Sut byddaf i’n darganfod beth yw’r cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer fy eiddo i?
O fis Ebrill 2012, mae Lwfans Tai Lleol wedi aros yr un fath, bydd rhain yn newid bob blwyddyn. Gallwch wirio’r cyfraddau i’ch ardal chi ar y wefan hon.
Yr unig newid i landlordiaid yw y caiff y budd-dal ei weithio allan drwy ddefnyddio’r cyfraddau Lwfans Tai Lleol, a’i dalu fel arfer yn uniongyrchol i’r tenant. Dyna fydd yr unig newid i’r rhan fwyaf o landlordiaid. Y tenant fydd yn gyfrifol am dalu’i rhent i’r landlord.
Ar ba landlordiaid bydd y Lwfans Tai Lleol yn effeithio?
Bydd y Lwfans Tai Lleol yn effeithio ar unrhyw landlord sydd wedi ymrwymo i gytundeb tenantiaeth breifat ddadreoledig gyda rhywun y dyfarnwyd Budd-dal Tai iddo. Mae ‘tenantiaeth ddadreoledig’ yn golygu tenantiaeth a gafodd ei gwneud ers 1989, ac sydd ddim yn dod o dan un o’r eithriadau yn y rhestr isod.
Pwy fydd ddim yn cael ei effeithio gan Lwfans Tai Lleol?
Dyw’r Lwfans Tai Lleol ddim yn effeithio ar y rhain:
-
landlordiaid awdurdodau lleol sy’n gosod eiddo i ‘denantiaid cyngor’
-
tenantiaethau gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
-
rhai tai â chymorth
-
tenantiaethau a ddechreuodd cyn 15 Ionawr 1989 (2 Ionawr, 1989 yn yr Alban)
-
tenantiaethau mewn carafannau, cychod preswyl neu hosteli
-
tenantiaethau lle mae’r Swyddog Rhenti wedi penderfynu bod rhan sylweddol o’r rhent ar gyfer prydau a chymorth
Pam mae Lwfans Tai Lleol yn cael ei gyflwyno?
Mae’r Lwfans Tai Lleol yn cael ei gyflwyno er mwyn cynyddu cyfrifoldeb, rhoi’r dewis yn gadarn yn nwylo’r tenantiaid, a’u helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ddechrau gweithio. Amcanion cyflwyno’r Lwfans Tai Lleol yw:
-
Tegwch – talu symiau tebyg i denantiaid mewn amgylchiadau tebyg
-
Dewis – caniatáu i denantiaid ddewis rhwng pris ac ansawdd llety
-
Tryloywder - mae'n haws i denantiaid (cyn iddyn nhw ymrwymo i gymryd eiddo), ac i landlordiaid hefyd, ganfod faint o rent y gallai Budd-dal Tai ei gwmpasu
-
Cyfrifoldeb personol – gwneud i denantiaid gymryd cyfrifoldeb am gyllidebu a thalu’u rhent eu hunain
-
Cynhwysiant ariannol – annog tenantiaid i drefnu bod eu taliadau tai yn cael eu talu i mewn i gyfrif banc a threfnu archeb sefydlog i dalu'r rhent i'w landlord
-
Gweinyddu gwell a llai o rwystrau i waith – system symlach sy'n helpu i gyflymu'r broses o weinyddu taliadau tai sy'n rhoi mwy o hyder i denantiaid, wrth ddechrau swydd, y caiff unrhyw fudd-dal mewn gwaith ei dalu'n gyflym
Pam ydyn ni’n rhoi'r gorau i roi taliadau uniongyrchol i landlordiaid?
Dylai tenantiaid y mae eu budd-daliadau'n cael eu gweithio allan gan ddefnyddio cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol, allu cymryd mwy o gyfrifoldeb o ran rheoli eu materion ariannol a thalu eu rhent i'w landlordiaid, yn yr un ffordd ag y mae tenantiaid eraill yn ei wneud. Dyma pam y caiff unrhyw fudd-dal ei dalu i'r tenant fel arfer yn hytrach nag i'r landlord.
