Treth y Cyngor – hawliad newydd

Ydych chi ar incwm bach? Ydych chi’n gweithio, neu ydych chi’n ddi-waith? Efallai bod eisiau cymorth arnoch chi i dalu’ch Treth y Cyngor, ac efallai bydd hawl gyda chi i hawlio Budd-dal Treth y Cyngor.

(Cofiwch fod Llywodraeth San Steffan yn bwriadu diwygio’r systemau lles a budd-daliadau o fis Ebrill 2013. Budd-dal Treth Gyngor fydd un o’r budd-daliadau fydd yn cael ei effeithio gan y newidiadau, ac o flwyddyn nesaf ymlaen, bydd y cyfrifoldeb o helpu pobl gyda’u biliau Treth Gyngor yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.  Rydym ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu cynllun newydd i ddisodli budd-dal Treth Gyngor yng Nghymru a byddwn ni’n ysgrifennu at y rheiny wedi’u heffeithio gyda rhagor o wybodaeth cyn i’r cynllun newydd gael ei gyflwyno).

Budd-dal Treth Gyngor

Efallai y cewch chi hawlio Budd-dal Treth Gyngor os ydych chi’n talu trethi a bod eich incwm a chyfalaf (cynilion a buddsoddiadau) o dan rhyw swm penodol. Gallech chi hefyd fod yn gymwys os ydych chi allan o waith, neu mewn swydd ac yn ennill cyflog.

Ad-daliad Ail Oedolyn

Efallai y cewch chi Ad-daliad Ail Oedolyn os yw’r person rydych chi’n rhannu’ch cartref gyda nhw:

  • ddim yn bartner na phartner sifil i chi
  • yn 18 oed neu'n hŷn
  • ddim yn talu rhent i chi
  • ddim yn talu Treth y Cyngor eu hunain
  • ar incwm bach
  • Os oes gennych chi gynilion o dros £16,000 fel arfer cewch chi ddim hawlio Budd-dal Treth Gyngor, oni bai eich bod chi’n cael y ‘credyd gwarant’ o’r Credyd Pensiwn.

Fydd eich incwm na’ch cynilion ddim yn effeithio ar Ad-daliad Ail Oedolyn. Mae Ad-daliad Ail Oedolyn wedi’i seilio ar amgylchiadau’r person arall.

Faint bydda i'n ei gael?

I bennu Budd-dal Treth Gyngor, byddwn yn edrych ar:

  • Arian sydd gennych chi a’ch partner neu bartner sifil yn dod i mewn, gan gynnwys enillion, rhai budd-daliadau a chredydau treth a phethau fel pensiwn/pensiynau galwedigaethol.
  • Eich cynilion a chynilion eich partner neu bartner sifil
  • Eich amgylchiadau: er enghraifft eich oed, maint eich teulu a’u hoedrannau ac os ydych chi neu aelod o’ch teulu’n anabl. 

Y Budd-dal Treth Gyngor mwyaf mae modd ichi ei gael yw 100% o’ch Treth Gyngor.

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu’r ‘credyd gwarant’ o Gredyd Pensiwn mae’n bosib y gallwch gael yr help mwyaf gyda’ch Treth y Cyngor.

Y canran uchaf o Ad-daliad Ail Oedolyn y gallwch dderbyn yw 25% o’ch Treth y Cyngor.

Oes hawl gyda fi? – Ewch ar-lein

Cyfrifiannell Budd-daliadau ar-lein  Hoffech chi wybod a oes hawl gyda chi i hawlio budd-daliadau Tai neu fudd-dal Treth y Cyngor? Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau ar-lein.

 

Gwefan ddefnyddiol

I weld y budd-daliadau eraill efallai bydd hawl gyda chi iddyn nhw, galwch heibio i wefan Directgov|

Manylion cyswllt

Ffôn: 01443 681081
Ffacs: 01443 680661
Minicom: 01443 680 708
Ebost: CwestiynauBudd-dalTai@rhondda-cynon-taf.gov.uk|

Cyfeiriad

Adran Budd-daliadau Tai
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Tŷ Bronwydd
Y Porth
CF39 9DL

neu un o’n Canolfannau I Bob Un|