Cylchlythyr cadwraeth - rhifyn 21

 

Cylchlythyr y Cofnodwyr 21

Cylchlythyr y Cofnodwyr 21

Cylchlythyr y Cofnodwyr 21 (Nadolig 2009)

Cynllun Gweithredu Glaswelltir

Mae grwp llywio Gweithredu Dros Natur wrthi’n diwygio ein Cynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Bioamrywiaeth. Rhan o’r gwaith hwn fydd llunio adroddiad haws ei ddefnyddio o gyfoeth ein gwelltiroedd. Ein glaswelltiroedd cyfoethog eu rhywogaethau yw un o asedau bioamrywiaeth mwyaf Rhondda Cynon Taf. Eto i gyd, prin fod un a ddeallwn yn llai. Mae pawb yn gytûn fod terminoleg y Dosbarthiad Cenedlaethol Llystyfiant yn eithaf sych, er mor hanfodol ydyw. Profiad gwefreiddiol, ar y llaw arall, yw sefyll mewn dôl blodau gwyllt tua dechrau mis Mehefin yng nghanol sbloetsh lliwiau’r blodau a si a siffrwd y pryfed wrthi’n peillio. Bwriad y cynllun glaswelltir newydd yw ceisio pontio’r agendor rhwng y ddwy weledigaeth hon. Ond, meddech chi, nid botanegydd mohonof. Sut y gwn i beth yw glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau? Os dysgu am fotaneg ydych chi, ond yn dal yn betrus, pa rywogaethau dangosol allweddol ar gyfer glaswelltir ddylech chi’u chwilio? Os hoffech chi wedl math penodol o laswelltir, ble gallwch chi fynd? Cwestiynau fel hyn yw testun ein trafodaethau ar gyfer y cynllun glaswelltir. Dim ond draft sydd gyda ni hyd yn hyn. Rydym yn croesawu’ch sylwadau chi. Os hoffech chi gael copi o’r ddrafft, croeso i chi gysylltu â fi drwy’r cyfeiriad isod. Ar y llaw arall, gallwn ebostio’r ddrafft, neu’i phostio atoch, yn unol â’ch dymuniad chi.

Adar

Daeth nifer o adroddiadau diddordol am fudo adar i law. Adroddodd Mark Evans iddo weld haid o dua thri deg o wenoliaid. Yn gymysgedd o oedolion ac o rai hyn, roeddent yn hedfan yn uwchben Cwmdâr, yn syth i lawr tua’r De, ar fore Hydref 6ed. Ar 28ain Medi, roedd siffsiaff yn canu ym maes carafanau preswyl Tremhyfryd, Trecynon. Tua diwedd mis Medi fe welodd ef ambell i lwydfron a siffsiaff yn fforio yn ei ardd. Gwelodd Paul Marchman ddau grwp bach (11 a dwy) o wenoliaid uwchben Llwyn-y-pia ar Hydref 16eg, yn mynd i lawr Rhondda Fawr. Y peth rhyfedd yw i’r gwenoliaid fynd drwodd yn fuan ar ôl i Paul weld dau grwp o goch dan adain Ynys yr Ia, 25 yr un, yn hedfan tua’r De ar hyd yr un llwybr. Dyna gyfuniad gogleisiol o wahanol fathau o fudo, gydag adar mudol cyntaf y gaeaf yn goddiweddyd ein hymwelwyr haf olaf ar eu ffordd adref. Mewn llythyr ataf ychydig flynyddoedd yn ôl, soniodd Paul sut y gwelsai ef 11,000 o goch dan adain yn hedfan drwy’r Rhondda ar un diwrnod. Ym mis Hydref, yn ôl adroddiad Mark Evans, ehedodd nifer fawr o fronfraith y gaeaf i lawr Cwm Cynon. Gan fod y cymylau’n isel y diwrnod hwnnw, roedd raid iddynt hedfan i lawr yn y dyffryn yn lle dros y bryniau. O ganlyniad roedd eu niferoedd yn fwy amlwg y tro hwn. Roedd sawl haid yn cynnwys mwy na chant o adar. Roedd Mark yn y gwaith ar y pryd, a chan hynny yn methu cael amser i gyfrif yr adar yn iawn. Er hynny fe roedd yn amcangyfrif fod rhai miloedd o adar wedi hedfan drwy’r Cwm y diwrnod hwnnw.

