Strategaeth Adfywio Canol Tref Treorci
Rydym ni wedi paratoi Strategaeth Adfywio Canol Tref Treorci ar y cyd â rhanddeiliaid a budd-ddeiliaid yn y gymuned. Bellach, daeth y Strategaeth yn Ganllawiau Cynllunio Atodol i helpu'r Awdurdod Cynllunio Lleol arwain datblygiad Canol y Dref yn y dyfodol mewn ffordd sy'n cyfrannu at adfywio’r economi, y gymdeithas, a’r amgylchedd yn yr ardal.