Cyngor i ddefnyddwyr

Mae ystod eang o daflenni gwybodaeth ar gael yn ymwneud â materion i ddefnyddwyr.  Defnyddiwch un o'r dolennau isod i'w gweld nhw:

  • Problemau gyda nwyddau
  • Problemau gyda gwasanaethau
  • Problemau gyda cheir
  • Problemau eraill yn ymwneud â defnyddwyr
  • Anghydfod â masnachwr/busnes

Byddwn ni’n darparu’r cyngor gorau posibl er budd y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu drwy wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r adnoddau sydd ar gael.

Mae ein gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mae gyda ni dair canolfan gynghori sydd ar agor pum diwrnod yr wythnos ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ein cyfeiriadau a manylion cyswllt ar waelod y dudalen.

Byddwn ni’n:

  • Rhoi cyngor i chi cyn i chi siopa
  • Rhoi cyngor diduedd yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid a gwerthwyr am unrhyw broblem sy’n ymwneud â safonau masnach.
  • Asesu pob ymholiad am droseddau posibl ac yn eich cyfeirio at adran orfodi fwyaf perthnasol y Gwasanaeth Safonau Masnach.
  • Rhoi cymorth ymarferol i gwsmeriaid sy’n methu â datrys anghydfod gyda gwerthwr.
  • Rhoi cymorth a chefnogaeth ymarferol i gwsmeriaid ar sut i ddefnyddio’r Llysoedd Hawliadau Bychain/ffyrdd eraill o ddatrys anghydfod.
  • Ymweld â chartrefi cwsmeriaid sydd ag anghenion arbennig ac ymateb i geisiadau gan leiafrifoedd ethnig mewn modd ystyriol a phroffesiynol.
  • Darparu cyngor i fusnesau ar hawliau a chyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth bresennol

Bydd ein staff ni’n: 

  • Eich gweld chi o fewn 10 munud wedi i chi gyrraedd canolfan gynghori.
  • Dweud wrth y cwsmeriaid pwy ydyn nhw.
  • Ymateb i’ch ymholiad dros y ffôn ar unwaith neu eich ffonio chi’n ôl o fewn un diwrnod gwaith.
  • Ateb eich llythyr neu e-bost o fewn un diwrnod gwaith ac anfon ateb manwl atoch chi o fewn 5 diwrnod gwaith.
  • Mynd i’r afael â’ch cwynion mor gyflym â phosibl, mor deg â phosibl ac mor sensitif â phosibl.
  • Rhoi adroddiad cynnydd i chi am eich cwyn, bob pythefnos nes y byddwn ni wedi cau pen y mwdwl ar y mater.

Rydyn ni angen y canlynol oddi wrthoch chi

  • Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni, gwnewch yn siŵr bod yr holl waith papur perthnasol gyda chi
  • Cadwch bob dogfen wreiddiol ac eitem mewn man diogel rhag ofn y bydd eu hangen nhw yn y dyfodol
  • Os byddwch chi’n ysgrifennu aton ni, dywedwch beth yw eich rhif ffôn yn ystod y dydd, os oes un gyda chi
  • Os byddwch chi’n ymateb i un o’n llythyron, defnyddiwch y cyfeirnod
  • Dywedwch wrthon ni os bydd unrhyw beth yn newid am yr achos.

Ein Prosiectau a’n Mentrau ni

Byddwn ni’n darparu gwasanaeth sy’n bodloni’r amcanion corfforaethol i wneud ein cymunedau’n fwy diogel, i wella’n iechyd a’n lles a’r lle rydyn ni’n byw ynddo, rhoi hwb i’r economi ac addysg ar gyfer ffyniant.

Byddwn ni’n hyrwyddo addysg i gwsmeriaid ymhlith pobl ifainc yn yr ysgolion, ac i’r rheini sydd ag anghenion arbennig, trwy gystadleuaeth Defnyddiwr Ifanc y Flwyddyn a mentrau eraill.