Coch dan adain a socan eira’. Cawsom adroddiad gan Strinda Davies am y coch dan adain cyntaf ym Montypridd, hefyd ar Hydref 16eg.

Cawsom adroddiad bywiog a gwefreiddiol gan Peter Speller, Llwyncelyn, am ei brofiad wrth weld bwncath yn bwyta jac-do yn ei ardd gefn. Mae’n debyg fod criw eithaf mawr o jac-y-do yn arfer eistedd yn yr onnen ym mhen pellaf gardd gefn Peter. Rhaid fod y bwncath wedi dal u o’r rhain o’r goeden. Glaniodd y bwncath ar y lawnt, ac eistedd ar y jac-do am ychydig funudau. Roedd y jacdoeau eraill yn plymio arno ac yn codi twrw o hyd, yn ceisio tynnu’i sylw o’i braidd. Cafodd Peter deimlad nad oeddent yn ceisio’n rhy galed. Credai fod y bwncath yn ceisio mygu’r jac-do. Bob hyn a hyn, byddai’n ysgafnhau’r pwysau arno, yn ceisio gweld a oedd y jac-do yn dal i anadlu. Ychydig funudau’n rhagor, ac roedd y jac-do wedi peidio â symud ragor. Disgynnodd y bwncath ar y glaswellt, a dechrau troi’i braidd yn bryd o fwyd. Bum munud eto, a dim ond ychydig o brif blu’r jac-do oedd ar ôl. Prawf eto fod holl ryfeddodau byd natur i’w weld yn yr ardd gefn!

Rywbryd yn ystod yr hydref mi ddigwyddais i weld gwalch glas benywaidd yn ceisio’i gorau glas i ladd jac-do ar y palmant ym Mhontypridd. Rhaid fy mod i wedi tarfu ar y miri, ac fe ehedodd y ddau aderyn i ffwrdd i gyfeiriadau hollol wahanol. Mae Dave a Joanne, Parc Gwledig Cwm Dâr, wedi anfon llun o walch glas gwrywaidd ataf. Roedd yr aderyn wedi ymweld â’u gorsaf fwydo yng nghefn y dderbynfa un bore Sul.

Cafodd Peter Speller hyd i weddillion hebog tramor ar y llwybr ceffyl ar y tu uchaf i’w fferm. Nid oedd dim ar ôl ond y pen, ac ychydig blu du a gwyn rhesog. Nid oedd modd dweud sut y bu farw. Tybed a gafodd ei ysglyfaethu (gan y bwncath lleol)? Ei saethu, o bosibl? Nid oedd digon ar ôl, fodd bynnag, i ddweud sut y bu farw’r aderyn. Gwelodd Sarah Illsey hebog tramor hefyd, tua diwedd mis Hydref. Roedd yr aderyn yn hedfan uwchben mae parcio tafarn y Crown, Ffordd Llantrisant, Llanilltud Faerdref.

Daeth sawl adroddiad am y barcud coch i law yn ystod yr hydref. Gwelodd Mark Evans un uwchben Gray’s Place, Llwydcoed, ar Fedi 25ain. Yn ardal Dinas Isaf roedd Sarah Illsey wedi gweld barcud coch, tua’r un adeg. Bu hi’n ei wylio o ffenestr ei swyddfa yn Nhy Elái yno. Roedd hi’n eithaf sicr taw barcud coch oedd yr aderyn oherwydd ei gysgodlun fry yn yr awyr, ac yntau’n hedfan ar hyd lechwedd y mynydd. Cadarnhad o hyn oedd gweld lle bu’r barcud coch yn ysbeilio biniau sbwriel!

