Treth y Cyngor – gostyngiadau

Mae eich Bil Treth y Cyngor yn dibynnu ar:

  • i ba fand treth mae’ch cartref chi yn perthyn
  • nifer y bobl dros 18 mlwydd oed sy’n byw yno

Pan rydyn ni’n penderfynu maint eich bil Treth y Cyngor, rydyn ni’n ei chymryd hi’n ganiataol bod dau, dros 18 mlwydd oed, yn byw yn y mwyafrif o dai.

Cyflwyno cais am ostyngiad ar Dreth y Cyngor ar-lein 
Treth y Cyngor – gostyngiad – ffurflen gais (Saesneg)

 

Gostyngiadau ar gyfer pobl sy’n byw ar eu pennau’u hun

 

Os rydych chi dros 18 mlwydd oed, ac yn byw ar eich pen eich hun, mae modd ichi gael gostyngiad o 25% (un chwarter).

Er enghraifft, efallai bydd gofyn inni benderfynu os hwn yw eich prif gartref chi, os ydych chi’n gweithio oddi cartref neu os ydych chi’n berchen ar fwy nag un eiddo.

 

Gostyngiadau eraill

Mae rhai pobl yn cael eu heithrio rhag talu Treth y Cyngor. Felly, fyddwn ni ddim yn eu cymryd nhw i ystyriaeth pan fyddwn ni’n penderfynu faint o bobl, dros 18 mlwydd oed, sy’n byw yn eich cartref chi.

Efallai bydd modd inni roi gostyngiad Treth y Cyngor ichi os oes rhywun yn eich cartref chi:

 

  • yn fyfyriwr, yn fyfyriwr sy’n dilyn cwrs nyrsio, yn gwneud prentisiaeth neu ar gynllun hyfforddi’r ifainc
  • yn ŵr neu wraig priod o wlad dramor neu’n ddibynnydd i fyfyriwr (y mae amodau eich derbyn i’r wlad yn eich gwahardd rhag gweithio neu hawlio budd-dal)
  • dan 20 mlwydd oed ac yn dal i fod yn yr ysgol neu newydd adael yr ysgol
  • yn un rydych chi’n derbyn Budd-dal Plant ar ei gyfer
  • yn Gynorthwydd Ieithoedd Tramor
  • yn dioddef o anabledd meddwl dwys
  • yn Gynhaliwr
  • mewn carchar neu’n cael ei ddal mewn canolfan gadw arall gan yr awdurdodau
  • yn byw mewn ysbyty
  • yn byw mewn cartref gofal preswyl
  • yn aelod o gymuned grefyddol
  • yn byw mewn lloches ar gyfer pobl ddigartref neu loches dros nos
  • aelod (neu’n ddibynnydd) pencadlys rhyngwladol neu’r sefydliadau amddiffyn
  • yn aelod (neu yn ddibynnydd) byddin dramor; neu
  • yn meddu ar freintiau breinryddid diplomyddol.

 

Mae modd inni ostwng eich bil o 25% neu 50%, gan ddibynnu ar sawl un rydyn ni’n ei gyfrif.

Os rydyn ni’n cyfrif mai dim ond un sy’n byw yn eich cartref chi, mae modd inni roi gostyngiad o 25% ichi.

Os rydyn ni’n dod i’r penderfyniad bod neb yn byw yn eich tŷ i ddibenion Treth y Cyngor, mae modd inni roi gostyngiad o 50%.  

Manylion Cyswllt

Treth y Cyngor
Tŷ Bronwydd
Porth Rhondda
Rhondda Cynon Taf
CF39 9DL

Ffôn: 01443 681081
Ffacs: 01443 680505
Minicom: 01443 680708
Ebost: revenues@rhondda-cynon-taf.gov.uk|