Yn y gorffennol, doedd gan y landlord ddim hawl i gael taliadau Budd-dal Tai yn uniongyrchol. Fodd bynnag, mae gan denantiaid hawl i ofyn a oes modd trefnu hyn, a'r hawl yma sy'n newid.
Rwyf eisoes yn cael taliad uniongyrchol ar gyfer rhai o'm tenantiaid. A fydd y taliadau hyn yn dod i ben?
Na fyddant. Bydd unrhyw denant sy'n cael Budd-dal Tai ar 7 Ebrill 2008 yn dal i gael ei dalu yn yr hen ffordd. Os ydych chi’n cael taliadau Budd-dal Tai yn uniongyrchol ar ran eich tenant(iaid), bydd y rhain yn dal i gael eu talu i chi.
Bydd rheolau'r Lwfans Tai Lleol ond yn effeithio ar denantiaid sy'n gwneud cais newydd, yn symud cyfeiriad i lety rhent preifat newydd neu yn cael toriad yn eu cais, ar 7 Ebrill 2008 neu ar ôl hynny.
Os ydych chi’n landlord sy'n berchen ar sawl eiddo neu'n rheoli sawl eiddo, efallai y bydd gennych chi denantiaid sy'n hawlio Budd-dal Tai o dan y ddau gynllun gwahanol. Bydd hyn yn golygu y gallwch gael tenantiaid sy'n cael Budd-dal Tai y mae'r awdurdod lleol yn ei dalu i chi, a thenantiaid eraill sy'n cael Budd-dal Tai a gyfrifir gan ddefnyddio cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol. Byddan nhw’n eich talu chi eu hunain.
Pa ddiogelwch sydd ar gael i landlordiaid?
Mae amrywiaeth o fesurau diogelwch i ddiogelu buddiannau landlordiaid. Mae rhai o'r rhain ar waith eisoes. Er enghraifft, fel arfer bydd yn rhaid i’r awdurdod lleol dalu’r budd-dal i’r landlord, os yw’r tenant wyth wythnos neu ragor ar ei hôl hi gyda’r rhent.
Mae gennym ni hawl i dalu’r budd-dal yn uniongyrchol i’r landlord os penderfynwn ni fod y tenant yn:
-
debygol o gael anhawster i reoli’i faterion ariannol ei hun
-
annhebygol o dalu’i rent
Yn ogystal â hyn, mae gennym ni hawl i benderfynu talu’r budd-dal i’r landlord os oedd y tenant wyth wythnos neu ragor ar ei hôl hi gyda’r rhent yn ystod ei hawliad budd-dal cyfredol.
Os bydd tenant yn dechrau peidio â thalu rhent, rydym yn argymell y dylech gysylltu â ni cyn yr wythfed wythnos. Bydd hyn yn ein galluogi i archwilio a oes problem sydd angen ei datrys. Bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o hyn.
Pwy sy’n penderfynu os yw tenantiaid yn debygol o gael anhawster wrth dalu’u rhent?
Yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu os yw tenantiaid yn debygol o gael anhawster wrth dalu’u rhent. Bydd gofyn am dystiolaeth i ategu cais. Caiff tenant neu unrhyw barti arall â diddordeb wneud hyn.
Gallwch chi, fel landlord, gysylltu â ni os ydych o'r farn ei bod yn debygol y caiff eich tenantiaid drafferth talu neu os ydych yn teimlo na allan nhw ddelio â'u materion ariannol. Byddwn ni’n cysylltu â'ch tenant am ragor o wybodaeth am hyn.
Ni fydd yn penderfynu p'un a yw'r tenantiaid yn annhebygol o dalu eu rhent. Gallwn ond wneud hyn os bydd gennym ni dystiolaeth fod y tenant wedi methu talu rhent o’r blaen, neu ei fod yn debygol o fethu â'i dalu. Byddwn ni’n ystyried yr holl wybodaeth a thystiolaeth sydd ar gael i ni ar y pryd, gan gynnwys hanes hysbys y tenant, wrth wneud ein penderfyniad ni.
Bydd yn bwysig hefyd i'r landlord gadw cofnodion priodol a digonol o daliadau rhent a gafwyd, gyda manylion unrhyw gyswllt a wnaed gyda'r tenant.
Pwy sy’n penderfynu a ydyn ni’n cael talu i’r landlord?