A ninnau’n meddwl am adar ysglyfaethus, soniodd Paul Marshman am weld cudyll bach yn hela corehedyddion y waun yng Nghwm Bodringallt, Ystrad Rhondda, ar Ragfyr 10fed. Roedd Ray Edwards wedi gweld cudyll bach yn hedfan ar draws ffordd Llanwynno, y tu uchaf i Ynys-y-Bwl (ST049939) ar Ragfyr 8fed. Mae’r ddau adroddiad yn eithaf agos i’w gilydd. Naid fer fyddai 4km i’r cudyll bach, wedi’r cyfan. Os gwn i a oedd Paul a Ray wedi gweld yr un aderyn?

Roedd cynhaeaf y ffrwythau gwyllt yn ardderchog yr hydref hwn. Roedd y cerddin yn Llwyn-y-Pia yn gwegian dan bwysau’r holl aeron. Gwelodd Paul Marchman grwp o duag 20 brych-y-coed yn gorffwys ar y gwifrau ffôn, wedi bwyta llond eu boliau. Mae llwyni draenen wen yn tyfu yn y Cross Inn, Llantrisant, ger swyddfeydd adeiladwyr ffordd osgoi Pentre’r Eglwys. Sylwais fod y llwyni hwythau’n llawn aeron, ac yn fyw â’r coch dan adain, y fronfraith, a’r fwyalchen. Gwelodd Mark Evans ryw 250 o ddrudwyod yng Nghwm-bach ar Dachwedd 19eg, yn hedfan mewn haid uwchben. Mae Kevin Oates wedi adrodd wrthym am yr heidiau o ddrudwyod a welodd ef uwchben Pontypridd.

Mae Llyn Cwm Clydach yn denu llawer o wylwyr adar i’w glannau y dyddiau hyn. Ymhlith yr adar dŵr a gafodd eu cofnodi yno’r haf hwn roedd y wyach fach, ac mae Paul Marshman wedi ychwanegu’r hwyaden gopog i’r rhestr erbyn hyn.

Roedd y tywydd trwm wedi dechrau mynd yn fwrn ar ein calonnau i gyd, ond dyma’r adar cân yn dod i’r fei. Buont wrthi’n meddiannu tiriogaethau, ac yn gweiddi ar yr adar eraill am gadw draw. Mynd o nerth i nerth mae côr y bore bach ym Meisgyn. Dechreuodd gyda’r robin goch, ond death y fronfraith i ymuno yn y gân tua diwedd mis Tachwedd. (Mae un o’r rhain yn canu drwy’r tywyllwch o goeden afalau Bramley fy nghymydog bob bore.) Bellach, mae’r titw penddu a’r llwydfron wedi dod i ymuno yn y gân. Ac mae hi eisoes yn droad y flwyddyn gyda’r adar cân sefydlog yma.

(D.S. Gwneuthum gamgymeriad yn y Cylchlythyr parthed dyddiad y gog gyntaf yng Nghefnpennar eleni. Ar Fai 19eg, nid Mai 29ain roedd David Gordon wedi’i chlywed.)

Cyfrifiadau Adar yng Nghilffyrdd y Barri

Fe ddaeth arian i law at y gwaith hwn drwy Grwp Ymgynghori ar Fioamrwiaeth a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. O ganlyniad fe fu modd gosod bwydyddion adar yno o Fedi 7fed ymlaen. Bu Kevin Oates yn monitro’r bwydyddion, a sylwodd ar gynnydd yn nifer yr adar sy’n bwydo yno. Dyma grynodeb o’i ganlyniadau:

robin goch (4), titw tomos las (7), titw penddu (9), titw cynffon hir (heidiau i 12); delor y cnau (4), ji-binc (16), llinos werdd (11), nico (o 8fed Tachwedd, gyda haid fwy (15+) yn bwyta’r pennau hadau ar ein clawdd bioamrywiaeth), llwydfron (5), pioden (7), bran dyddyn (4), sgrech y coed (2), cnocell werdd, cnocell fraith fwyaf, a gwalch glas.

Mamaliaid

Aeth Stuart Jones y Graig, Pontypridd, i fyny i’w lain un bore i adael ei ieir allan. Roedd yno ffwlbart ifanc, yn gaeth mewn trap dal llygod mawr yn fyw.

