Mae’r sir yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt, tirwedd ddramatig a daeareg sy’n fyd-enwog. Mae’r Cyngor yn helpu gyda chadwraeth bywyd gwyllt a nodweddion naturiol yn y sir.
Mae ein gwaith yn cynnwys rhoi polisi ar waith, rheolaeth ymarferol, monitro niferoedd rhywogaethau ac ecosystemau, codi ymwybyddiaeth, annog addysg ac annog pobl i fwynhau cefn gwlad.
Ein canllaw ar gyfer gweithio dros fywyd gwyllt yw ‘Gweithredu dros Natur: Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Bioamrywiaeth yn Rhondda Cynon Taf’. Cafodd y cynllun gweithredu yma ei lunio gan bartneriaeth o gyrff ac unigolion. Mae’n cynnwys camau gweithredu i godi ymwybyddiaeth am fywyd gwyllt a’i bwysigrwydd yn Rhondda Cynon Taf, cofnodi a monitro bywyd gwyllt, diogelu safleoedd a rheoli tir er budd bywyd gwyllt.
Taflenni Gwybodaeth Tymhorol
Mae rhagor o wybodaeth am fywyd gwyllt yn Rhondda Cynon Taf ar ein taflenni gwybodaeth tymhorol. Mae’r cyntaf yn y gyfres ar ystlumod – i’w lawrlwytho ewch i’r adran dogfennau cysylltiedig ar ochr dde’r dudalen yma. Mae hefyd yn cynnwys manylion y daith ystlumod fydd yn cael ei chynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd ar 28ain Awst.
Cofnodi a Monitro
Rhan bwysig o’n gwaith ni yw cofnodi a monitro bywyd gwyllt o fewn y sir. Rydyn ni wrthi’n barhaol yn monitro gwahanol rywogaethau a chynefinoedd. Drwy fonitro, rydyn ni’n gallu cymryd camau gweithredu os bydd niferoedd rhywogaeth neu ardal yn dechrau gwaethygu.
Mae Cylchlythyr y Cofnodwyr yn cael ei gyhoeddi tua dwywaith y flwyddyn. Mae’n gyfle i chi gael gwybod pa fywyd gwyllt sydd o’ch cwmpas chi ac i ddweud wrthyn ni beth rydych chi wedi’i weld. Mae hefyd yn cynnwys manylion gweithgareddau a chyrsiau hyfforddi, holiaduron ac ymweliadau all fod o ddiddordeb i wylwyr bywyd gwyllt. I gael copi electronic neu bapur, e-bostiwch: ParksCountryside@rhondda-cynon-taff.gov.uk|
Mae dolen i’r rhifyn diweddaraf o Gylchlythyr y Cofnodwyr ar frig y dudalen.
Garddio er budd Bywyd Gwyllt
Gall gerddi fod yn fannau arbennig i fywyd gwyllt a thrwy reoli’ch gardd yn gywir gallwch chi ddenu amrywiaeth eang iawn o fywyd gwyllt i’ch gardd. Dyma rai syniadau i’ch helpu chi i droi’ch gardd yn gartref delfrydol i fywyd gwyllt:
-
Peidiwch â defnyddio plaladdwyr a chwynladdwyr cemegol
-
Rhowch bwll yn eich gardd
-
Gadewch i rai ardaloedd dyfu’n wyllt
-
Defnyddiwch flychau i adar ac ystlumod
-
Cadwch gofnod o’r bwyd gwyllt fyddwch chi’n ei weld yn eich gardd
Am ragor o wybodaeth ar sut i wella’ch gardd neu i lenwi’n Holiadur Bywyd Gwyllt yn yr Ardd, cysylltwch â ni:
Adran Parciau a Chefn Gwlad
Llwyn Castan
Library Road
Pontypridd
CF37 2YA
Ffôn: 01443 400563
Ffacs: 01443 405184
E-bost: ParksCountryside@rhondda-cynon-taff.gov.uk|