Cylchlythyr y Cofnodwyr 23 (Hydref 2010)
Newid ac amrywio o hyd mae'n bioamrywiaeth ni yma. Bydd rhai o'r newidiadau yn digwydd dros y tymor hir, a phrosesau byd-eang yn eu gyrru. Dim ond deng mlynedd sydd ers i ni ddechrau cyhoeddi 'Cylchlythyr y Cofnodwyr' ond rydym ni eisoes wedi nodi colled nifer o'n hoff rywogaethau traddodiadol, megis y gwybedog brith. Ar y llaw arall, rydym wedi croesawu'r gwas neidr blewog, y criciedyn penfain, a rhywogaethau eraill i'n plith a'u gweld yn ymledu hefyd. Ond yr un fydd rhai elfennau o'r tywydd o flwyddyn i flwyddyn, a'n dulliau rheoli'r cynefinoedd. Bydd effeithiau hyn oll yn amlwg, yn enwedig ar fannau penodol. Gwaith anodd ar adegau yw penderfynu beth yw'r rhesymau am newidiadau. Ai newidiadau tymor hir neu fyr yw'r rhain, newidiadau dros dro neu barhaol? Bydd hi'n llanw a thrai o hyd ym myd ein bioamrywiaeth leol ni. Rhaid i ni weithio'n galed i ddeall y newidiadau hyn. Bydd gofyn am gofnodi'r cyfan, llunio adroddiadau, a monitro o hyd. Fe welwch lu o enghreifftiau o amrywiadau lleol ac o newidiadau tymor hir hefyd yn y Cylchlythyr hwn. Sut mae penderfynu p'un yw p'un? Yn bwysicach na hynny, beth sydd i'w wneud? (A beth sy'n bosibl, wrth gwrs!) Mater braidd yn wahanol yw hyn. Cyn popeth, rhaid canfod beth oedd cyflwr baslin yr ymchwil. Wrth i chi gyflwyno adroddiadau ar eich ardaloedd lleol chi, byddwn ni i gyd yn cyfrannu at greu darlun o'r fioamrywiaeth leol. Dealltwriaeth leol yw'r nod uchaf a phwysicaf i bob cynllun gweithredu amrywiaeth lleol.
Neu, a rhoi'r peth yn fyr, diolch o galon i chi am barhau i anfon cofnodion ac adroddiadau atom o hyd.
Atal colli bioamrywiaeth
2010 yw Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth. Dyma'r flwyddyn i Ewrop ymdrechu i atal colli bioamrywiaeth, drwy'i ymateb i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Fioamrywiaeth ym 1992. Yng Nghymru, fel yng ngweddill gwledydd Ewrop, mae'n cynefinoedd yn dal i golli tir.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi, ar y cyd â Phartneriaeth Bioamrywiaeth fersiwn newydd o 'Fframwaith Amgylchedd Naturiol i Gymru'. Mae'r Bartneriaeth yn ymwneud â phawb yng Nghymru sy'n pryderu am fioamrywiaeth. Teitl a Fframwaith yw 'Cymru Fyw - fframwaith newydd ar gyfer ein hamgylchedd, ein cefn gwlad a'n moroedd'. Nod y Fframwaith yma yw delio â'r prif broblemau sy'n effeithio ar ein bywyd gwyllt. Sail y Fframwaith yw'r gwaith ardderchog a gafodd ei wneud eisoes ar y rhywogaethau a'r cynefinoedd. Yn gefn i'w cyfan mae amrywiaeth gyfoethog yr holl ymdrechion lleol a chymunedol. Bydd dimensiwn newydd i'r gwaith hefyd. Rydym am ddarganfod sut mae systemau ecolegol hefyd. Sut maent yn gweithio? Sut rydym ni fodau dynol yn dibynnu ar 'wasanaethau ecosystem'. Mae'r gwasanaethau ecosystem hyn yn cynnal ei darpariaeth bwyd a diod, diwylliant a thwristiaeth. Nod y Fframwaith yw sicrhau cydnabod gwerth yr ecosystemau. Rhaid i bolisïau Cymreig parthed yr economi, iechyd, ac addysg, ayyb, cymryd i ystyriaeth gwerth yr ecosystemau, eu bywyd gwyllt, a'r gwasanaethau a ddarparant. Bydd yr ymgynghoriad ar 'Cymru Fu' ar agor tan ddiwedd mis Rhagfyr. Hoffech chi gael copi papur o'r ddogfen grynhoi o Lywodraeth y Cynulliad. Os hoffech chi weld rhagor o ddeunydd electronig, edrychwch ar eu gwefan|
Jennie Tann
Bu Jennie Tann yn gweithio i rwystro colli bioamrywiaeth ers blynyddoedd. Roedd hi'n brysur wrthi ymhell cyn i'r cynlluniau gweithredu lleol bioamrywiaeth gael eu creu. Naturiaethwraig o fri oedd Jenny, ac yn ffrind i gymaint o bobl ym myd cadwraeth. Bu hi farw yn gynharach eleni, yn 88 oed. Gwych o beth yw cael cyhoeddi cyfraniadau gan ddau o'r bobl oedd yn gyfarwydd â Jennie a'i gwaith.
Gilbert Davies:
‘Un o Lynrhedynog oedd Jennie. Yn ôl rhai, roedd hi'n gweithredu dros y Mudiad Gwyrdd cyn ei sefydlu hyd yn oed! Roedd ganddi ddealltwriaeth ddofn o hanes naturiol, a buodd hi'n ysbrydoliaeth i bawb oedd yn ei nabod. Blodau gwyllt oedd ei phrif ddiléit, ac roedd yr arbenigwyr yn ei pharchu fel un ohonynt hwy.
Y duedd oedd yn nyddiau cynnar Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Glamorgan i ganolbwyntio ar Fro Morgannwg a Phenrhyn Gŵyr. Cafodd Jennie'i hethol yn aelod o Gyngor yr Ymddiriedolaeth. Hi oedd warden gwirfoddol gwarchodfa natur Llyn Fach. Aeth hi ati i ddihuno'r cyhoedd i gyfoeth bioamrywiaeth bryniau a chymoedd y De. Fe lwyddodd Jennie gyda'r fenter hon, yn union fel y gwnaeth hi gyda sawl menter. Dyma ran o'i chynhysgaeth i ni. Bydd hiraeth ar ei hôl hi yn llenwi calonnau'i theulu a'i ffrindiau.’