Fe wyr Stuart fod gwaed y ffuret mewn sawl ffwlbart erbyn hyn, ond ffwlbart o’r iawn ryw oedd yr un a welodd ef – Blaenau clustiau gwyn, mwgwd nodweddiadol, ac elfen o flew tywyll yn ei ffwr. Nid oedd am ryddhau’r ffwlbart ar ei lain, gan fod ieir yno. Gan hynny, penderfynodd ryddhau’r creadur mewn coed ar ei ffordd yn ôl i’r gwaith. Gwnaeth prosiect Springwatch y BBC ymdrechion glew i weld ffwlbart byw, ond heb fawr o lwyddiant.

Rydym wedi gweld digon ohonynt wedi’u lladd ar y ffyrdd i ddechrau amau’u bod wedi ymgartrefu’n weddol sefydlog yn Rhondda Cynon Taf. (Unwaith yn unig y gwelais i ffwlbart byw, yn ffado i lawr y ffordd fynediad ym Mharc Gwledig Cwm Dâr.) Dyna pam mae cofnod Stuart i’w weld mor ddiddorol.

Anfonodd Richard Phipps adroddiad am finc yn rhedeg drwy dir mudiad Groundwork yn y Fedw Hir. Minc eithaf mawr oedd hwn, yn lliw du iawn, ac yn rhedeg i lawr tua’r afon. Mae Kevin Oates wedi gweld carlwm. Daeth y creadur yn crwydro i mewn i’r ganolfan ymwelwyr ym mharc Barry Sidings.

Cefais nifer o adroddiadau am ystlumod gan Richard Dodd. Ymddengys fod nifer fawr o gorystlumod soprano (100) wedi clwydo yn agos i orsaf Ystad Ddiwydiannol Trefforest. Daeth gwybodaeth ddiddorol i law yn sgîl y gwaith monitro blynyddol o gwmpas Llanwonno. Cafodd rhan fawr o blanhigfa Comisiwn Coedwigaeth Cymru yno ei chlirdorri. Mae’n debyg fod effaith ymyl y goedwig, sy’n arwain at gynnydd yn nifer y rhywogaethau, wedi rhoi lle i fwy o weithgarwch ar ran yr ystlum leiaf yno.

Creaduriaid Di-asgwrn Cefn

Derbyniais lun o filtroediad tua dechrau’r hydref. Gydag ef roedd adroddiad ar ymosodiad gan filtroediaid. Roedd cannoedd ohonynt wedi meddiannu pingwn tŷ rhywun. Edrychais ar y llun yn llyfr rhagorol camni Collins ar bryfed. Yn perthyn i rywogaeth o’r enw Tachypodiulus niger roedd y miltroediad hwn, mae’n debyg. Yn ôl y llyfr, mae’r miltroediad hwn yn gallu mynd yn belen, fel sbring oriawr. Mae’n byw mewn coed, ac mae’n fodlon cringo coed er mwyn pori ar y mwsogl a’r algæ. Fy nghasgliad anorfod i, felly, oedd fod algæ a/neu fwsogl yn byw ar do’r ty a’r cwteri. Rhaid fod y miltroediaid lleol yn mwynhau gwledd cyn i’r cyfle ddiflannu. Ni welais innau’r ffenomen naturiol hon erioed. Tybed a oes un ohonoch chi wedi’i gweld?

Yn ystod yr haf, bydd cricsyn y llwyn derw yn cropian ar hyd y nenfwd yn fy nhy i. (Tybed a yw’r cricsyn hwn dan yr argraff taw brigau uchaf derwen yw f’ystafelloedd gwely i?) Gwelais ryfeddodau dro’n ôl, a minnau’n chwilota yn lloft ty fy rhieni. Nid sôn yr wyf am yr hen flychau Subbuteo, a thîm Preston North End gyda naw o’r chwaraewyr wedi’u hanafu’n ddifrifol. Do, fe welais dwy nyth biffgwn hardd, yn hongian o’r trawstiau.

