Budd-daliadau Tai - gwybodaeth gyffredinol

Cynllun y Llywodraeth yw Budd-daliadau Tai i roi cymorth ichi dalu'ch rhent. 

Mae cynllun Budd-dal Tai wedi’i seilio ar brawf modd. Ystyr hynny ydy bod y swm rydych chi’n ei gael yn dibynnu ar bethau fel:Row of houses

Ydw i’n cael hawlio Budd-dal Tai?

Mae modd ichi hawlio Budd-dal Tai os ydych chi:

  • Yn hawlio Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith; neu os ydych chi,
  • Ar gyflog bach
  • Yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Mae'n bosib y bydd modd hawlio os ydych chi'n gweithio
  • Yn hawlio Budd-daliadau Gwladwriaeth eraill

Defnyddiwch ein cyfrifiannell| i gadarnahu a ydych chi'n gymwys.

Pwy sydd ddim yn cael hawlio Budd-dal Tai?

Chewch chi ddim hawlio Budd-dal os oes un o’r sefyllfaoedd isod yn berthnasol:

  • Does dim rhaid ichi dalu rhent;
  • Mae gyda chi, neu’ch cymar, neu’r ddau ohonoch chi ar y cyd, gynilion o £16,000 neu fwy;
  • Rydych chi’n byw mewn cartref gofal, megis, cartref nyrsio neu gartref gofal preswyl i’r henoed;
  • Rydych chi’n rhentu cartref roeddech chi’n arfer ei rannu oddi wrth eich cyn-gymar;
  • Rydych chi’n rhiant neu’n warcheidwad i blentyn eich landlord;
  • Rydych chi’n byw yn eich cartref yn rhan o’ch swydd.

Sut rydw i’n mynd ati i hawlio Budd-dal Tai?

Os ydych chi’n hawlio Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, mae modd ichi lawrlwytho ffurflen HCTB1 oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau|. Llenwch y ffurflen a’i hanfon yn ôl i'r Adran Gwaith a Phensiynau ar unwaith. Byddan nhw’n anfon y ffurflen aton ni ynghyd â thystiolaeth o’ch cais am Gymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm).

Os ydych chi ar gyflog bach, mae modd ichi gyflwyno cais drwy lenwi un o’n ffurflenni hawlio a chynnwys y dystiolaeth sydd ei hangen arnon ni i asesu’ch cais. I gael ffurflen hawlio, cysylltwch â ni ar y rhif isod neu cyflwynwch gais ar-lein.

Budd-dal Tai
Cyflwyno cais ar-lein

Budd-daliadau Tai - ffurflen gais ar-lein  | (Saesneg yn unig)

 

Beth os bydd angen cymorth arna i i lenwi’r ffurflen?

Cysylltwch â ni (manylion cyswllt isod). Os ydych chi’n cael problemau cyflwyno cais oherwydd eich bod chi’n oedrannus neu’n anabl, efallai bydd modd inni ymweld â chi yn eich cartref.

Pa dystiolaeth bydd gofyn imi’i rhoi ichi?

Os ydych chi’n hawlio Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, bydd gofyn inni weld prawf o’ch Rhif Yswiriant Gwladol chi a’ch cymar, ynghyd â phrawf o’r budd-daliadau rydych chi’n eu cael. Efallai byddwn ni’n gofyn ichi ddangos prawf o bwy ydych chi yn ogystal.

Os ydych chi ar gyflog bach, byddwn ni’n gofyn i weld eich Rhif Yswiriant Gwladol a phrawf o bwy ydych chi. Bydd gofyn ein bod ni’n gweld prawf o’r canlynol yn ogystal:

  • Budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau;
  • Budd-dal Plant;
  • Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant;
  • Cyfrifon banc a buddsoddiadau;
  • Cytundeb Gofal Plant;
  • Papurau cyflog.

Faint o gymhorthdal Budd-dal Tai ga i?

Efallai bydd modd inni dalu’ch rhent chi i gyd, ond bydd rhaid inni gymryd i ystyriaeth bethau fel:

  • Eich incwm;
  • Pwy arall sy’n byw gyda chi;
  • Unrhyw gynilion a buddsoddiadau sydd gyda chi;
  • Faint ydy’ch rhent chi.

Os bydd eich rhent chi’n cynnwys taliadau ar gyfer pethau fel gwres, trethi dŵr neu brydau bwyd, bydd rhaid inni ostwng eich budd-dal chi achos does dim modd inni dalu am wasanaethau fel y rhain.

Sut rydych chi’n cyfrifo faint o Fudd-dal Tai ga i?

Os ydych chi’n hawlio Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm;

Byddwch chi’n cael y gyfradd rhent uwch, ar ôl ein bod ni wedi tynnu arian ar gyfer:

  • Pobl eraill sy’n byw gyda chi – sef unigolion nad ydyn nhw’n ddibynnol arnoch chi.
  • Taliadau gwasanaeth;
  • Unrhyw gyfyngiadau rhent, y mae’r swyddog rhenti wedi rhoi gwybod inni amdanyn nhw.

