Treth y Cyngor – gostyngiadau o ran y bandiau

Efallai byddwch chi’n cael gostyngiad ar eich bil os bydd unigolyn sy’n anabl yn barhaol (boed e’n blentyn neu’n oedolyn) yn byw yn yr annedd. Rhaid bod y nodweddion canlynol sy’n hanfodol neu’n bwysig iawn i les yr unigolyn anabl gyda chi yn eich cartref:-

  • ystafell heblaw am ystafell wely, ystafell ymolchi, cegin neu dŷ-bach sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf gan yr unigolyn anabl;
  • ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol at ddefnydd yr unigolyn anabl;
  • lle ychwanegol yn yr annedd ar gyfer defnyddio cadair olwyn.

Wrth bwyso a mesur os bydd hawl gyda chi i gael gostyngiad, bydd rhaid i’r Cyngor benderfynu os byddai’r unigolyn anabl yn ei chael hi’n amhosib neu’n anodd i fyw yn yr annedd petai’r nodweddion ychwanegol uchod ddim wedi’u sefydlu yn yr annedd. Rhaid ystyried hefyd os bydd iechyd yn unigolyn yn dioddef neu’i anabledd yn gwaethygu petai’r nodweddion uchod ddim ar gael yn yr annedd.

Does dim rhaid i’r ystafell ychwanegol fod yn un sy wedi’i hadeiladu’n arbennig er mwyn cael y gostyngiad. Mae modd ichi ddefnyddio ystafell arferol at ddefnydd yr unigolyn anabl yn benodol.

Os bydd hawl gyda chi i gael gostyngiad, byddwn ni’n gostwng eich treth i’r band yn union islaw’r band ar y rhestr brisio. Er enghraifft, os ydy’ch cartref ym mand D, byddwch chi’n cael bil sy’n cyfateb i dreth ar gyfer cartref ym mand C. Fydd hyn ddim yn effeithio ar werth eich cartref a fydd dim newid yn eich band ar y rhestr brisio. Yn yr enghraifft yma, bydd eich cartref yn ymddangos ym mand D ar gyfer y rhestr brisio. Os ydy’ch cartref yn perthyn i fand A (band isaf ar gyfer treth y Cyngor) yn barod, byddech chi’n cael gostyngiad gwerth 1/9 o dreth y Cyngor ar gyfer band D.

Manylion Cyswllt

Ffôn: 01443 681081
Minicom: 01443 680708
Ebost: Revenues@rhondda-cynon-taf.gov.uk|