Triniaethau Galwedigaethol

Mae ein Gwasanaeth Triniaethau Galwedigaethol yn gweithio gyda phobl o bob oedran sy’n byw gydag anableddau corfforol neu salwch cronig er mwyn rhoi cymorth iddyn nhw i fyw’n annibynnol.

Rydyn ni hefyd yn rhoi cymorth i bobl gydag anawsterau bywyd bob dydd e.e. salwch iechyd y meddwl neu anabledd dysgu.

Os ydych chi’n gymwys i dderbyn cymorth, byddwn ni’n trafod eich anghenion gyda chi a dod o hyd i ffyrdd i wella’ch annibyniaeth. Os oes rhywun yn rhoi gofal i chi, byddwn ni’n eu galluogi nhw i ddarparu’r gofal priodol. Mae anghenion pawb yn wahanol, felly bydd y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yn unigryw i bob person.

Rydyn ni’n cynnig cymorth drwy gyflenwi, gosod a chynnal a chadw offer neu addasu’ch cartref i wneud bywyd yn haws i chi.

I gael rhagor o fanylion am y gwasanaeth yma, gan gynnwys manylion sefydliadau eraill a gall fod o gymorth, gweler taflen wybodaeth Gwasanaethau Triniaethau Galwedigaethol yn y Gymuned sydd i’w chael yn ‘Dogfennau Perthnasol’ i’r dde.

Manylion Cyswllt

I dderbyn Gwasanaethau i Blant (plant a phobl ifainc o dan 18 oed), cysylltwch â’n Carfan Plant Anabl, Unedau 13 a 14 Cetre Court, Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, Trefforest, Pontypridd, CF37 5YR
Ffôn: 01443 665455
Ebost:
chwiliafe@rctcbc.gov.uk|

I dderbyn gwasanaethau i Oedolion (unrhyw un dros 18 oed) cysylltwch â’n Carfan ar Ddyletswydd
Ffôn: 01443 425003
Ebost:
gwasanaethaucymdeithasol@rctcbc.gov.uk|

Bydd y Swyddfa Gwasanaeth Argyfwng yn ymateb ar frys i unrhyw argyfwng gwasanaethau cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar wyliau banc a thros y penwythnos.
Ffôn: 01443 849944