Lesley Jones:
‘Rwy'n cofio Jennie ymhell cyn iddi ddechrau gweithio yn y mudiad cadwraeth. Roeddwn i'n gweithio i'w gŵr, Ray, yn ei siop losin a gwlân yng Nglynrhedynog. Ac rwy'n cofio gweld Jennie, a'i chamera yn ei llaw, yn cychwyn allan am y diwrnod ar ei phen ei hun. Gallai drechu pob rhwystr - tywydd gwael, neu ddisgyn a chael anaf hyd yn oed. Mae un o'm cymdogion wedi sôn am weld Jennie yn arwain criw o blant allan ar daith gerdded Natur, ryw dro yn y Chwedegau. I lawer ohonynt, dyna'r dro cyntaf iddynt gwrdd â byd Natur go iawn. Buodd hi ar flaen y gad yn y frwydr i gadw pobl y goedwigaeth rhag cuddio'r llethrau uwchben y pentref â choed. Diolch i'w dyfalbarha hi, roedd cyfle i ni'r plant fentro allan ar y llethrau. Fel yr adeg honno, mae'r bryn ger y pentre yn dal fel oedd llaw Natur wedi'i adael.
Tanau Glaswellt
Blwyddyn wael oedd 2010 o ran tanau glaswellt, gwaetha'r modd. Mae'n debyg taw'r tywydd lleol oedd yn gyfrifol am nifer y tanau glaswellt Rhwng y Pasg a diwedd Mehefin, cyrhaeddodd y nifer frig dair o weithiau. Yn ystod mis Mai a Mehefin, bues i'n eistedd mewn sesiynau o'r ymchwiliad ar y Cynllun Datblygu. Dau fis sych ar y naw oedd y rheiny, ac wrth i'r wythnosau fynd heibio mi welais y tanau bach yn torri allan, ac yna'n marw, ar y llethrau gyferbyn. O dipyn i beth fe aeth y llethrau'n fwyfwy tywyll. Gwan ar y cyfan yw'n dealltwriaeth ni o effeithiau tymor llosgi mor hir ar ein bywyd gwyllt ni. Dyma enghraifft sicr er hyn o effeithiau ar gynefinoedd lleol, a thros y tymor hir fe fydd goblygiadau ar gyfer bioamrywiaeth. Yr hydref hwn, mae Jac y Neidiwr i'w weld wedi cytrefu ar rannau helaeth o'r llethrau llosgedig, yn fwy nag erioed o'r blaen. Rhyw liw coch sydd i'w weld fel arfer wrth i'r rhedyn ungoes farw a'r gaeaf yn agosáu. Yr hydref hwn, mae'r llethr i'r de o'r Porth yn frith â phinc Jac y neidiwr.
Gwylio'r Tywydd
Mae Marchus Middlehurst wedi anfon ei gofnodion o hanner cyntaf 2010 ataf. Mae'r ffigurau'n dangos hanes y tywydd mor glir â darlun. Bu'r eira yn drwm, er mor hwyr oedd y gaeaf yn cyrraedd. Cyfnod byr o law cyson ym mis Mawrth, ac yna wanwyn sych yn ymestyn yn hamddenol tua diwedd Mehefin.
Ionawr - 262 mm o eira a 178 mm o law (cyfanswm y dyddodiad 204.6 mm) - cwymp eira mwyaf ar Ionawr 12fed gyda 150mm a'r diwrnod gwlypaf Ionawr 15fed gyda 60mm.
Chwefror - 98mm eira, 76 mm glaw (cyfanswm y dyddodiad 85.8 mm). Cwymp eira mwyaf ar 20fed Chwefror gyda 75 mm.
Mawrth - 230 mm glaw, cwymp mwyaf 53 mm ar 19eg.
Ebrill - 82 mm glaw, mwyaf 40 mm ar Ebrill 1af.
Mai - 42 mm glaw, mwyaf 18mm ar 28ain.
Bydd pawb yn cofio'r sychdwr yn dod i ben pan gychwynnodd tymor y glaw. Parhaodd hwnnw drwy Orffennaf ac Awst, pryd y cofnododd Paul Marchman 5 modfedd (sef tua 127 mm) o law yn Llwynypia rhwng 19eg ac 21aint Awst.
Adar
I rifyn diwethaf y 'Cylchlythyr' roedd yr adroddiad hwn gan Robert Jones i fod. Cafodd gwyach fach ei gweld ar Lyn Glyncornel. Dro arall, bu Robert a'i wraig wrthi am bedair awr yn rhyddhau hwyaden wyllt o fodrwy blastig tun cwrw. Dyna brawf unwaith eto o'r niwed a achosir gan sbwriel.
Byddaf yn gyffro i gyd wrth glywed cân y gog. A bydd hiraeth yn fy nghalon wrth feddwl fel mae ardaloedd deheuol Rhondda Cynon Taf yn dioddef gwanwyn hen y gwcw. Fel y dywed yr hen air,, gweld y gwerth o'i aberthu'n ffôl. David Gordon oedd y cyntaf i glywed y gog yn 2010. Ebrill 17eg oedd y dyddiad, a'r lle oedd dyffryn hardd Cefnpennar, ger Aberpennar. Bu Mark Evans (ME) yn sôn am ddwy gog a welodd uwchlaw Caegarw, Cwmbach. A Mark yn archwilio'r safle, deuai'r pâr o adar yn agos iawn ar adegau, yn arddangos ac yn rhyngweithio'n ffri. Wedyn daeth aderyn gwryw arall, a dechrau ffraeo gyda'r un oedd yno'n barod. Bu'r aderyn benyw yn gwibio o'u cwmpas am sbel. Mae Mark yn credu i'r tair cog fod yn ei difyrru am gryn ddwy awr. Mae rhywun yn cydymdeimlo â chorhedydd y waun. Yn nyth y corhedydd, druan, mae'r gog yn dodwy'i hwyau. Ond dyna fyd llwm fyddai hi heb y gwcw! Daeth rhagor o adroddiadau am y gog i law, oddi wrth: Paul Marchman, Llwynypia; Kevin Oates, Penrhys; Barbara Williams, Fferm Caerlan, Tonyrefail; pobl ym Mharc Gwledig Cwm Dâr; a Quentin Elphic, Cefnpennar. Ac i daro nodyn mwy hapus wrth i 2010 dynnu tua therfyn, y farn yn gyffredinol yw i'r gog gael blwyddyn well ohoni eleni na'r llynedd.
