Cylchlythyr y Cofnodwyr19
Cylchlythyr y Cofnodwyr 19 (Gwanwyn 2009)
Cynhesu byd eang, llygredd o geir, y dirywiad economaidd - maen nhw i gyd yn golygu does erioed wedi bod cyfle gwell i galifantio o amgylch eich ardal leol a chofleidio’r fioamrywiaeth leol. Felly, ychydig ddyddiau’n ôl es i am dro ar Gomin Pontypridd. Er gwaethaf murmur yr A470 yn y pellter, a synau’r bobl wrth eu bodd yn y ffair ym Mharc Ponty - er roedd y sgrechian yn ddigon i oeri’r gwaed - roeddwn i yng nghanol bioamrywiaeth leol. Roedd dwy dresglen yn prysur gasglu mwydod ac yn cludo llond pig o fwyd dro ar ôl tro i nyth mewn gardd gyfagos, roedd dau delor y magnolia newydd gyrraedd ac roedd tri neu bedwar yn canu ymysg dail newydd y bedw. Roedd pâr o beneurynod wedi hedfan o’m blaen i, roedd cnocell y cnau yn galw o’r goedwig ar y clogwyni serth uwchben Halfords ac roedd aderyn du yn ymdrochi’n swnllyd yn un o nentydd y Comin. Roedd y llus yn y rhostir ar eu mwyaf gwyrdd ac roedd gwenyn unig yn brysur ymysg y miloedd o flodau’r llus oedd newydd agor (yn cadarnhau tartenni llus ym mis Awst). Roedd brith y coed cyntaf y gwanwyn yn gwibio o amgylch, hedfanodd glöyn brwmstan gwrywaidd heibio imi ac wrth fy nhraed roedd gwenynbryf â sugnydd cain, blewog a hir yn torheulo ar y llwybr. Yn ystod taith gerdded 20 munud roeddwn i wedi cael profiad o rostir ar ucheldir, gwaun, llannerch, a chredwch neu beidio, yn agos at y dibyn, roeddwn i wedi gallu tyngu fy mod i wedi crwydro i lwybr arfordirol. Pwy sydd angen llefydd egsotig neu bell pan mae gennych chi hyn ar drothwy eich drws?
Adar
Yn dilyn pryderon ynglŷn â niferoedd yr adar cân, anfonodd Mark Evans y neges ganlynol: ‘wrth edrych ar fy mlychau nythu, roeddwn i wedi gweld bod tri o’r chwech wedi cael eu dinistrio gan Wiwer. Roedd y wiwer wedi cnoi twll mawr ym mhob un ohonyn nhw, islaw’r plât sy’n diogelu’r twll. Roedd un o blatiau diogelu’r tyllau wedi diflannu’n llwyr. P’un ai bod hyn wedi digwydd tra roedd y blwch yn cael ei ddefnyddio, dydw i ddim yn gallu dweud, ond roedd dau o’r tri wedi cael eu defnyddio gan Ditw Tomos Las a Chnocell y Cnau. Dim ond un o’r tri blwch arall oedd wedi cael ei ddefnyddio: gan Gnocell y Cnau, sy’n ymddangos fel ei fod e wedi bod yn llwyddiant. Yn ôl y sampl o flychau nythu (sy’n sampl fach mae’n rhaid cyfaddef) yng Nghefnpennar, Penderyn ac un adref, byddwn i’n dweud roedd y llynedd, yn gyffredinol, yn llwyddiant o ran titwod (dim ond un nythaid oedd wedi ffaelu) a chnocellod y cnau, ac yn bendant roedd hi’n well na 2007. Byddai’n ddiddorol gweld sut mae’r argraff hon yn cymharu â ffigurau rhanbarthol’. Hwyr ym mis Mawrth ysgrifennodd Mark ‘Mae Adar y To a Drudwy eisoes yn brysur yn nho'r tŷ gyferbyn: mae’r Drudwy yn mynd i mewn trwy dwll ychydig islaw’r gwter ac mae Adar y To yn mynd i mewn trwy dwll o dan deilsen ar bwys y simnai’. Mae hynny’n dangos pwysigrwydd bylchau cul a thyllau bach ar gyfer adar sy’n nythu; does dim angen llawer arnyn nhw, ond mae tipyn bach yn werth y byd, ac mae tai sy’n gwbl seliedig yn cynnig braidd dim cyfleoedd i adar y to a drudwy.