Bob blwyddyn, bydd gwenyn deildorrol yn defnyddio’r tyllau draenio dan fy ffenestri er mwyn nythu. Mae’n debyg felly fod rhywogaethau eraill yn ogystal â’r miltroediaid yn hapus i ddefnyddio’n tai.

Roedd tywydd mwyn a thawel dechrau’r hydref yn dda i’r glöynnod byw. Roedd y gweirlöyn brych a’r fantell goch yn hedfan yn fy ngardd ymhell ar ôl dechrau mis Hydref. Ac ar Hydref 21ain, fe fues i a John Berry yn gwylio copor bach benywaidd yn dowdy wyau ar suran yr yd ar un o rannau uchaf Comin y Graig, Llantrisant. Ond death diwedd ar hyn i gyd gyda’r Tachwedd glwyb fu’n dilyn. Dipyn o syndod, felly, a gafodd Paul Newman yng Nghwm Bodringallt ar Ragfyr 10fed, pan welodd fantell goch (ac, o bosibl, mantel paun hefyd) yn hedfan yno. Daeth gwyntoedd oer yn fuan wedyn. Gobeithio fod y glöynnod wedi cael hyd i rywle ddiogel i aeafgysgu o’r newydd.

 

Hydref hirfelyn hiraethus a gawsom eleni, a dyna’r adeg a welodd Mark Evans y fuwch fach gota harlecwin, a’r hebogwr hefyd. Ac ar Dachwedd 19eg, i fyny yng Nghwm-bach yng ngardd Mark, roedd piffgynen yn dal i gasglu neithdar o flodyn ffiwsia. Fe welodd ef frenhines cacwn hefyd, o fath lucorom/hortorum/terrestris. Yn ystod yr ysbaid hyfryd honno fe gawsom gyfarfod Bioamrywiaeth Leol yn y pafiliwn criced ym Mharc Ynysangharad. Roedd y ffenestri ar agor, a dyma ryw 50 o fuchod bach cwta yn hedfan i mewn. Teg yw dweud, yn fy marn i, fod y fuwch fach gota harlecwin wedi ymgartrefu yn Rhondda Cynon Taf.

 

Mae garddio bywyd gwyllt yn destun llawer o erthyglau mewn cylchgronau bywyd gwyllt a garddio. Erbyn hyn, rwyf wedi gweld yr un rhestrau o blanhigion sy’n gyfeillgar i bryfed yn llawer rhy aml. Dyma fi felly yn dryllio’r mowld ac yn rhoi ymhlith y rhestrau ystrydebol enw planhigyn sydd mewn cae ar ei ben ei hun: rhuddygl!

Bob blwyddyn, a phridd ein llain ni yn dechrau cynhesu, byddaf yn agor nifer o wahanol becynnau o hadau rhuddygl, a hau ambell i res o ruddygl. Pam byddaf i’n hau rhuddygl? Nid ydym ni fel teulu yn arbennig o hoff ohonynt, wedi’r cyfan. Ond maent yn tyfu’n dda ac yn gyflym – ac mae’r gwlithod yn eu casáu! Rywsut fe anghofiais docio’r rhuddygl eleni, a gadael llawer ohonynt yn y pridd. Cyn canol mis Gorffennaf roeddent wedi magu cannoedd o flodau gwyn a phinc croesffurf hardd – sy’n rhoi hadau hardd iawn hefyd, fel mae’n digwydd. Roedd y clwt llysiau yn llawn pryfed hofran, gwenyn, a glöynnod gwyn. Mae blodau perta’r borderi bach wedi mynd a dod, a hithau bellach yn hirlwm y gaeaf arnom. Er gwaethaf hyn i gyd, mae blodau’r rhuddygl yn dal i ffynnu. Gardd yn gyforiog o fêl am chew mis – pwy all beidio â sôn am hyn? Bu dydd o brysur bwyso hefyd un tro, a phiffgynen yn ymosod ar löynn mawr gwyn benywaidd dan fy llygaid syfrdan.