Ar gyfer yr achosion eraill i gyd

Rydyn ni’n cyfrifo’ch budd-daliadau chi drwy gymharu’r arian rydych chi’n ei gael bob wythnos â’ch 'cyfanswm i'w gymhwyso'.

Swm o arian mae’r Llywodraeth yn ei ddweud sydd ei angen arnoch chi a’ch teulu i fyw arno bob wythnos ydy’r ‘cyfanswm i’w gymhwyso’.

Bydd y cyfanswm i’w gymhwyso yn uwch ar gyfer rhai pobl – er enghraifft os ydych chi’n anabl neu’n rhiant sengl.

Unwaith byddwn ni wedi cyfrifo faint o arian rydych chi’n ei gael bob wythnos, os yw’n llai na’r cyfanswm i’w gymhwyso neu'n cyfateb iddo, byddwch chi fel arfer yn cael y gyfradd uwch. Ond cofiwch, os oes gyda chi unigolion eraill yn byw gyda chi nad ydyn nhw’n ddibynnol arnoch chi, efallai bydd rhaid inni dynnu arian o’ch budd-dal ar eu cyfer nhw.

Mae’r hyn sydd gyda’r swyddog rhenti i’w ddweud, neu unrhyw daliadau gwasanaeth sydd wedi’u cynnwys yn eich rhent chi yn gallu effeithio ar eich budd-dal chi yn ogystal.

Noder

Os yw’ch incwm chi’n llai na’ch 'cyfanswm i’w gymhwyso' – neu’r un fath ag e – dylech chi wneud cais am Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, am ei bod hi’n bosibl bydd modd ichi gael rhagor o gymorth.

Efallai bod modd ichi hawlio budd-daliadau eraill, er enghraifft, Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant.

Pa arian rydych chi’n ei gymryd i ystyriaeth pan rydych chi’n gweithio faint o fudd-dal ga i?

Rydyn ni’n cyfrif pob swm o arian rydych chi’n ei gael. Mae hyn yn cynnwys pethau fel:

  • Budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau;
  • Taliadau cynnal;
  • Pensiynau gwaith;
  • Cyflog;
  • Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant.

Rydyn ni’n cyfrif arian rydych chi’n ei ennill ar ôl i'r arian gael ei dynnu allan ar gyfer:

  • Cyfraniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol; ac,
  • Hanner unrhyw arian rydych chi’n ei dalu i gronfa bensiwn.

Os ydych chi’n gweithio, byddwn ni’n gofyn am gael gweld:

  • Eich pum papur cyflog mwyaf diweddar os ydych chi’n cael eich talu bob wythnos; neu,
  • Dau bapur cyflog mwyaf diweddar os ydych chi’n cael eich talu bob mis.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, byddwn ni fel rheol eisiau gweld eich cyfrifon mwyaf diweddar. Os nad ydych chi’n gallu darparu’r rhain, cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.

Beth os oes gyda fi arian arall?

Efallai fydd cynilion a buddsoddiadau bychain ddim yn effeithio ar eich cais chi, ond rhaid ichi roi gwybod inni am eich cynilion a’ch buddsoddiadau i gyd, gan gynnwys eich cyfrifon banc cyfredol. Rhaid ichi ddweud wrthon ni pa gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu sydd gyda chi, eich cymar a’ch plant. Peidiwch ag anghofio sôn am unrhyw stociau a chyfranddaliadau sydd gyda chi yn ogystal.

Cofiwch roi gwybod inni am y gwahanol fathau o incwm rydych chi’n ei gael. Os nad ydych chi’n siŵr, holwch ni.

Fydd angen imi ddangos prawf o’r rhent rydw i’n ei dalu?

Bydd, bydd angen prawf o’ch rhent chi arnon ni. Bydd gofyn ichi ddangos prawf o faint rydych chi’n ei dalu a pha wasanaethau sydd wedi’u cynnwys yn eich rhent chi. Mae gwasanaethau yn cynnwys pethau fel gwres, trethi dŵr a phrydau bwyd.

Os oes gyda chi gytundeb tenantiaeth, rhowch gopi inni fel gallwn ni’i ddefnyddio i ddod o hyd i’r manylion sydd eu hangen i brosesu’ch cais.

Os does dim cytundeb tenantiaeth gyda chi, cysylltwch â ni i gael cyngor ychwanegol.

Beth sy’n digwydd os oes pobl eraill yn byw gyda fi?

Os oes cyfeillion, perthnasau neu unrhyw un dros 18 mlwydd oed yn byw gyda chi, efallai byddwch chi’n cael llai o fudd-dal. Pobl nad ydyn nhw’n ddibynnol arnoch chi ydy’r rhain.

Efallai byddwn ni’n tynnu cyfran o’ch budd-dal ar gyfer pob un o’r rhain sy’n byw yn eich cartref chi.