Yn adroddiad dilynol i’r Cylchlythyr diwethaf, cadarnhaodd Andrew Evans fod Barcud Cwm Clydach wedi treulio rhannau o’r gaeaf diwethaf yn eistedd ar y ffens yn ei ardd. Yn drist iawn, ysgrifennodd Rob Jones ata’i i ddweud bod ‘barcud a oedd wedi cael ei ddarganfod yn Stryd Bailey Ton Pentre, a oedd wedi cael saethu, mae’n debyg roedd e wedi bod yn aros yn Eglwys St John ac roedd e wedi cael ei weld yn ardal y Pentre a’r Gelli’. Roedd ofn gen i mai aderyn Cwm Clydach oedd hwn, ond doedd e ddim; mae’n amlwg roedd gyda ni o leiaf dau farcud yn treulio’r gaeaf diwethaf yn strydoedd Cwm Rhondda. Roedd Mark Evans wedi sôn am weld Barcud yn hedfan uwchben yr heol ar bwys mynedfa Mynwent Bryn y Gaer, Hirwaun, ym mis Mawrth, ac roeddwn i wedi gweld un ar Ystâd Ddiwydiannol Hirwaun ar fwy neu lai’r un adeg.
Roedd Edna a Keryl Colwill wedi adrodd am eu crëyrfa leol lle roedden nhw wedi dod o hyd i o leiaf 15 plisg wyau wedi’u gadael eleni (sy’n golygu bod o leiaf 15 crëyr ifanc wedi’u deor). Ar y 4ydd Mawrth roedden nhw hefyd wedi gweld 4 hwyaden ddanheddog (1 gwryw a 3 benyw) ar Afon Rhondda ar bwys baric y Fyddin Diriogaethol yn y Pentre. Mae Ben Williams wedi adrodd am fronfreithod bach y dŵr a glas y dorlan a niferoedd cynyddol o hwyaid danheddog ar ein hafonydd ni’r gaeaf hwn.
Roedd tri ymwelydd cyntaf yr haf i gyd wedi cael eu nodi o fewn diwrnod i’w gilydd, felly tra roedd piod bach yn canu ym Mhont-y-clun ar Fawrth 17eg, gwelodd Paul Marshman gynffonwen uwchben Llwynypia ar y 18fed a gwelodd Strinda Davies ddwy wennol y glennydd yn hedfan dros y Taf, ar bwys yr hen Bont ym Mhontypridd, ar Fawrth 25ain, a hyd at 8 ar y 26ain. Y tro cyntaf imi weld gwennol eleni oedd uwchben y Porth ar Ebrill 7fed, yr un diwrnod roeddwn i wedi gweld telor penddu ym Mhontypridd. Roedd tiriogaethau gan o leiaf tri helygddryw ar Gomin Pontypridd ar Ebrill 16eg.
Mae Kevin Oates wedi adrodd am yr Ŵydd Ganada gyntaf iddo ef ei gweld yng Nghilffordd y Barri. Mae haid o 15 i 20 o Wyddau Canada yn hedfan dros Feisgyn, Pont-y-clun, yn eithaf rheolaidd yn y bore o’r gorllewin tuag at y dwyrain, ac mae’n debyg eu bod nhw’n dychwelyd pan rydw i dal yn y gwaith. Roedd Martin Sullivan wedi sôn am dylluan wen a oedd wedi cael ei gweld gan staff y Parciau yn y maes chwaraeon ym Muarth-y-Capel, Ynys-y-bŵl. Fydd rhai ohonoch chi sy’n gyfarwydd â’r safle ddim yn synnu, o ystyried bod mawnog a glaswelltiroedd corsiog Buarth-y-Capel yn gyfoeth o lygod y gwair ar gyfer eu hela.