Gadawodd y gaeaf llwm diwethaf ei olion ar nifer yr adar preswyl. Dyma rai o'r adar fu'n dioddef: y dryw, y dryw eurben, a'r durtur dorchog (ME). Mawr obeithiwn y bydd eu niferoedd ar i fyny cyn hir. Ond, yn ôl Mark, ar i lawr mae telor yr helyg ar ei safleoedd gwylio yng Nghwm Cynon. Efallai fod hyn yn sgîl problemau yn y mannau lle byddant yn gaeafu yn y Sahara. Ai dyma'r duedd at y dyfodol? Ar un adeg, ni fyddai boreau mis Mai yn gyflawn heb gân dyner dwsinau o deloriaid. Ond eleni, yn anaml iawn y clywais delor yr helyg yn canu. Ar y llaw arall, diddorol yw sylwi ar adroddiad Paul Marshman am y niferoedd ohonynt ar ei safleoedd ef. Ar hyn o bryd, yn ôl pob tebyg, mewn mannau penodol yn unig mae telor yr helyg yn prinhau. Drwy ailadrodd gwaith monitro adar, mae Arolwg Adar sy'n Bridio yr Ymddiriedolaeth dros Adareg yn darparu gwybodaeth allweddol am y tueddiadau hyn mewn poblogaethau o adar. Yn ôl disgrifiad Mark, mae'i floc arolygu newydd ar ucheldir Cwm Cynon ‘yn cynnwys llawer o rostir, gyda llus yn tyfu'n helaeth a llethrau'n llawn rhedyn ungoes. Yr ehedydd, a chorhedydd y waun, yw'r adar mwyaf cyffredin. Bydd ambell i bleser annisgwyl hefyd, megis y barcud coch yn hela uwchben rhos y Twyn Sych, a gwalch glas. Ac mi welais gorhedydd y coed eleni uwchben tomen Caegarw.
Gyrrodd Paul Marshmann (PM) restr o'i adroddiadau cyntaf o adar yr haf yn Llwynypia. Bu'r gwanwyn yn hwyr, wrth gwrs. Ond yn ôl cofnodion Paul roedd y rhan fwyaf o rywogaethau wedi cyrraedd ar eu dyddiadau arferol - neu cyn hynny hyd yn oed. Dyma rai dyddiadau: corhedydd y coed ar Ebrill 13eg, y tingoch a dwy gog wryw ar Ebrill 19eg, gwennol a thelor y coed ar y 23ain, gwennol y bondo 25ain a thelor yr ardd y 27ain. Ar ben hyn i gyd fe welodd Paul bila gwyrdd a chywion newydd fagu plu mewn gardd ym mis Ebrill. Mae hyn yn awgrymu i'r wyau gael eu dodwy yn oerfel gaeafol diwedd Chwefror neu ddiwedd Mawrth. Cafwyd ambell i drysor arall yn Llwynypia. Dyma rai: gwybedog mannog (Glyncornel), a thri thelor y coed yn canu yng Ngwarchodfa Natur Leol Glyncornel. Yng ngardd Paul yn Llwynypia, bu lleihad o 50% yn niferoedd y llinos werdd. Yr un yw hanes y (ji-binc yno hefyd. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Paul wedi sylwi ar sawl llinos werdd drist ei llygaid, â llygad pŵl. Maent yn dioddef o glefyd adar heintus y trichomonosis. Mae'r clefyd hwn wedi taro llawer o adar mewn sawl rhan o'r ardd. Os gwelwch olion trichomonosis ar adar yn eich gardd chi, mae'n werth cysylltu â Menter Iechyd Adar yr Ardd ar 020 7449 6685.
Dioddefodd un rhywogaeth yn arbennig y gaeaf diwethaf, a chlochdar y cerrig oedd honno. Yn ystod 2009, roedd nifer clochdar y cerrig ger Penrhys mewn ffigurau dwbl. Yn 2010, gwelodd PM ddu bâr ohonynt ar y llethrau islaw Ffynnon Fair. Ond o leiaf roedd y clefyd heb ddifa clochdar y cerrig yn gyfan gwbl yn y Cymoedd. Fel arall oedd hi yn ystod eira mawr 1963. Wedi dirywio hefyd mae niferoedd eu cefnder, crec yr eithin, ond am resymau gwahanol. Yn ôl llyfr Clive Hurford a Peter Lansdown Birds of Glamorgan, roedd crec yr eithin wedi ymgartrefu'n helaeth ar y llethrau uwchlaw Afon Taf, drwy'r Rhondda i fyny i Dreherbert, yn ardal Tonyrefail, ac mewn llain helaeth o dir ar draws y llethrau yng ngogledd y sir. Ym 1992, roedd llethr Paul ger Llwynypia yn gartref i 12 o barau. Yn 2010, dim ond un aderyn ifanc a gofnododd Paul yno, ar Orffennaf 6ed. Wrth reswm, bydd llai o bobl yn sylwi colli crec yr eithin na'r gog. Ar yr un pryd, mae tymor y gwanwyn yn colli peth o'i gyfoeth wrth i grec yr eithin, a'r adar eraill sydd i gyrraedd erbyn yr haf, fynd yn brinnach. Prin y byddai neb ddeng mlynedd yn ôl wedi coelio y gallai hyn ddigwydd. Ond peidiwn â digalonni: newid ddaw o rod i rod. Fel hyn roedd hi o'r cychwyn, ac felly y bydd am byth. Mae PM wedi sylwi ar y wyach fach ar Lyn Cwm Clydach, a Rob Jones wedi gweld rhai yng Nglyncornel. Croeso i'r cyfeillion hyn, yn hen ac yn newydd. Ond syndod o'r mwyaf oedd adroddiad Paul o'i dŷ ym mis Medi. Gwelodd 32 o rywogaethau ar y 10fed. O blith y rhain, nid oedd yr un aderyn y to neu ddrudwen.
