Mae gwasanaethau gofal plant sy’n cael eu cynnal cyn ac/neu ar ôl oriau’r ysgol yn cynnwys clybiau carco, clybiau brecwast, clybiau ôl-oriau’r ysgol, a chlybiau gwyliau’r ysgol. Mae’r clybiau yma ar gael i blant ysgol ac maen nhw’n cael eu cynnal yn yr ysgolion neu’n agos atyn nhw.
Mae’n bosibl cofrestru gwasanaethau ôl-oriau’r ysgol gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW)| a’u harolygu bob blwyddyn. Yn amlach na pheidio, maen nhw’n cael eu cynnal ôl-oriau’r ysgol gan garfan sydd, fel arfer, yn cael eu galw’n ‘weithwyr chwarae’.
Dylai’r gweithgareddau anelu at y nod o helpu plant i ddysgu, chwarae, ac ymlacio gyda’u ffrindiau. Mae’r plant weithiau’n cael eu casglu o’r ysgol gan weithwyr chwarae. Mae sawl math o wasanaethau ôl-oriau’r ysgol i’w cael, felly chwiliwch am yr un sydd fwyaf addas i chi a’ch plant.
Dyma rai o fanteision clybiau a gwasanaethau ôl-oriau’r ysgol:
-
Mae’n gyfle i’r plant ddysgu ac ymlacio ar ôl ysgol, a chael hwyl gyda’u ffrindiau;
-
Maen nhw wedi’u hanelu at anghenion y plant hynny sydd â rhieni sy’n gweithio.
Beth yw’r mathau gwahanol o wasanaethau ôl-oriau’r ysgol?
Sut alla i fod yn siŵr y bydd fy mhlant i’n ddiogel?
Chi sy’n adnabod eich plant orau, felly chwiliwch am wasanaeth ôl-oriau’r ysgol a fydd fwyaf addas i’ch plant. Mae’n ofynnol bod rhai gwasanaethau ôl-oriau’r ysgol wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a bod y staff yn cael eu gwirio er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n addas i ofalu am blant. Mae rhaid gofalu bod o leiaf hanner y staff wedi’u hyfforddi a bod rheolau ar waith ynglŷn â nifer y staff sy’n gofalu am nifer y plant - cymhareb o 1 aelod o staff i bob 8 o blant (yn ddibynnol ar oedran y plant dan sylw). Mae safle’r gwasanaeth hefyd yn cael ei wirio er mwyn gwneud yn siŵr ei fod e’n ddiogel ac yn addas i blant. Unwaith mae’r gwasanaeth ôl-oriau’r ysgol wedi’i gofrestru, mae’r safle’n cael ei arolygu bob dwy flynedd er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn ddiogel ac yn addas. Ar hyn o bryd, does dim rhaid cofrestru rhai gwasanaethau, er enghraifft, gwasanaethau sy’n derbyn plant dros 8 oed yn unig. Mae croeso i chi ofyn i’r gwasanaethau ôl-oriau’r ysgol a ydyn nhw wedi’u cofrestru ai peidio.
Faint o blant fydd yno?
Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau ôl-oriau’r ysgol yn darparu lleoedd i ryw 10 i 40 o blant. Mae rhai’n llai, ac eraill yn fwy.
Beth fydd ystod oedran y plant?
Mae’r mwyafrif o’r plant sy’n mynychu gwasanaethau ôl-oriau’r ysgol rhwng 5 ac 11 oed. Mae rhai gwasanaethau hefyd yn darparu lleoedd i blant rhwng 3 a 4 oed – mae hyn yn gweddu ag addysg feithrin neu addysg gyn ysgol. Mae rhai gwasanaethau’n darparu lleoedd sydd wedi’u hanelu at blant hŷn sydd rhwng 10 a 14 oed.
Pryd fydd y gwasanaethau ar agor?
Mae hawl gan wasanaethau ôl-oriau’r ysgol i agor cyn yr ysgol, a gofalu am blant ar ôl oriau’r ysgol tan tua 6pm.
Maen nhw’n debygol o fod ar agor ar adegau eraill yn ystod gwyliau’r ysgol. Holwch eich clwb chi.
Faint fydd y gost?
Gallwch chi ddisgwyl talu:
-
Rhwng £2.50 a £4.50 y plentyn am sesiwn gofal plant ôl-oriau’r ysgol;
-
Rhwng £13 a £22 y diwrnod [neu rhwng £6.50 a £12.50 y plentyn am sesiwn] am le mewn cynllun chwarae gwyliau’r ysgol.
Os hoffech chi chwilio am wasanaethau gofal plant sy’n cael eu cynnal cyn ac/neu ar ôl oriau’r ysgol, ewch i wefan Gwasanaeth Addysg y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd Rhondda Cynon Taf: www.earlyyearsrct.co.uk|
Manylion cyswllt
Ffôn: 0800 180 4151
E-bost: fis@rhondda-cynon-taf.gov.uk|