Y ni sy’n penderfynu a ydyn ni’n cael talu i’r landlord.
Ar adegau, mae’n bosibl y bydd staff Budd-daliadau Tai yn gwybod am bobl sy’n cael anhawster i reoli’u harian. Bydd hawl gan y staff i gymryd camau ar sail yr wybodaeth hon. Os ydych chi’n meddwl bod tenant yn cael anhawster i reoli’i arian, rydyn ni’n eich argymell i annog y tenant i gysylltu â ni.
Rhaid i ni gael tystiolaeth sy’n dangos ei fod yn cael anhawster i reoli’i arian, ac y bydd yn llesol iddynt os talwn ni’n uniongyrchol i’r landlord. Gan amlaf, dylai’r dystiolaeth fod yn ysgrifenedig. Dyma rai o’r bobl sy’n cael cyflwyno tystiolaeth:
-
y tenant
-
ffrindiau neu deulu’r tenant
-
y landlord
-
grwpiau lles (gan gynnwys cynghorwyr ariannol)
-
Gwasanaethau Cymdeithasol
-
swyddogion prawf
-
Canolfan Byd Gwaith
-
Y Gwasanaeth Pensiwn
-
elusennau/mudiadau digartrefedd
-
timau Cefnogi Pobl
-
gweinyddwyr cynlluniau blaendal rhent lleol/y cyngor, a swyddogion digartrefedd neu gyngor ar dai
Byddwn ni’n gweithio gyda’r tenant wrth wneud ein penderfyniad.
Cost Rhenti Fforddiadwy
Mae'n bosib y byddwn ni'n ystyried taliadau uniongyrchol i landlord os bydd hyn o gymorth i'r tenant sicrhau neu gadw tenantiaeth. Er mwyn sicrhau neu gadw tenantiaeth, rhaid ein bod ni'n cytuno bod y rhent yn fforddiadwy i'r tenant.
I benderfynu a ydy’r rhent yn fforddiadwy, byddwn ni’n cymharu’r gost gyda’r cyfradd Lwfans Tai Lleol sy’n berthnasol i’r tenant. Bydd cost y rhent yn cael ei hystyried yn fforddiadwy os ydy hi yr un peth, neu’n llai na’r Lwfans Tai Lleol sy’n berthnasol i’r tenant.
Ydy’r tenant yn gallu gofyn i’r budd-dal gael ei dalu i’w landlord?
Fel rhan o ddiwygiadau'r Budd-dal Tai, bydd rhaid i denantiaid wneud mwy na gofyn i'w budd-dal gael ei dalu'n uniongyrchol i'w landlordiaid. Os yw tenantiaid yn teimlo y gallan nhw gael trafferth rheoli eu materion ariannol a bod ganddyn nhw’r hawl i gael yr arian wedi’i dalu i’r landlord yn uniongyrchol, byddwn yn ystyried unrhyw gais a wneir.
Pan gaiff taliadau eu gwneud yn uniongyrchol i mi, am ba hyd y byddan nhw’n para?
Os ystyrir y bydd tenant yn cael trafferth talu ei rent, ac nad yw'r sefyllfa honno'n debygol o newid, mae'n debygol y caiff y landlord ei dalu'n uniongyrchol yn yr hirdymor.
Mewn achosion lle y mae'n debygol bod y sefyllfa yn un dros dro, neu lle y mae ôl-ddyledion rhent o fwy nac wyth wythnos wedi'u had-dalu, caiff y sefyllfa ei hadolygu. Os bydd y tenantiaid mewn sefyllfa well i gael y budd-dal eu hunain, ac i dalu eu rhent yn llawn ac ar amser, daw'r taliadau uniongyrchol i'r landlord i ben.
Oni fydd rhai tenantiaid yn gwario eu Lwfans Tai Lleol ar bethau eraill?
Telir Budd-dal Tai llawer o denantiaid yn y sector rhentu preifat iddynt hwy ac maen nhw’n talu eu rhent ar amser yn rheolaidd. Pan fydd tenantiaid yn newid i daliad uniongyrchol, byddwn ni’n ei wneud yn glir iddyn nhw beth yw eu cyfrifoldebau, a beth fydd canlyniadau peidio â thalu eu rhent.