Adar yng Nghwm Dâr
Mae Alan Rosney wedi anfon rhestr o rywogaethau’r adar sydd wedi cael eu cofnodi yn ardal Cwm Dâr fel rhan o arolwg yr atlas adar. Yn y tri phedwarawd mae e wedi’u harolygu, mae e wedi cofnodi uchafswm o 56 o rywogaethau adar gaeafu a 61 o rywogaethau adar yr haf - sy’n niferoedd da. Mae gwaith yr atlas cenedlaethol (sy’n cael ei gyfuno’n lleol â’r gwaith ar gyfer atlas Morgannwg newydd) yn parhau a bydd unrhyw gofnodion yn cael eu croesawu (os hoffech chi fanylion ynglŷn â sut i anfon cofnodion ‘crwydrol’, edrychwch ar wefan yr Ymddiriedolaeth Adareg Brydeinig).
Mamolion a physgod
Roedd Gwyn James a Kevin Oates wedi gweld dau ffwlbart yn farw ar yr A470 yng Nghilfynydd ar ddiwedd mis Mawrth. Rydw i’n siŵr bod nifer ohonoch chi wedi gweld ystlumod cyntaf y gwanwyn erbyn hyn, arwydd cadarnhaol bod pethau’n cynhesu. Mae cynllun gan Asiantaeth yr Amgylchedd i gynnal post-mortem ar unrhyw ddyfrgwn marw sy’n cael eu darganfod yn ne Cymru. Felly, os ydych chi’n gweld dyfrgi marw, cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd neu ni. Mae Ben Williams wedi adrodd, yn ystod ymgyrchoedd diweddar i lanhau’r afon, fod bywyd gwyllt yr afonydd wedi bod yn ardderchog gyda thystiolaeth o ddyfrgwn ym Mhontypridd, eogiaid uwchlaw cored Trefforest a brithyll y môr mor bell i fyny’r afon â Threherbert. Efallai bod rhai ohonoch chi’n gwybod bod llygod dŵr wedi cael eu cadarnhau ar safle yng Nghaerdydd yn agos at ffin Rhondda Cynon Taf. Does dim cofnodion diweddar yn RhCT ond efallai eu bod nhw ar hyd y lle o hyd, a’r cyngor gan Asiantaeth yr Amgylchedd yw parhau i edrych.
Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn
Ysgrifennodd Gilbert Davies ata’i, ac wedi tynnu sylw at fy natganiad byrbwyll: ‘dydy’r gaeaf ddim yn adeg dda ar gyfer anifeiliaid di-asgwrn-cefn’ yn y Cylchlythyr diwethaf, a’i fod e’n ddatganiad cyffredinol. Gwelodd Gilbert y cyntaf mewn nifer o wyfynod y gaeaf ar Ionawr 12fed 2009. Yn wir, mae mwy o rywogaethau gwyfynod y gaeaf yn ne Cymru nag ieir bach yr haf. Efallai bod rhai, fel gwyfyn Tachwedd a gwyfynod y gaeaf braidd yn llwyd, ond mae’r gwyfyn llwydfrith roedd Gilbert wedi’i weld ar Chwefror 28ain 2009 yn hollol bert, ac mae gwyfyn Rhagfyr yn llwyr brydferth. Fel mae Gilbert yn nodi, yn aml dydy gwyfynod diwedd yr hydref a’r gaeaf ddim yn cael eu cofnodi’n llawn oherwydd dydy pobl ddim yn edrych am wyfynod ar adegau hynny’r flwyddyn. Er hynny, rydw i’n gallu meddwl am un fantais o ran edrych am wyfynod yn y gaeaf - mae’n nosi’n gynnar ac yn hytrach na loetran tan ganol nos ar ganol haf yn aros am wyfynod i hedfan, mae modd eu trapio nhw neu archwilio blodau’r eiddew am 5:30pm (sy’n amser mwy gwaraidd) ar noson fwyn a chymylog ym mis Tachwedd. Mae Mark Evans a Mike Hogan yn cadw llygad ar gwpl o safleoedd gaeafgysgu’r swrcodau (mae swrcodau’n enwog am aeafgysgu mewn ogofâu, seleri a thwneli), rydw i’n cofio dod o hyd i tua 100 swrcod yn gaeafgysgu gyda Mark un gaeaf, roedd e’n dipyn o olygfa. Mae Mark wedi nodi bod nifer y swrcodau sy’n gaeafgysgu wedi bod yn llai dros y gaeafau diwethaf.