Ac a tharo nodyn mwy sionc, daeth sawl adroddiad am y barcud coch i law. Ym mis Ebrill, fe welodd Kevin Oates (KO) barau ohonynt yn hedfan uwchben Llwydcoed, ac eraill uwchben Ffordd y Bryniau ger Llanharan ym mis Mai. Gwelodd Rob a Linda Nottage (RaLN) nifer o adar yn y Maerdy. Mi welais i jac-y-do yn hedfan mewn cylchoedd ac aflonyddu ar adar eraill uwchben ffordd osgoi newydd Pentre'r Eglwys ym mis Medi. Yng Nghwm Cynon hefyd, mae'r haid o gigfrain yn dal i ffynnu. Cafodd 219 eu cyfrif ym mis Mai, a 152 ym mis Gorffennaf (ME).
Mawr oedd yr ofnau parthed effeithiau'r rhewi mawr ar las y dorlan. Roedd pawb yn falch i glywed sôn am adar ar Afon Elái ger y Bathdy Brenhinol (KO), yn Llwynypia (PM) ac ar ffrwd Pont Lluest uwchlaw'r Maerdy (Jonathan Barrett). Yn ogystal â hyn fe welodd KO bibydd y dorlan ar byllau dŵr Hen Gilfan y Barri ym mis Gorffennaf. Ym mis Gorffennaf, aeth Clwb Adar Morgannwg a Chadw Cymru'n Daclus ar y cyd ym mis Medi i dacluso Afon Taf. Cofnododd Alan Roseny (AR) bibydd y dorlan yn ogystal â'r pibydd gwyrdd ar Afon Taf islaw Pontypridd. AR hefyd sy'n cadw golwg ar gynefin cyfoethog ei rywogaethau adar ger Nantgarw. Ymhlith y rhywogaethau ceir telor yr ardd, telor yr helyg, y siff-saff, y telor penddu, llinos werdd, mwyalchen, bronfraith, gwennol, gwennol ddu, bwncath, cnocell werdd, pioden a llwyd y gwrych. Ond, gwaetha'r modd, ar i lawr mae niferoedd y llwydfron a'r llinos ar safleoedd Alan eleni.
Mae Jonathan Barrett (JB) yn adnabod llwybrau coedwig ac ucheldir Rhondda Cynon Taf yn dda. Cofnododd delor y cnau, a'r gnocell werdd yng Nghoedwig Penrhys (Rhondda), yn ogystal â phoblogaeth iachus o sgrech y coed yn y blociau coedwig yno. Sylwodd JB mor gryf hefyd oedd poblogaeth y brithyll yn y Rhondda Fawr, yn ogystal â'r crëyr, sydd mor niferus yn y darn hwnnw o'r afon. A ninnau'n ystyried yr ardal honno, mae Rob a Linda Nottage wedi anfon cofnodion o adar ataf o'r mannau uwchlaw'r Maerdy, a'r rheiny ar bwys cronfa Lluest Wen. Yn eu plith roedd y barcud coch, y gog, crec yr eithin, tinwen y garn, llawer o gorhedydd y coed, gwybedog brith (aderyn ymfudol), tingoch a bronwen y dŵr ifanc ar yr afon. Gyrrodd Paul Denning lun gwych o fronwen y dŵr ifanc ar Afon Elái ger yr Ynys Ddu, Pont-y-clun.
Cafodd Clive Williams a minnau'r pleser o ddod ar draws haid o 70 neu ragor o nico mewn caeau cyfoethog eu rhywogaethau ger Aberdâr yn gynnar yn fis Medi. Roedd yr adar yn bwydo ar amrywiaeth eang o blanhigion oedd yn hadu, gan gynnwys ysgall, a'r bengaled ddu. Mae'n sbel ers i mi weld haid mor fawr o'r nico, ac am sioe adar unigryw! Dyma'r haid yn glanio gyda thwrw di-baid o drydar a switian, yn bwydo o hyd ac o hyd, ac yna godi i'r awyr eto, chwyrlïo yn wyllt, a glanio ar glwstwr arall o'r bengaled. Pam roeddent mor nerfus? Ni chredaf fod angen chwilio ymhell am yr ateb. Ychydig fetrau i ffwrdd, roedd bwncath yn eistedd ar ddraenen wen, a'u gwylio'n graff. Tua diwedd yr haf fe ddaeth rhagor o gofnodion i law am adar ar Gomin Llantrisant, drwy garedigrwydd Meriel Gough-Rogers. Dyma rai: clochdar y cerrig, bwncath, {ut1]cudyll coch, ac ehedydd.
Cyn cloi, mi ddylwn i sôn am y tair haid o wenoliaid o bob oedran a welais yn hedfan tua'r dwyrain uwchben Meisgyn ar Fedi 25ain. Cychwynnodd gwenoliaid bondo oedd yn magu o'r pentref drannoeth (Medi 26ain) Aeth pedair gwennol y bondo ar frys tua'r de uwchben Trefforest, ar Hydref 1af.
Gwylio Adar yr Ardd y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
Bydd llawer ohonoch wedi anfon eich cofnodion Gwylio Adar yr Ardd i'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Eleni, mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar wedi darparu dadansoddiad o'r canlyniadau ar gyfer gerddi Rhondda Cynon Taf. Dengys y rhain taw aderyn y to yw'r mwyaf niferus o adar yr ardd. Ar gyfartaledd, roedd pedwar ym mhob un o erddi'r arolwg. (Ni fydd adar y to yn ymgasglu mewn heidiau mawr fel arfer, ac mewn 71% yn unig o erddi roeddent i'w gweld). Y fwyalchen oedd y rhywogaeth ail fwyaf niferus o adar, ond y fwyaf cyffredin, mewn 94% o erddi. Yn dilyn y rhain yn y drefn roedd y titw tomos las, drudwen, ji-binc, ac yna'r robin goch. Mae'n ymddangos fod hanes aderyn y to yn amrywio'n fawr rhwng gwahanol ardaloedd Rhondda Cynon Taf. Maent yn dal yn eithaf cyffredin ym Meisgyn a Phont-y-clun. Ychydig o filltiroedd i ffwrdd yn Llwynypia, ar y llaw arall, maent wedi diflannu bron yn gyfan gwbl.
