, bydd y seremoni yn unigryw i chi.
Bydd modd i’r cwpl greu seremoni unigryw gyda’r ystod o ddewisiadau sydd ar gael. Bydd hyn yn sicrhau na fydd dwy seremoni yr union yr un fath. Drwy ddewis beth yr hoffech chi ei gynnwys yn eich seremoni, byddwch chi’n creu achlysur unigryw a phersonol y gallwch chi a’ch gwesteion ei gofio am byth.
Efallai yr hoffech chi gynnwys darlleniadau neu gerddi er mwyn ychwanegu at eich seremoni. Neu beth am gynnwys geiriau gwesteion o seremoni briodas flaenorol e.e. geiriau’r gwas priodas, neu bobl arbennig sy’n rhan o’ch bywyd chi yn awr e.e. plant, ffrindiau agos neu deulu.
Gallwch chi ddewis addunedau personol sy’n berthnasol i chi fel pâr, a gallwch chi ddewis cerddoriaeth arbennig hefyd o unrhyw genre, er enghraifft clasurol, pop neu hyd yn oed jazz. Gallech chi hefyd ddewis cyfnewid modrwy(on) newydd neu ail-gyflwyno eich modrwy(on) presennol. Beth bynnag fyddwch chi’n ei ddewis, gallwn ni eich helpu chi i greu seremoni bwrpasol ac arbennig fydd yn rhoi atgofion melys a bythgofiadwy i chi.
Mae detholiad o gerddi a darlleniadau ar gael i chi ddewis ohono.
Hefyd, bydd rhaid i chi ofyn i ddau berson fod yn dystion pan fyddwch chi’n llofnodi’r Dystysgrif ar ddiwedd yr achlysur.
Mae Tystysgrif Ddathliadol ar gael am gost o £6.00 y dystysgrif a gellir cyflwyno’r dystysgrif i’r cwpwl ar ddiwedd y seremoni.
Bydd ‘Dathlwr’ yn cynnal eich seremoni ond fydd e ddim yn gweithredu mewn unrhyw ffordd swyddogol, er ei fod o bosibl yn gweithio fel cofrestrydd hefyd. Mae Dathlwyr wedi cael hyfforddiant ac mae gyda nhw brofiad mewn cynnal llawer o wahanol seremonïau. Os nad ydych chi’n siwr am rywbeth, gofynnwch i’r Dathlwr er mwyn iddo allu eich cynghori chi.
Sut mae trefnu seremoni ail-ddatgan addunedau priodas?
Os hoffech chi drefnu seremoni, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Y Cofrestrydd Arolygu
Y Swyddfa Gofrestru
Swyddfeydd Dinesig
Gelliwastad Road
Pontypridd
CF37 2DP
Ffôn: (01443) 486869
Ebost: Registrar@rhondda-cynon-taff.gov.uk|