Roeddwn i wedi gweld glöynnod brwmstan cyntaf y flwyddyn ym Meisgyn ar Fawrth 16eg ynghyd â dwy adain garpiog ac iâr fach lygadog. Gyda John Berry roedd pleser gen i weld nifer o löynnod trilliw bach ar y Graig, Llantrisant, ble mae porfa’r merlod wedi annog twf da o fioledau (sy’n aros am frithion brown i fynd heibio ym mis Mehefin). Daeth Mark Evans o hyd i ddwy we larfaol brith y gors byw ar safle yn Hirwaun ar ddechrau Ebrill. Mae adeg gynnar y gwanwyn yn amser perffaith i weld y larfau, fel mae Mark yn disgrifio: ‘roedd o leiaf 40 o larfau, ar ddwy we, yn torheulo yn yr haul cynnes. Roedd trydedd we gerllaw, ond roedd yr holl larfau arni’n ymddangos yn farw. Roedd yn anodd fod yn sicr heb fy sbectol ddarllen’.
Yn gynnar yn y gwanwyn, cyn i ddail y bedw dyfu, yw’r adeg i weld isadenydd oren. Mae’r gwyfynod bach ac eithaf prydferth hyn i’w gweld yn hedfan yn uchel yng nghanopïau’r bedw sydd heb eu dail yn heulwen gynnar y gwanwyn. Does dim angen dweud dydw i erioed wedi bod yn ddigon amyneddgar i’w gweld nhw, ond roedd Mark, sydd â mwy o amynedd, wedi’u gweld nhw eleni yng nghoedwig Dyffryn, ar bwys Rose Row, ac ym Mharc Gwledig Cwm Dâr.
Ymlusgiaid
Y gwanwyn yw’r cyfnod gorau i weld ymlusgiaid. Dewiswch fore heulog, braf ond oer a bydd cyfle da gennych chi i weld neidr, madfall neu neidr ddefaid yn torheulo. Anfonodd Peter Sturgess ychydig o luniau ffantastig ata’i o wiberod a madfallod o Aberaman ac roedd Mark Evans wedi gweld madfall yn Abercwmboi.
Mae Carfan Ecoleg Ardd yr Ymddiriedolaeth Adareg Brydeinig yn gweithio â ‘Froglife’ a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Herpetolegol ar Arolwg Gerddi newydd er mwyn gwybod sut mae ymlusgiaid ac amffibiaid yn defnyddio gerddi. Yn benodol, maen nhw’n gofyn am bobl i ddweud wrthyn nhw ynglŷn â nodweddion gwahanol y cynefinoedd o fewn eu gerddi nhw (er enghraifft pyllau dŵr a thomenni compost), nodweddion sy’n gallu cynnal rhywogaethau ymlusgiaid ac amffibiaid penodol. Mae holiadur syml wedi cael ei gynhyrchu ar gyfer yr arolwg (ar gerdyn arbennig sy’n mynd trwy sganiwr ar gyfrifiadur, dyna pam mae angen ichi ofyn am becyn arolwg), ynghyd â chanllaw i’w hadnabod nhw ac ychydig o wybodaeth ynglŷn ag ymlusgiaid ac amffibiaid. Cysylltwch â gbw@bto.org| neu ffoniwch 01842-750050 er mwyn gofyn am becyn. Mae’r pecyn hefyd ar gael ar eu gwefan nhw: http://www.bto.org.uk/gbw/herps/2009_survey/index.htm
Trefi Taclus
Mae Carfan Trefi Taclus, sy’n cael ei rhedeg ar y cyd ag Adran Trin Gwastraff y Cyngor a Chadwch Gymru’n Daclus, wedi cyflawni darn o waith gwych ar gynefin brith y gors yn Ardal Cadwraeth Arbennig Blaen Cynon (safle sy’n cael ei diogelu dan gyfraith Ewrop) yn Hirwaun. Mae’r Garfan, trwy gydweithio â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, Cadwraeth Ieir Bach yr Haf a Gwasanaeth Cefngwlad y cyngor wedi lladd prysgoed, a oedd yn gwthio’u ffordd i mewn i gynefin brith y gors. Mae’r Garfan hefyd wedi cynorthwyo â gwaith rheoli Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Rhos Tonyrefail a chynefin y brith gwyrdd yng Nghwm Clydach. Mae’n galonogol iawn gweld y prosiect nid yn unig yn clirio sbwriel ond yn gwneud gwaith rheoli hanfodol ar gynefinoedd, sy’n cyfrannu at gyflawni Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol.