Aeth hi’n frwydr ffyrnig rhwng y ddwy wedyn, ond yn y diwedd fe lwyddodd y biffgynen i lorio’r glöyn. Dyma’r biffgynen yn bwrw ati ar unwaith i dorri’r thoraces a’r abdomen i ffwrdd yn gymen.

Bum munud yn ddiweddarach, nid oedd dim ar ôl ond pedair adain yn gorwedd yn y llwch. Bydd pobl yn gofyn i beth mae piffgwn yn dda. Dyna i chi un peth i ddechrau – maent yn bwyta glöynnod mawr gwyn a thrwy hyn yn cadw fy mlodfresych blaguro porffor rhag distryw!

Tywydd

Mae Marcus Middlehurst wedi anfon cofnodion glawiad atom o’i gartref yn y Tynewydd, ger Treherbert. Gwnaeth ef ei fesurydd glawiad ei hun, ond gan gadw’n fanwl at ganllawiau Swyddfa’r Tywydd. Mae ef wedi gosod y mesurydd yn ei ardd gefn, sy’n gorwedd yng ngwaelod y dyffryn yno. Casglodd ffigurau diddorol yn ystod y flwyddyn, ac roedd yn werth aros amdanynt. Dechreuais ar y gwaith hwn gan nad oeddwn yn sicr o gywirdeb y ffigurau lleol swyddogol. Yn ôl yn yr Wythdegau, roeddwn yn berchen ar Fferm Ty Draw, Blaencwm. Gofynnodd Swyddfa’r Tywydd am ganiatâd gosod mesurydd monitro glaw mewn un o’m caeau – a gwrthod coelio’u ffigyrau’u hunain!

Dyma hwy: Gorfennaf 2009 – 416.5 mm (16.31 modfedd); Awst 2009 186mm (7.32 modfedd); Medi 2009 113mm (4.44 modfedd), gyda dros 100mm o hwnnw wedi’i gofnodi yn ystod y pedwar niwrnod cyntaf.

Mae adroddiadau Marcus yn ategu’n dwt y rhai a welsoch yn rhifyn 20 o’r Cylchlythyr, o law Paul (Llwyn-y-pia) a Glyn (Trefforest). Dechreuwn gyda Marcus ym mhen ucha’r Rhondda, gan weithio ein ffordd i lawr drwy ddalgylch yr afon i gyrion deheuol Pontypridd. Tuedd glawiadau mis Gorffennaf 2009 oedd 16.3 modfedd tu uchaf i’r dalgylch, 14 modfedd draean o’r ffordd i lawr, a 11 modfedd tua godre’r dalgylch. Felly dyna i chi wahaniaeth o 5.3 modfedd yn y glawiadau dros bellter o 10 milltir.

Yn nes at heddiw, ar y llaw arall, ni chafodd tywydd cynnes a gweddol sych y Medi a’r Hydref fodd i barhau. Yn ystod mis Tachwedd, cofnododd Paul gymaint â 20 modfedd o law yn Llwyn-y-pia.

Ysgrifennu ar Fywyd Gwyllt

Mae Natur Cymru (cylchgrawn bywyd gwyllt Cymru) yn cynnal cystadleuaeth ysgrifennu ar fywyd gwyllt. Mae’n agored i bawb, a swm tywysogaidd o £500 yw’r wobr. Mae manylion y gystadleuaeth i’w cael ar wefan www.nature2010.org.uk|. Mae Natur Cymru yn awyddus i gyrraedd myfyrwyr. Yn ogystal â chynnal gwefan, felly, maent wedi sefydlu grwp Facebook http://www.facebook.com/group.php?gid=148899482239&ref=nf|. Hoffech chi ragor o fanylion? Mynnwch air gyda Huw Jenkins, ar 01766 541062 neu www.naturcymru.org.uk|.