Botaneg
Mae digonedd o raglenni hardd a chrefftus am y bywyd gwyllt i'w gweld y dyddiau hyn. Ond bydd un peth yn fy mhoeni o hyd. Er bod y rhaglenni dogfen hyn wastad yn enwi'r creaduriaid, yn anaml y byddant yn crybwyll y planhigion. Rhan o'r cefndir yw'r planhigion, prin byth haeddu sôn am eu henwau. A dyna drueni mawr, gan fod planhigion yn haeddu llawer gwell. Wrth drafod cadwraeth natur, rhaid rhoi ystyriaeth i gynefinoedd. Ac mae hyn yn anodd o anwybyddu'r planhigion, neu'u trin fel papur wal. Roedd y 233 o fritheg ym Mharc Ynysangharad yn ddifon o ryfeddod. Rhaid pob yn ysu gwybod beth oeddent! Ac roedd llawer o bobl yn gyffro i gyd wrth weld y gytref o degeirian y waun ym Mynwent Cefn Parc, lle'r oedd Margaret Harding a Marilyn yn cadw golwg arnynt. Bu cynnydd cymedrol yn nifer y tegeirianau hefyd. Roedd 19 o sbigynnau blodeuog y llynedd, gyda 33 eleni. Mae Margaret a Marilyn wedi anfon cofnodion a lluniau o degeirianau eraill hefyd. Dyma rai: tegeirian brych y rhos ar Gomin Llantrisant, tegeirian y wenynen ar leiniau ymyl ffordd yn Llantrisant (gwelodd Paul Denning y rhain hefyd), a'r tegeirian cyffredin, brych y rhos , a thegeirian y gors ddeheuol ger Glofa'r Cwm ac yngNghwm Clydach.
Bydd rhai planhigion unigol yn dod i'r golwg flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac yn dod yn hen ffrindiau. Gwn am blanhigion unigol cwcwll y mynach sy'n blodeuo yn yr un lle ar lan yr afon bob mis Mehefin. Yn yr un modd, mae PM yn gweld blodau hardd yr ytbysen feinddail, fel ytbys pêr mân, yn yr un man yng Nglyncornel ers 30 o flynyddoedd.
Blodyn bach rhyfeddol o brydferth yw cloc y dref, yn perthyn i'w deulu bach ei hun. Derbyniodd yr enw cloc y dref am fod y pump o wynebau bach gwyrdd sydd gan y blodyn yn atgoffa rhywun o wyneb cloc. Mewn coedydd calchaidd mae cloc y dref ar ei fwyaf cyffredin yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r rhai a welwyd gan Margaret a Marilyn ger Cerrig y Derwyddon, y Beddau, a'r rhai a gofnododd Steve Murray yng Nghoed-y-cwm, yn ehangu ein dealltwriaeth o ddosbarthiad y rhywogaeth mewn coetir mwy asidig.
Ym mis Gorffennaf, dangosodd Quentin Elphic i mi'r cytiroedd o glych yr eos ar ei dir yng Nghefnpennar. Mae'r clychlys gogoneddus, lliw glas ariannaidd hwn yn brin iawn yn Rhondda Cynon Taf. Cofnododd Rob a Linda clychlys dail eiddew, amhrydlwyd glas, trwyn-y-llo bach, edafeddog fach, sisirinciwm glas Gwyddelig, llafn y bladur, tegeirian brych y rhos, a llawer o ysgall Siarl, yn y Maerdy. Mae'r rhestr fach honno yn cynnwys planhigion nodweddiadol yr ucheldir (llafn y bladur a'r clychlys), a rhai sy'n tyfu'n arbennig ar wastraff glofaol. Enghraifft o'r rhain yw ysgall Siarl, sy'n tyfu'n helaeth ar weunydd Dorset, ond wedi ymgartrefu ar siâl glofeydd y Rhondda. Mae ambell i blanhigyn egsotig hefyd, megis y sisirinciwm glas Gwyddelig gyda'i liw syfrdanol. Dyna i chi gymysgedd cyfoethog - sy'n esbonio pam fod pobl yn mwynhau botaneg a gymaint yn y Cymoedd! Ni ŵyr neb beth sy'n tyfu yn y llwyn nesaf!
Cafodd Mark Evans hyd i glychlys dail eiddew ar rodfeydd coedwig yng Nghefnpennar. Dangosodd Quentin ragor i mi mewn rhyw laciau asidig gwych, oedd hefyd yng Nghefnpennar. Cafodd Paul Denning hyd i gwcwll y mynach yn Nhonysguboriau. Roedd y blodau glas tywyll hudolus yn tyfu ger Afon Clun, gyferbyn â siop JBB Sports. Aeth Meriel Gough-Rogers ar daith gerdded ar draws tiroedd comin Llantrisant. Roedd hi wrth ei bodd - fel y byddai pawb - wrth gael hyd i lafn y bladur, plu'r gweunydd, a digonedd o damaid y cythraul.
