Mae dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i gynnal gwasanaeth budd-daliadau i’r rheiny sy’n gymwys yn ei ardal. Hefyd, mae cyfrifoldeb arnom ni i ofalu mai dim ond y rheiny sydd â hawl i daliadau sydd yn eu derbyn.
Am y rheswm yna, mae gennym ni adran Twyll ac mae ei dyletswyddau’n cynnwys:
-
Canfod hawliadau twyllodrus;
-
Atal a lleihau taliadau mewn achosion o dwyll;
-
Gwneud yn siŵr bod y budd-dal cywir yn cael ei dalu
-
Cymryd camau, gan gynnwys camau cyfreithiol, yn erbyn pobl sy’n twyllo
Twyll Budd-dal Tai/Treth y Cyngor
Mae twyll gweithio a hawlio yn gallu cynnwys pobl sy’n derbyn Budd-dal Tai a Budd-dal Treth y Cyngor ar y sail eu bod yn gymwys i dderbyn Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Analluogrwydd neu fudd-daliadau eraill, ond sydd mewn gwirionedd yn gweithio.
Fel arfer, bydd ymchwiliad ar y cyd rhwng y Cyngor a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cael ei gynnal i achosion o’r math yma.
Methu â datgelu eiddo/cyfalaf
Y math yma o dwyll yw pan fydd y sawl sy’n hawlio budd-dal ddim yn datgelu naill ai eiddo neu gyfalaf, neu ei fod yn berchennog eiddo/tir yn rhywle arall (y gallan nhw fod yn derbyn rhent ar ei gyfer).
Methu â datgelu incwm
Methu â datgelu incwm yw pan fydd y sawl sy’n hawlio budd-dal ddim yn datgelu ei incwm i gyd, gan wybod neu fwriadu y bydd peidio â’i ddatgelu yn golygu y byddan nhw’n cael mwy o fudd-dal.
Methu â datgelu cymar (pan fyddan nhw’n byw gyda’i gilydd fel gŵr a gwraig)
Y math yma o dwyll yw pan fydd y sawl sy’n hawlio budd-dal ddim yn datgelu cymar sy’n gweithio, gan wybod neu fwriadu y bydd peidio â’i ddatgelu yn effeithio ar ei fudd-dal.
Methu â datgelu pobl sydd ddim yn ddibynnol a/neu is-denant
Mae’n dwyll os yw’r sawl sy’n hawlio budd-dal yn methu â datgelu bod oedolion eraill yn byw yn yr eiddo, a hynny er mwyn cadw neu gynyddu’r budd-dal.
Hawliadau ffug gan berchnogion tai
Mae’n dwyll os bydd perchennog eiddo yn datgan yn anghywir ei fod ef yn talu rhent i fyw mewn eiddo y mae’n berchen arno, fel arfer bydd yn creu landlord ffug er mwyn gwneud hynny.
Methu â dweud eich bod wedi newid cyfeiriad
Os bydd y sawl sy’n hawlio budd-dal yn methu â datgan ei fod wedi symud, ond ei fod yn parhau i dderbyn budd-dal tai ar gyfer ei hen gyfeiriad, mae hyn yn dwyll.
Twyll cyfeiriad anghywir
Os bydd person yn hawlio budd-dal ar gyfer eiddo nad yw’n byw ynddo, mae hyn yn dwyll. Weithiau bydd landlord neu denantiaid eraill yn gweithio ar y cyd â’r person.
Twyll Landlord
Y math yma o dwyll yw pan fydd landlord yn dal i dderbyn taliadau budd-dal yn uniongyrchol am gyfnod ar ôl i’r sawl sy’n hawlio’r budd-dal adael yr eiddo. Os oes gan landlord fwy nag un eiddo, mae’n bosib y gall ef symud tenantiaid o gwmpas heb ddweud wrth yr Awdurdod Lleol.
Mae yna lawer o ffyrdd eraill y gall landlordiaid ac asiantaethau rheoli dwyllo’r system budd-dal, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae llawer o dai â llawer o bobl yn eu rhentu a lle mae llawer o weithwyr tymhorol yn edrych am lefydd i rentu am gyfnod byr.
Am ragor o wybodaeth am ymchwiliadau i achosion o dwyll, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion isod.
Cysylltwch â ni
Ffôn: 01443 680598
Ffacs: 01443 680705
Minicom: 01443 680708
E-bost: BenefitFraud@rhondda-cynon-taff.gov.uk|