Galw am ragor o gofnodion ar gyfer Blaencwm a Blaenrhondda

Mae Marcus Middlehurst wedi galw am ragor o gofnodion o ben gogleddol y Rhondda Fawr. Mae Cylchlythyr y Cofnodwyr yn dibynnu’n gyfan gwbl ar waith gwirfoddol y cofnodwyr eu hunain. Rwy’n sicr fod bioamrywiaeth ardal Blaencwm a Blaenrhondda llawn mor gyfoethog ag ardaloedd eraill Rhondda Cynon Taf. Mi hoffwn gan hynny alw ar garedigion Natur ym Mlaencwm a Blaenrhondda i anfon eu cofnodion atom. Dyma fi yn sôn i ddechrau am yr hebogiaid tramor uwchben Blaencwm. Ar lethrau Pen-pych mae llus yn tyfu, a chacynen y llus yn bwydo’n osgeiddig ar y blodau. Os ewch i lethrau isaf Mynydd Ty-isaf, fe welwch y fritheg werdd a’r fritheg berlog fach yn hedfan, a thegeirian y gors deheuol yn tyfu. Daeth adroddiadau gogleisiol o ddiddorol i law am y dylluan yn hela a’r wiber yn dod o’i chuddfannau ar lethrau uwch y dyffrynnoedd. Mae rhai wedi gweld y brithyll yn Afon Rhondda, a’r troellwr mawr yn llennyrch y goedwig. Dyna i chi ddechrau da – oes gwybodaeth bellach gyda chi? Mynnwch roi gwybod!

Ymlusgiaid ac Amffibiaid

Daeth Rhondda Cynon Taf yn rhan o ardal gwaith Grwp Amffibiaid ac Ymlusgiaid Gwent (GAYG) yn ddiweddar. Gwn y bydd rhai ohonoch i’n gweld ni’n rhan o Grwp o chrau Gwent. Hoffwn bwysleisio taw grwp cofnodi gweithgar iawn yw hwn,ac rydym ni a Merthyr Tudful yn ffodus iawn i gael ymuno ag ef. Hoffech chi ddod yn aelod o Grwp Amffibiaid ac Ymlusgiaid Gwent? Mae’r manylion i’w cael ar www.sewbrec.org.uk/garg.page. Bydd y cyfarfod nesaf ym Mharc Gwledig Cilffyrdd y Barri ar nos Lun, 8fed Chwedror, am 6.30yh.

Gwyr pawb mor niferus – os nad toreithiog – yw’r neidr ddefaid a’r fadfall yn Rhondda Cynon Taf. Ond darlun anghyflawn iawn sydd gennym o sefyllfa neidr y gwair a’r wiber. Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae’r cofnodwyr wedi rhoi gwybod i ni am nifer o safleoedd gwiberod newydd oedd yn gwbl anhysbys i ni cyn hynny. Bydd safleoedd newydd wastad o ddiddordeb i ni. Bellach, mae grwp ymlusgiaid ac amffibiaid yn gweithio yn Rhondda Cynon Taf: mynnwch roi gwybod am unrhyw safleoedd newydd!

Bywoleuni yng Nghwm Cynon

Cefais adroddiad rhyfeddol gan Mark Evans ym mis Awst 2008 am ei brofiad o fywoleuni. Roedd ef wedi baglu – yn llythrennol – ar draws y ffenomen ryfeddol hon yn y goedwig uwchlaw Cwm Cynon.