Glöynnod a Gwyfynnod
Bach iawn, yn union â'r disgwyl, oedd effaith y gaeaf rhynllyd ar y gloÿnnod. Eithriadau i hyn oedd y fantell goch Gaeafgysgu oeddent ar y pryd, ac roeddent yn brin pan ddaeth y gwanwyn. Roedd llai o felyn y rhafnwydd) i'w gweld hefyd. Er hyn mae'n debyg i'r oerfel roi hwb i gyfnodau bywyd penodol nifer o rywogaethau. Gwlypter a lleithder sy'n bennaf gyfrifol am ladd y lindys a'r larfa, nid oerfel. Yn ystod tywydd bendigedig Mai a Mehefin, daeth nifer fawr o'r gwyn blaen oren allan. Roedd y gwyn blaen oren i'w gweld ym mhob cae llaith lle'r oedd llaeth y gaseg yn tyfu. Roedd y glesyn cyffredin i'w weld ym mhob man. Daethant i'r golwg gyntaf tua diwedd Mai ac ym Mehefin, ac yna tua diwedd yr haf. Roeddent wedi mynd mor bell â dodwy wyau ar y droed-yr-iâr ar lawnt fy ngardd. Byddaf yn ofnadwy o ofalus bellach wrth dorri'r glaswellt. Rwy'n gwylio gloÿnnod ers 33 o flynyddoedd bellach, ac ni welais gynifer o'r ddwy rywogaeth hyn cyn 2010.
Fel y llynedd, cawsom flwyddyn dda i fritheg y gors, diolch byth. Roedd nifer dda ohonynt yng Nghors Bryn-y-Gaer (ME, RW, ac eraill) a heidiau o'r fritheg berlog. Yn ôl cofnodion Ben Williams a Gill Barter mae britheg y gors a'r fritheg berlog yn ymledu i safleoedd newydd ger Tonyrefail. Cawsant wanwyn gwych yno. Aeth Ben ar daith gerdded trawslunio yng Nghwm Clydach i gyfri'r rhywogaethau, a gweld 45 o fritheg berlog. (Mae Margaret a Marilyn wedi'u gweld yno hefyd.) Aeth Sue Westwood a fi i Gomin Llantrisant tua diwedd mis Mehefin, a chofnodi nifer dda o'r fritheg berlog yno. Treuliais hanner awr yn gwylio'r rhai benyw yn dodwy'u hwyau ar fioled y gors oedd yn brigo allan drwy bentyrrau o figwyn. Yn gynnar ym mis Mehefin mi welais fritheg berlog newydd ddod o'u hwyau ym Mharc Gwledig Cwm Dâr. Fis yn ddiweddarach, aeth Quentin Elphic, Julian Woodman, Sue Westwood a minnau i Gefnpennar, a gweld dwsinau o fritheg berlog ifanc, yn nofio ar yr awyr uwchben y llaciau asidig gwych yno. Gwelodd Kevin Hughes nifer o fritheg berlog yn ogystal ag un fritheg werdd yng Nghastell Nos. Gwelodd Martin Bevan nifer o fritheg werdd Llwydcoed. Cafodd Martin hyd i gytref o'r glesyn bach i'r gogledd o ffordd Blaenau'r Cymoedd, ond heb fod yn y Parc Cenedlaethol. Roeddent ar fanciau cysgodol a heulog yn wynebu tua'r de a'r de-orllewin. O slag basig roeddent wedi cael eu ffurfio, ac yn llawn plucen felen, sef planhigyn bwyd arferol y glöyn. Y slag basig sy'n allweddol, gan mai rhywogaeth glaswelltir calchaidd iseldir yw'r glesyn bach. Gweunydd deheuol, neu laswelltir morol, yw'u cynefin arferol. Mae'r slag basig yn darparu'r lefel pH cywir i hadau'r blucen felen egino. Dyn a ŵyr ar ba wynt roeddent wedi cyrraedd, ond roedd y banciau heulog yn ddigon cysgodol, er eu bod 330 o fetrau uwchben lefel y môr. Ynys ddigon oer yw Prydain,, ac mae 330 o fetrau i fod yn rhy uchel i'r glesyn glas. Ond fe saif bioamrywiaeth y Cymoedd ar ei phen ei hun yn gyfan gwbl. Aeth Mark Evans i'r un safle a gweld y gwibiwr llwyd yno. Gwelais innau'r gwibiwr llwyd ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, ymhlith niferoedd mawr o weirlöyn bach y waun a'r glesyn cyffredin. Gwelodd Alan Rosney wibiwr llwyd ar safle yn Nantgarw. Yn y Maerdy a ger Cronfa'r Lluest Wen fe welodd Rob a Linda Nottage nifer o'r fritheg werdd, gweirlöyn llwyd, ac, unwaith eto, llawer o'r glesyn cyffredin.
Cafodd Mark Evans hyd i gytref o frithribin porffor mewn gardd ym Meisgyn, Aberpennar. Roeddent yn byw ar un dderwen unigol. Yn ystod Mehefin a Gorffennaf, dechreuodd Ben Williams ddarganfod cytref hollol anadnabyddus o frithribin W wen yn ardal Trefforest a Phontypridd. Mae'r gloÿnnod bach hyn yn neilltuol o dlws, ond ychydig o bobl sy'n ddigon lwcus i gael dod yn ddigon agos i'w gweld. Ar goed llwyfen byddant yn byw ( llwyfen lydanddail yma), ac yn treulio'u bywydau yn pori ar felwlith ymhlith brigdwf y coed llwyfen. Dyna sy'n gwneud y gloÿnnod hyn mor ddirgelaidd. Yn gynharach eleni y llwyddodd Ben i ddatrys y diogelwch, a chofnodi'r creaduriaid bach hyn yn atlas y gloÿnnod (a thynnu lluniau gwych hefyd). Un prynhawn yn gynnar ym mis Gorffennaf, aeth i fyny i Abercynon. Ar y ffordd adref, gyrrodd i lawr yr hen ffordd drwy Gilfynydd. Oddi yno mae modd gweld brigau'r coed llwyfen ger lôn gerbyd yr A470 tua'r gogledd. Roedd brig pob clwstwr bron o goed iach yn heidio â brithribin W wen . Taerai Ben - a'i dafod yn ei foch - ei fod yn colli diddordeb gan eu bod mor niferus. Synnai fod poblogaeth y frithribin W wen yn fwy nag a ddychmygai. Ond cyfeiriad Ben at goed iach yw'r tro yn y cynffon. Mae coed llwyfen yn dal i ddioddef o glefyd llwyfen yr Isalmaen. Gwelais y clefyd yn lladd nifer o goed llwyfen lydanddail hardd ym Mhontypridd dros y flwyddyn neu ddwy aeth heibio. Mae rhywun yn synnu mor gyffredin yw'r llwyfen lydanddail o hyd yn Rhondda Cynon Taf. Os cofiwch fod eu dail yn ymrannu'n dri, digon hawdd fydd cael hyd i'r un agosaf yn eich ardal chi. Ac os byddwch chi'n gweld un yr haf nesaf, cofiwch wylio am loÿnnod bach tywyll.