Dydy’r rhai nad ydyn nhw’n ddibynnol arnoch chi ddim yn cynnwys:

  • Eich cymar;
  • Plentyn rydych chi’n hawlio Budd-dal Plant ar ei gyfer;
  • Pawb sy dan 18 mlwydd oed;
  • Pawb sy mewn addysg amser-llawn;
  • Pawb sydd ar gynllun hyfforddi ieuenctid.

Fyddwn ni ddim yn tynnu arian o’ch budd-dal ar gyfer y rhai nad ydyn nhw’n ddibynnol arnoch chi yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Rydych chi’n hawlio Lwfans Gweini;
  • Rydych chi’n hawlio elfen ofal Lwfans Byw i’r Anabl;
  • Rydych chi wedi’ch cofrestru’n berson dall;
  • Mae’r sawl nad ydy e’n ddibynnol arnoch chi yn gynhaliwr (gofalwr) cyflogedig mae elusen neu sefydliad gwirfoddol yn ei ddarparu;
  • Mae e/hi dan 25 mlwydd oed, ac yn hawlio Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm.

Faint o amser fydd eisiau ichi gyfrifo faint o fudd-dal ga i?

Rydyn ni’n ceisio mynd trwy’r ceisiadau cyn gynted â phosib. Mae’n dibynnu ar ba mor gyflym rydych chi’n rhoi’r cyfan o’r wybodaeth sydd ei hangen arnon ni. Pan fydd gyda ni’r wybodaeth i gyd, byddwn ni’n cyfrifo’ch budd-dal ac yn anfon llythyr atoch chi i roi gwybod faint byddwch chi’n ei gael.

Pryd bydd y taliadau yn dechrau? 

Os byddwch chi’n gymwys, bydd y taliadau fel arfer yn dechrau o’r dydd Llun ar ôl inni dderbyn eich ffurflen gais. Os ydych chi o’r farn y dylai'ch budd-dal chi ddechrau’n gynt, 'ôl-ddyddio' yw’r term am hynny. Galwch heibio i’r adran Budd-daliadau Tai – ôl-ddyddio i gael rhagor o fanylion.

Sut byddwch chi’n fy nhalu i?

Fel rheol, byddwn ni’n eich talu chi unwaith bob pedair wythnos ar gyfer y pedair wythnos flaenorol. Gallwn ni eich talu chi, neu, mewn rhai amgylchiadau, mae modd inni dalu’ch landlord yn uniongyrchol.

Beth os ydw i’n anfodlon ar eich penderfyniad?

Os ydych chi’n anfodlon ar ein penderfyniad, mae hawl gyda chi i ofyn inni ailystyried ein penderfyniad. Galwch heibio i’r adran Budd-daliadau Tai – apeliadau.

Beth ddylen i ei wneud os bydd fy amgylchiadau i’n newid pan rydw i’n cael budd-dal?

Rhaid ichi roi gwybod inni ar unwaith os bydd eich amgylchiadau chi’n newid, oherwydd gall hyn effeithio ar faint y budd-dal rydych chi’n ei gael. O beidio â rhoi gwybod inni, efallai byddwch chi’n colli’ch budd-daliadau chi neu byddwn ni’n talu gormod ichi, a bydd rhaid ichi’i dalu yn ôl yn nes ymlaen. Galwch heibio i’r dudalen Budd-daliadau Tai – hawliad cyfredol|.

Dolennau cyswllt defnyddiol

Cliciwch ar y cyswllt i fynd i wefan Directgov ar ochr chwith y dudalen i gael gwybodaeth am y budd-daliadau eraill efallai bod hawl gyda chi i’w hawlio.

Pa swyddfeydd sy'n gallu derbyn ffurflenni cais am fudd-daliadau?

Dyma restr o'r swyddfeydd sy'n gallu derbyn ceisiadau am Fudd-dal Treth y Cyngor a Budd-dal Tai.

Budd-daliadau Tai,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Tŷ Bronwydd,
Y Porth
CF39 9DL

Canolfan Gynghori Tai,
11–12 Gelliwastad Road,
Pontypridd
CF37 2BW

Neu galwch heibio i un o'n Canolfannau ibobun|.

Manylion cyswllt

Ffôn: 01443 425002
Ffacs: 01443 680661
Minicom: 01443 680708
E-bost: CwestiynauBudd-dalTai@rhondda-cynon-taf.gov.uk|

Swyddfeydd Cartrefi RCT Homes Cyf.

Mae'n bosibl i Cartrefi RCT Homes Cyf. dderbyn ceisiadau gan ei denantiaid ei hun yn unig.

Cartrefi RCT Homes Cyf.
19 Canon Street,
Aberdâr
CF44 7AP

Cartrefi RCT Homes Cyf.
16 Mill Street,
Tonyrefail,
Y Porth
CF39 3AA

Cartrefi RCT Homes Cyf.
Tŷ Pennant,
Mill Street,
Pontypridd
CF37 2SW

Cartrefi RCT Homes Cyf.
46 Hannah Street,
Y Porth
CF39 9RA