Byddwn ni’n cefnogi Strategaeth Pobl Hŷn Rhondda Cynon Taf.

Byddwn ni’n datblygu ein cysylltiadau â busnesau yn y gymuned drwy ddatblygu partneriaethau a mentrau hunan-reoleiddio. Bydd y mentrau yma’n cynnwys y Siartr Masnach Deg sydd gyda ni ar gyfer Busnesau Moduro ac Adeiladwyr. Y Siarteri yma yw’r cyntaf yng Nghymru i dderbyn Achrediad y Swyddfa Masnachu Teg. Mae rhestr o’r garejys a’r adeiladwyr sy’n aelodau o’r siartr i’w gael o dan ‘dogfennau cysylltiedig’. 

Rhagor o Wybodaeth  

Canolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU

Mae’r Ganolfan yn rhan o Rwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd (EEC-net) sy’n cynnwys 29 o ganolfannau drwy Ewrop gan gynnwys yng Ngwlad yr Iâ a Norwy. Nod y rhwydwaith yw darparu gwybodaeth am hawliau defnyddwyr yn Ewrop a helpu gydag unrhyw anghydfod sy’n croesi ffiniau.

Llyfrfa Ei Mawrhydi

Mae’n darparu testunau llawn Deddfau ers 1988, a mynediad at Inforoute, Cofrestr Asedau Gwybodaeth y Llywodraeth.

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra)

Mae Defra yn gweithio ar gyfer hanfodion bywyd – dŵr, bwyd, aer, tir, pobl, anifeiliaid a phlanhigion.

Trading Standards Central

Siop un stop am wybodaeth diogelu defnyddwyr yn y DU. Gwybodaeth i fusnesau a defnyddwyr.

Tollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi

Gwybodaeth a chyngor i’r cyhoedd ac i fusnesau.

Swyddfa Masnachu Teg

Mae dau ddiben i’r Swyddfa Masnachu Teg: diogelu defnyddwyr ac esbonio’u hawliau; a sicrhau y bydd busnesau yn cystadlu ac yn gweithredu’n deg.

Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau

Gweithio gyda busnesau, gweithwyr a defnyddwyr er mwyn cynyddu cynhyrchiant y DU a’i gwneud yn wlad fwy cystadleuol er mwyn sicrhau ffyniant i bawb.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Corff annibynnol sy’n diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn cysylltiad â bwyd. Cafodd ei sefydlu drwy Ddeddf Seneddol yn 2000.

Cysylltwch â ni

Cyswllt Defnyddwyr Cymru

Mae Cyswllt Defnyddwyr yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Safonau Masnach yr Awdurdod Lleol trwy ddarparu lefel sylfaenol o gyngor a gwybodaeth am amrywiaeth eang o broblemau defnyddwyr. Dim ond y cwynion lle mae angen ymchwilio neu gymorth pellach sy'n cael eu cyfeirio at y Safonau Masnach neu wasanaethau cyngor eraill.

Gallwch gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr trwy ffonio’r llinell Gymraeg ar 08454 04 05 05.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw faterion i ddefnyddwyr cysylltwch â’ch Gwasanaeth Cyngor i Ddefnyddwyr lleol:

Swyddfa Pontypridd - ar agor 9am - 4pm Dydd Llun - Dydd Iau

Canolfan Cyngor i Ddefnyddwyr
Canolfan ibobun
Tŷ Sardis
Pontypridd
CF37 1DU
E-bost: consumeradvice@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Llinell Cyngor Busnes 01443 425738

Swyddfa Aberdâr - ar agor 9am - 4pm, Dydd Llun, Mawrth, Mercher a Gwener

Cyngor i Ddefnyddwyr
Canolfan ibobun
Rock Grounds
Aberdâr
CF44 7AE

Swyddfa Treorci - ar agor 9am - 4pm Dydd Llun - Dydd Iau

Cyngor i Ddefnyddwyr
Canolfan ibobun
Station Road
Treorci
CF42 6NN