Yn gynnar ym mis Gorffennaf mi welais glwstwr o ddanadl ger Canolfan Hamdden Llantrisant. Roeddent yn heidio â lindys trilliw bach. Roedd y danadl yn tyfu hyd at fy ffêr, ar fin y llwybr, yn fwy na pharod i gael eu torri'n ôl. Felly dyma fi yn casglu llond dwrn o larfau bach (heb lwyddo i osgoi'r dail poeth) i'm blwch brechdanau. O ddydd i ddydd dros y tair wythnos nesaf mi fues i'n rhannu'r 200 o lindys bach pigog rhwng mwy a mwy o flychau esgidiau. Cawsant ddail poethion i'w bwyta, a thyfu a bwrw blew, tyfu eto a bwrw blew eto, nes iddynt i gyd ddechrau chwilera ar yr un pryd. Roedd y crysalisau yn eu blychau yn glystyrau llwyd a brown, gan fod y cysgodion fel llen drostynt a hwythau'n chwilera. Os oedd y crysalisau yn yr heulwen a hwythau'n chwilera, byddent yn troi'n lliw aur fel gemau bach.
Bythefnos eto, a dyma fi yn dod i lawr beth cyntaf yn y bore. Roedd glöynnod trilliw bach rif y gwlith yn dechrau dianc o'r blychau. Roedd rhai eisoes wedi dianc, ac yn eistedd ar y silff ffenestr. Roedd eraill yn dal i sychu'u hadenydd. Yn ystod y diwrnod nesaf ac wedyn, ehedodd dros 150 o'r trilliw bach i ffwrdd o dan gymylau tywyll diwedd Gorffennaf. Ble'r aeth y glöynnod trilliw bach i gyd? Ni wn, ond eu bod wedi hedfan i ffwrdd o'm gardd i i wledda ar flodau coeden fêl rhywun.
Ond roedd y trilliw bach yn ôl ym mis Medi. Mae'r blodau Mihangel yno yn tyfu hyd at bedair troedfedd o daldra, yn drwm dan flodau hardd pinc-borffor. Un o fendithion y flwyddyn hon oedd adferiad gogoneddus y trilliw bach. Roedd llawer yn amau yn ystod y blynyddoedd diwethaf i'r glöynnod gwych hyn ddiflannu, ond dyma hwy yn eu hôl. Achos i ddathlu, yn wir.
Ni chofnodais i lawer o wyfynod eleni, ond mae ME wedi anfon llun gwych o walchwyfyn hofran wrthi'n hofran. Yn gynharach yn y flwyddyn, roedd gwyfynod gem fforch arian yn gyffredin ar laswelltir ac mewn gerddi. (Arwydd yw hyn o ymfudiad yn gynnar yn y gwanwyn.)
Morgrug
A finnau yng nghwmni Sue Westwood a Kevin Oates, cefais hyd i lond nyth o forgrug y coed yng Nglyncornel yr haf hwn. Nid yw morgrug y coed mor gyffredin â hynny yn Rhondda Cynon Taf. Cefais yr hanes diddorol hwn o Marcus Middlehurst, Treherbert. Tua 3 o'r gloch ar brynhawn Sul 5ed Awst, roedd e'n eistedd ar fainc ar ochr ogleddol y Lawnt. Roedd e'n edrych tua'r gogledd-ddwyrain, lle'r oedd nant yn rhedeg o hollt yn y mynydd ac i lawr dan yr A4061. Arth iddo wylio, daeth dau neu dri o gymylau ar siâp pileri, fel corwyntoedd yn troi'n araf deg, i'r golwg o'r gogledd. Credai Marcus ar y dechrau eu bod ar frig y darren, y naill yn dilyn ryw 10 metr tu ôl i'r llall. Roeddent yn dywyll, ond yn annelwig, ac ni allai Marcus fod yn sicr beth oed dyn digwydd. Ychydig funudau yn ddiweddarach, oeddent wedi croeso'r hollt a thoddi.
Wrth iddo edrych o gwmpas i gymharu'r tywydd mewn gwahanol gyfeiriadau, roedd hi'n gynnes, gydag awel ysgafn o'r gogledd. Roedd digon o ysbeidiau heulog hefyd, a dim byd i'w weld yn anghyffredin ac eithrio'r nifer fawr o forgrug hedfan ar hyd y lle. Mae hi wedi croesi'i feddwl wedyn iddo weld heidiau o forgrug hedfan, neu ryw bryfyn tebyg. A yw hyn yn bosibl? Oes rhywun arall wedi gweld digwyddiadau tebyg? Pa mor gyffredin ydynt?. Buaswn i'n dweud fod morgrug hedfan yn esboniad pur debyg. Ond a oes syniadau eraill gan rywun?
Pryfed Eraill
Mae ME wedi anfon llun syfrdanol o bryf hofran du a melyn ataf Xanthogramma pedissequum yw'r enw gwyddonol - tybed beth yw'r enw bob dydd? Gwelais bryfed hofran anferthol yn fy ngardd, rhai sy'n dynwared y bicwnen goch. (Volucella zonaria) yw'u henw gwyddonol. Roeddent yn gwledda ar neithdar helaeth blodau'r rhuddgyl. Mae'r pryf hofran mawr hwn yn lliw oren a brown, ac yn ofnadwy o debyg i bicwnen goch, yn enwedig wrth hedfan. Ardal Llundain oedd ei gynefin arferol, ac yno y deuthum yn gyfarwydd ag ef. Ond, o'i ddarganfod mewn gardd yng Nghymru, tueddaf i'w weld yn arwydd arall o Mewn amryw o fannau yr haf hwn mi welais gleren enfawr arall, sef cleren lwyd y Tabanus sudeticus. Pryf mawr swnllyd iawn yw hwn, yn hedfan ar hyd y lle fel model o hofrennydd Chinook. Un pryf hofran sydd i'w weld ym mhob man eleni yw'r pry marmaled (Episyrphus balteatus). Mae'r streipiau oren llachar ar ei abdomen yn atgoffa rhywun o ddarnau bach o groen oren mewn marmalêd.
