Newidiadau i Fudd-daliadau Tai o Ebrill 2011

O Ebrill 2011 mae Llywodraeth San Steffan yn newid cyfraddau Budd-daliadau Tai i denantiaid sy’n rhentu o landlordiaid y sector preifat.

 

Fydd hyn yn effeithio arna i? 

Bydd, os ydych chi’n rhentu eiddo oddi wrth landlord preifat ac yn derbyn Budd-dâl Tai a’ch bod chi wedi rhoi cais am ei hawlio ar gyfer eich cyfeiriad presennol ar 7 Ebrill 2008 neu wedi hynny.

Beth sy wedi newid?

  • Bydd yr uchafswm ychwanegol wythnosol o £15 ar gyfer Budd-dâl Tai yn dod i ben. Mae hyn yn golygu na fyddwch chi’n gallu hawlio fwy o Fudd-dâl Tai na’r hyn rydych chi’n ei dalu mewn rhent.
  • Bydd uchafswm i’r budd-dal, er mwyn sicrhau bod graddfeydd wythnosol Lwfans Tai Lleol ddim dros: 
  1. £250 yr wythnos ar gyfer eiddo un ystafell wely 
  2. £290 yr wythnos ar gyfer eiddo dwy ystafell wely
  3. £340 yr wythnos ar gyfer eiddo tair ystafell wely
  4. £400 yr wythnos ar gyfer eiddo pedair ystafell wely

 

Bydd yr uchafsymiau yma yn fwy tebygol o’ch effeithio o fyw yn Llundain.

  • Fydd dim graddfa Lwfans Tai Lleol ar gyfer eiddo pum ystafell wely. Felly ar gyfer eiddo pedair ystafell wely mae’r Lwfans Tai Lleol uchaf.
  • Bydd Llywodraeth San Steffan yn lleihau graddfeydd Lwfans Tai Lleol, felly bydd tua 3 o bob 10 eiddo sy ar gael i’w rhentu yn eich ardal chi yn fforddiadwy i bobl sydd yn hawlio Budd-dâl Tai. Ar hyn o bryd, tua 5 o bob 10 eiddo sy’n fforddiadwy i bobl sy’n hawlio Budd-dâl Tai.
  • Bydd modd i bobl anabl sy’n hawlio Budd-dâl Tai hawlio am ystafell wely ychwanegol os oes angen cynhaliwr (gofalwr) i aros y nos. Cysylltwch â ni ar unwaith os ydych chi o’r farn eich bod chi’n gymwys.

Sut bydd hyn yn effeithio arna i?

Efallai bydd yr arian rydych chi’n ei gael ar gyfer talu’ch rhent yn lleihau. Os yw eich Budd-dâl Tai yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord, efallai bydd yr hyn fydd e’n ei dderbyn yn llai. Os ydych chi’n hawlio Budd-dâl Tai yn barod neu yn ystyried cyflwyno cais, mae rhaid ichi gofio am y newidiadau yma cyn ichi adnewyddu cytundeb tenantiaeth gyda landlord preifat neu gytuno ar un newydd.

Os oes hawl gyda chi hawlio am ystafell ychwanegol achos bod anabledd gyda chi ac mae angen cynhaliwr arnoch chi dros nos, efallai bydd cynnydd yn eich budd-dâl.

Pryd bydd hyn yn effeithio arna i?

Os ydych chi’n cyflwyno cais o’r newydd am Fudd-dâl Tai neu’n symud cartref, bydd y newidiadau yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011.

  • Eich bod chi’n derbyn Budd-dâl Tai ac yn symud cartref.
  • Bod y sefyllfa yn eich cartref yn newid, megis bod rhywun yn gadael neu’n dod i fyw gyda chi.
  • Eich bod chi’n cael hawlio am ystafell ychwanegol ar gyfer cynhaliwr

Pryd bydd fy nghais yn cael ei asesu / adolygu?

Mae hyn yn dibynnu ar y dyddiad gyflwyno’ch chi’ch cais gwreiddiol am Fudd-dâl Tai, neu ar y dyddiad aseson ni’ch cais chi ddiwethaf e.e. os cyflwynoch chi gais am Fudd-dâl Tai ar 5 Medi 2010, bydd eich adolygiad blynyddol ar 5 Medi 2011.

Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at bawb sy’n debygol o gael ei effeithio gan y newidiadau cyn i’r newidiadau ddod i rym.

Yn y cyfamser, os oes unrhyw newid yn eich sefyllfa, rhowch wybod i’r Cyngor ar unwaith.

Ble galla i gael rhagor o wybodaeth?

  • Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth yn www.direct.gov.uk  Mae Directgov yn rhoi gwybodaeth am bob math o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau o ran Budd-daliadau Tai.  Mae Directgov yn rhoi gwybodaeth am bob math o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau o ran Budd-daliadau Tai.
  • Neu ewch i www.rctcbc.gov.uk neu ffonio’r ganolfan gyswllt ar 01433 681081
  • Asiantaeth weithredol o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n cadw gwybodaeth am lwfansau tai lleol, trethi cyngor a rhentu teg a manylion perthnasol eraill - http://www.voa.gov.uk
  • Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi pob math o gyngor ar bob math o bethau. Edrychwch yn yr Yellow Pages am eich swyddfa leol, neu ewch i’w gwefan www.adviceguide.org.uk/CY neu www.cas.org.uk ar gyfer yr Alban. ar gyfer yr Alban.
  • Mae Shelter Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol ar faterion tai, budd-daliadau a dyled trwy rwydwaith o wasanaethau ymgynghori; ffoniwch y wifren gymorth materion tai am ddim ar 0808 800 4444 8am-8pm dydd Llun - dydd Gwener a 8am-5pm dydd Sadwrn a dydd Sul, ac ar lein: http://www.sheltercymru.org.uk/home/default.asp