Diwrnod yr Amgylchedd Cwm Clydach
Bydd diwrnod yr amgylchedd flynyddol Cwm Clydach yn cael ei gynnal yn adeiladau glan yr afon yng Nghwm Clydach ar Fehefin 10fed 2009. Bydd Phil Jenkins a’i gydweithwyr yn trefnu amrywiaeth o atyniadau amgylcheddol, ac mae digon o fywyd gwyllt i’w weld. Yn dibynnu ar y tywydd, bydden ni’n ceisio trefnu taith gerdded fyr er mwyn edrych ar blanhigion ac anifeiliaid Cwm Clydach, sy’n cynnwys cannoedd o degeirianau bach y de, peniganau’r porfeydd, coedwyrdd crynddail, brith perlod bach a brith gwyrdd, gwiberod, bronfreithod bach, siglennod llwyd a chwcwod. Os hoffwch chi gael mwy o fanylion, cysylltwch â Phil ar 01443 420904 neu edrychwch ar y wefan www.cwmclydach.com
Taith Gerdded y Troellwyr
Hwyrach yr un diwrnod, bydd Clwb Adar Morgannwg yn cynnal taith gerdded y Troellwyr, Dydd Mercher Mehefin 10fed, ac yn cwrdd tu allan i Brynfynnon Arms, Llanwynno am 8.30 p.m. Dewch â hylif i gadw’r pryfed draw!
Ail-lansio Parc Gwledig Cwm Dâr 20fed/21ain Mehefin
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn bwriadu ailagor yn swyddogol, ar ôl cael ei ailwampio, ar 20fed/21ain Mehefin. Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi’u trefnu gan gynnwys teithiau natur, gweithgareddau i’r teulu a sesiynau blasu gweithgareddau awyr agored. Bydd y caffi ar agor a bydd y sefydliadau lleol yno.
Newyddion SewBrec
Mae Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru (SewBrec) yn trefnu nifer o ‘Ddiwrnodau Blitz Bioamrywiaeth’ yn ne Cymru, ac mae’r tri cyntaf yng Nghoridor Nant Fawr, Caerdydd (ST187813) ar Ddydd Sul 31ain Mai 2009 (amser dros dro 10-4), Cors Crymlyn, Castell-nedd, yng nghanol Mehefin ac yn Solutia Reserve Great Traston Meadows, Casnewydd ar ddiwedd Gorffennaf. Mae’r digwyddiadau’n agored i bob cofnodwr sydd eisiau cymryd rhan ac os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag Alice Britt, Cynorthwy-ydd Gwybodaeth Bioamrywiaeth SewBrec, Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru, 13 St Andrews Crescent, Caerdydd, CF10 3DB Ffôn: 029 2064 1110 neu e-bost: alice.britt@sewbrec.org.uk|
Ffenoleg
Mae Paul Marshman wedi adrodd am enghraifft braf o effeithiau gaeaf oerach 2008-09 ar blanhigion; roedd y goeden geirios flodeuol yn ei ardd gefn wedi tyfu ei blodau cyntaf eleni yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth. Y gaeaf diwethaf, roedden nhw’n blodeuo yn ystod wythnos gyntaf mis Chwefror. Rydyn ni wedi sylwi bod camelias yn yr ardd drws nesaf i’n Swyddfeydd yn Heol y Llyfrgell, Pontypridd, yn adweithio mewn ffordd debyg; ym mis Rhagfyr 2007 roedden nhw wedi blodeuo cyn y Nadolig, ond doedd y blodau ddim wedi ymddangos tan ddechrau mis Chwefror yn 2009. Mae Mark Evans wedi nodi rhywbeth tebyg: ‘Roedd y tywydd gaeafol ym mis Ionawr wedi dal y blodau gwyllt yn ôl. Dydw i ddim wedi gweld milfyw yn ei blodau yma eto, ond ar ôl y dyddiau mwyn a heulog diweddar maen nhw wedi agor mewn rhai mannau cysgodol.