Daeth nifer o gofnodion gwych o was y neidr. Ymhlith y rhain roedd nifer o'r fursen fawr dywyllo Ddolydd Pen-y-waun, Aberdâr (KO). Roedd nifer fawr o'r un fursen yn deor ger Afon Clun, yn Nhonysguboriau (Paul Denning). Cofnododd Rob a Linda nifer o ryw was y neidr, y picellwr cribog, yn dodwy wyau yn y Maerdy.
Ni fydd llawer o adroddiadau am chwilod yn dod i law, ond trawodd Steve Murray ddeuddeg ym mis Gorffennaf. Cafodd hyd i chwilen wenyn (Trichius fasciatus) wrth fynd â'r ci am dro yng Nghoed-y-Cwm. Creadur gogoneddus i'w weld yw'r chwilen wenyn, gyda chloradenydd o goch a brown melfedaidd. Trysor prin o ddarganfyddiad yw hwn. Yn ogystal â'r rhain fe welodd Linda a Rob chwilen eithaf prin, sef y chwilen werdd ddeil mintys (Chrysolina menthastri) ar fintys y dŵr ar lannau Afon Rhondda yn y Maerdy. Nepell oddi yno fe welsant y chwilen grwydrol Platydracus stercorarius.
Roedd fy ngardd yn llawn eleni o wenyn unig yn ogystal â rhai cymdeithasol: roeddent yn ffynnu yn ystod tywydd cynnes Mai a Mehefin. Roedd yno nifer o'r gwenyn turio lliw gwinau, gwenyn torri dail, a'r wlanwraig hefyd. Roeddwn wrth fy modd un diwrnod (fe mhen-blwydd!) ym Mehefin, wrth weld rhywogaeth newydd, sef cacynen y coed (Bombus hynorum). Cacynen drawiadol iawn ei golwg yw hon, gydag abdomen uwch a thoracs brown, a chynffon gwyn. Roedd yn gwledda ar flodau cotoneaster, ond nid dyna brif achos y cyffro. Dyma rywogaeth sydd wedi cytrefu Ynys Prydain Lai na deng mlynedd yn ôl. Dyma un arall o'r rhywogaethau hynny sy'n ymledu yn gyflym ac a symudodd i'r Ynys hon o gyfandir Ewrop. Byddwch yn adnabod y corff brown tywyll a'r cynffon gwyn ar unwaith. Byddwch yn effro'r flwyddyn nesaf! Y disgwyl yw y bydd cacynen y coed yn rhywogaeth gyfarwydd yn ein gerddi maes o law. Dyma rywbeth i'w groesawu, yn fy marn i. Nid dyna ddiwedd y drafodaeth ar gacwn. Cafodd Mark Evans bip sydyn ar un o'm hoff rywogaethau, sef cacynen y llus, Bombus monitcola, ger tanciau nwy Bryn Du uwchlaw Llwydcoed.
Mamaliaid
Mae Grŵp Ystlumod y Cymoedd (Ade a gweddill y criw) wedi parhau â'i waith monitro hynod bwysig ar ein hunig glwyd mamolaeth hysbys ar gyfer yr ystlum pedol leiaf. Roedd y ffigurau ar gyfer yr had hwn yn uwch na'r un haf erioed o'r blaen.
Cofnododd Strinda Davis olygfa druenus ffwlbart wedi'i ladd gan gar ar yr A4119 yn Nhrewiliam. Cafwyd hyd i un arall wedi marw yng Ngwarchodfa Natur Leol Craig Yr Hesg. Stori arall oedd hi gyda Jonathan Barrett. Fe welodd ef ffwlbart digon sionc ar Ffordd Mynydd y Maerdy. Minc sy'n mynd yn llai niferus, o bosibl am fod y dyfrgwn ar gynnydd y dyddiau hyn. Gwelodd Clive Lewis ddau ohonynt er hyn ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yr haf hwn. Gwelodd Kevin Oates garlwm ar ffordd y plwyf i Lanwynno.
Mae Barbara Williams yn dal i gael hyd i ragor o nythod llygoden yr yd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Rhos, Tonyrefail SSSI. Cafodd hyd i dair nyth eleni ar ôl i'r tanau glaswellt ddod heibio. Roedd un wedi cael ei llosgi, ond wedi gwibio heibio i'r ddwy arall roedd y tân.
Ffyngau
Gyrrodd Rob a Linda Nottage restr ardderchog o saith o ffyngau cap cwyrog o'r Maerdy. Yn eu plith roedd y cap cwyrog melynddu (Hygrocybe spadicea), sy'n ofnadwy o brin. Dyma record i Rondda Cynon Taf, hyd y gwn i. Yn ogystal â'r rhain fe welsant ddau o'r ffyngau cap tyllog, gan gynnwys ffwng prin y Suillus tridentinus). Mae'r capan ysbigog seimllyd yn llawn deilyngu'i enw, ac mae'r and the amanita gwridog, sy'n troi'n goch wrth gael ei gleisio. Cafodd Lesley Newcombe hyd i dafod y ddaear (Spathularia flavida). Roedd y ffwng hardd a phrin hwn yn tyfu dan gonwydd yng Nghwmaman. Rwyf wrthi'n ceisio sefydlu beth yn gywir yw statws y rhywogaeth hon yn y Deyrnas Unedig. Fe ymddengys fodd bynnag yn ffwng anghyffredin iawn.
Diolch eto am eich holl adroddiadau a chofnodion. Gobeithio y caf faddeuant os collais rai.
Cofiwch roi gwybod i ni os byddwch yn symud tŷ, neu'n newid cyfeiriadau e-bost.
Richard Wistow
Ecolegydd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Llwyn Castan
Heol y Llyfrgell
Pontypridd
CF37 2YA
Richard.j.wistow@rctcbc.gov.uk|