Bydd rhai cwsmeriaid sy’n methu rheoli eu taliadau rhent eu hunain. Bydd y pecyn cynhwysfawr o fesurau diogelwch yn atal y cwsmeriaid hyn rhag mynd i drafferthion na ellir eu rheoli.
Mae'r cynllun Lwfans Tai Lleol wedi bod ar waith mewn 18 o awdurdodau lleol ledled Cymru, Lloegr a'r Alban ers mis Hydref 2003. Yn yr ardaloedd hyn, mae 84% o denantiaid y mae eu budd-dal yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio rheolau'r Lwfans Tai Lleol yn rheoli eu taliadau rhent eu hunain yn llwyddiannus. O'r gweddill, dim ond un rhan o dair y mae eu Budd-dal Tai yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r landlord oherwydd eu bod heb dalu rhent am wyth wythnos neu fwy. Telir budd-dal y gweddill i'r landlordiaid oherwydd bod yr awdurdod lleol wedi nodi ei bod yn bosibl na fyddan nhw ddim yn gallu rheoli eu taliadau rhent.
Oni fydd hyn yn annog landlordiaid i beidio â rhentu eu heiddo i hawlwyr?
Rydym yn credu bod cynllun y Lwfans Tai Lleol o fudd i landlord a thenantiaid.
Bwriad y diwygiadau yw helpu landlordiaid a thenantiaid drwy greu system fwy tryloyw sy'n haws ei deall a'i gweinyddu. Yn gyffredinol, bydd yn cefnogi'r gydberthynas rhwng yr awdurdod lleol, tenantiaid a landlordiaid ac yn ei egluro'n llawn.
Bydd landlordiaid yn dal i allu cysylltu â'r awdurdod lleol am gymorth gydag ôl-ddyledion rhent ar gyfer tenantiaid y mae eu budd-dal yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio rheolau'r Lwfans Tai Lleol. Fyddan nhw ddim yn cael gwneud hyn os oes ganddyn nhw denant sydd ag ôl-ddyledion rhent ond nad yw'n cael budd-dal.
Oherwydd bod taliadau yn mynd i denantiaid yn y rhan fwyaf o achosion, fydd dim gofyn i landlordiaid ad-dalu symiau mawr mewn budd-daliadau a or-dalwyd. O dan gynllun y Lwfans Tai Lleol, mae'n annhebygol y byddai'r awdurdod lleol yn gofyn i chi ad-dalu unrhyw arian y mae eich tenant wedi'i dalu'n uniongyrchol i chi.
Rydym ni’n credu fod y mesurau diogelwch sy'n bodoli o ran taliadau uniongyrchol i landlordiaid yn taro'r cydbwysedd cywir wrth ddiogelu buddiannau landlordiaid a thenantiaid.
A gaf i gynnwys taliadau uniongyrchol fel un o amodau'r denantiaeth?
Dyw awdurdod lleol ddim yn rhan o'r cytundeb tenantiaeth rhwng landlord a thenant, a dyw e ddim yn rhwymedig i unrhyw amodau mewn cytundeb tenantiaeth. Chaiff yr awdurdod lleol ddim talu budd-dal yn uniongyrchol i landlord ar gais tenant - mae'r rheolau o ran pryd y gallwn dalu'r landlord yn uniongyrchol wedi’u nodi uchod. Chewch chi ddim cynnwys taliadau uniongyrchol fel un o amodau'r denantiaeth.
Pa hawliau apêl sydd gennym ni yn erbyn penderfyniad taliadau?
Dyw hawliau apêl ddim yn newid o ganlyniad i'r cynllun newydd. Bydd hawl i apelio o hyd yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod i beidio â gwneud taliadau uniongyrchol.
Cysylltu â Ni
Os ydych eisiau gwybod rhagor am y newidiadau a sut maen nhw’n effeithio arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Budd-daliadau Tai
CBS Rhondda Cynon Taf
Tŷ Bronwydd
Y Porth
CF39 9DL
Ffôn: 01443 425002
E-bost: CwestiynauBudd-dalTai@rhondda-cynon-taf.gov.uk|