Diwrnod Hyfforddi Gweithio dros Fywyd Gwyllt
Mae diwrnod hyfforddi gweithio dros fywyd gwyllt arall ar Fai 12fed. Enw’r un hwn yw ‘Llwybrau Byd Natur’ ac mae’n gyflwyniad i arolygu cynefinoedd. Mae’r diwrnod wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer Ceidwadwyr y Llwybrau Beicio gwirfoddol sydd â diddordeb ym mywyd gwyllt, ond mae’n agored i unrhyw wirfoddolwr sy’n byw yn ardal Rhondda Cynon Taf neu sy’n gwneud gwaith gwirfoddol yma. Mae’r diwrnod hyfforddi am ddim ond mae'n rhaid i chi gadw lle cyn Dydd Gwener 8fed Mai gyda pam.barnes@keepwalestidy.org neu ffoniwch 02920 726968
Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yng Nghymru
Mae’r dull o drefnu cynllun gweithredu bioamrywiaeth wedi gweld newid mawr ar draws y Deyrnas Gyfunol. Er bod rhai grwpiau cydlynu ledled y Deyrnas Gyfunol yn bodoli o hyd, mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ynglŷn â chynefinoedd a rhywogaethau wedi’i ddatganoli i Gymru. Y prif sefydliad yw Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru sy’n agored i unrhyw berson sydd â diddordeb yn y maes ac sy’n dymuno ymuno â nhw. Mae eu Grŵp Llywio nhw’n gyfrifol am gydlynu gwaith ac adroddiadau i’r Cynulliad trwy law Jane Davidson, y Gweinidog dros Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai. Mae cyfres o 9 ‘grŵp ecosystem’ yn ganolbwynt ar gyfer y rhan fwyaf o’r gwaith a bydd pob un o’r rhain yn cynnwys arbenigwyr cenedlaethol yn ogystal â chynrychiolwyr lleol. Mae’r grwpiau ecosystemau yn ymdrin â choetiroedd, y môr, gwlypdiroedd, glaswelltiroedd a rhostiroedd, ucheldiroedd, safleoedd tir llwyd, dŵr croyw, tiroedd amaeth a’r arfordir. Mae hefyd grŵp rhywogaethau, grŵp polisïau a chyfres o grwpiau ‘gorchwyl a gorffen’.
Mae Cynhadledd Bioamrywiaeth Cymru yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Morgannwg ar 16eg a 17eg Medi eleni. Y thema yw "Dathlu Llwyddiant – cynllunio camau nesaf Cymru". Bydd y Gweinidog dros Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson AC, a’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones AC, yn rhoi areithiau. Bydd y gynhadledd yn dathlu llwyddiannau ledled Cymru ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf o grwpiau Ecosystem newydd Cymru. Byddwn ni’n darparu taith natur ar gyfer dirprwyon, i Diroedd Comin Llantrisant a’r Graig mae’n debyg. Mae cost y gynhadledd yn cael ei pharatoi ac mae disgwyl i’r gost gael cymhorthdal sylweddol am £30 ar gyfer yr achlysur deuddydd yn ogystal â’r gost am bryd o fwyd gyda’r hwyr (dewisol) a chostau llety. Bydd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael am ddim ar gyfer gwirfoddolwyr. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sean McHugh (s.mchugh@welshwildlife.org| neu ffoniwch 01656 724100).
Unwaith eto, diolch am y cofnodion a’r wybodaeth, parhewch â’u hanfon nhw ata’i.
Richard Wistow
Ecolegydd
CBS Rhondda Cynon Taf
Llwyncastan
Heol y Llyfrgell
Pontypridd
01443 490223