Dyma ddisgrifiad Mark o’i brofiad. “Roeddwn i ar fy ffordd i fan lle byddaf yn gwylio’r cigfrain. Nid oedd hi wedi gwawrio eto, ac roedd y peiswellt ar lawr yn llawn dwr ar ôl y glaw trwm diweddar. Am ryw reswm fe fydd y cigfrain dipyn yn llai swil os byddaf ar f’eistedd. Felly dyma fi’n bwrw ati yn ddi-oed i osod fy sedd. Ond y foment nesaf, a minnau’n digwydd edrych i lawr ar y fan lle’r oedd fy nhraed wedi gadael olion, gwelais ddwsinau o fân smotiau disglair o liw glas trydanol. Nid oedd yr un ohonynt yn fwy nag 1mm ar draws. Roeddent ym mhob man, hyd yn oed ar wyneb y glaswellt gwlyb, ac mewn llynwenni bas ysbeidiol lle’r oedd fy nhraed wedi cerdded. Meddyliais i ddechrau fod mod yn drysu, neu efallai fod y gwlith yn adlewyrchu goleuni o ryw ffynhonell benodol. Ond erbyn edrych, nid oedd goleuni’n dod o unman arall. O graffu’n nes ar y smotiau disglair, gwelais eu bod yn disgeirio â’u goleuni’u hunain. Penderfynais graffu’n nes er mwyn darganfod y ffynhonell, ond nid oedd un amlwg i’w gweld yn unman. Roedd fy llygaid wedi cynefino â’r tywyllwch, ac yn gweld y goleuni hwn yn eithaf disglair. Byddai’n pylu’n ddim ar ôl rhyw 30 o eiliadau. Ergyd fy nhraed i yn cerdded oedd yn sbarduno’r goleuni, hyd y gallwn i weld. Rhois gynnig ar wasgu fy nhraed i fannau hollol dywyll. Cyn gynted ag y tynnais fy nhraed i ffwrdd, wele’r smotiau bach yn disgleirio. Beth oedd ffynhonell y goleuni hardd hwn? Rhyw ffwng, alga, neu facteria, o bosibl? Mae’n debyg na chaf wybod byth. Rwyf wedi treulio blynyddoedd yn mynychu cynefinoedd tebyg i hwn gyda’r nos. Er i mi ymweld â’r mannau hyn droeon mewn amgylchiadau tebyg, ni welais ddim yn debyg i’r ffenomen hon erioed. Tybed a oes gyda chi unrhyw syniadau?

Nid oedd y syniad lleiaf gennyf i, yn anffodus. Ond fe aeth Mark ati i lunio erthygl ar y goleuni hudolus hwn i gylchlythyr Cymdeithas Naturiaethwyr Merthyr Tudful a’r Cylch (ar dudalen 25 o rifyn mis Ionawr 2009). Cafodd Roy Perry ysbrydoliaeth gan yr erthygl i wneud peth ymchwil, ac i ohebu â dau arbenigwr byd-enwog ar fywoleuni, yr Athro Peter Herring a Dr. P. E. Stanley. Casgliad Roy Perry oedd taw mwydod sy’n gyfrifol am y bywoleuni.

Mae’n debyg fod llawer o rywogaethau o fwydod, gan gynnwys y pryf genwair cyffredin, yn gallu cynhyrchu bywoleuni. Yn ôl Dr. Stanley, a gafodd ei ddyfynnu yn erthygl Roy Perry yng nghylchlythyr naturiaethwyr Merthyr, presenoldeb heidiau o fwydod bach o’r genws Enchytraeus sy’n gyfrifol am y goleuni. Disgrifiad digon tebyg o’r ffenomen oedd gan Mark Evans, ym marn Dr. Stanley. (Gw. y dyfyniad perthnasol yn erthygl Roy Perry ar gylchlythyr nauriaethwyr Merthyr.) Gan hynny, roedd Mark yn gywir i dybio nad ffyngau neu facteria bioymoleuol a welai ef. (‘Tân llwynog’ oedd yr enw ar hyn ers talwm iawn ar lafar gwlad). Mwydod bioymoleuol, felly, sy’n cynhyrchu’r goleuni. Un peth sy’n sicr: nid oes terfyn ar ryfeddodau Natur. Mae’r erthygl yng nghylchlythyr naturiaethwyr Merthyr mor bwysig yw tywyllwch os am weld ffenomenâu fel hyn. Bydd raid i’r rhai sy’n gwylio fod mewn tywyllwch ers sawl munud cyn i’w llygaid ymgynefino â’r tywyllwch. Dyna’r unig ffordd i weld smotiau goleuni mor fân. Pethau fel hyn sy’n atgoffa rhywun gymaint o drysorau Natur aeth ar goll yn ffrydiau goleuni sodiwm ein byd llachar ni. Bydd gwir dywyllwch yn ddatgelu byd o ryfeddodau coll i ni, o’r Llwybr Llaethog uwchben i’r mwydod bywymoleuol dan ein traed.

Cennau

Oes gennych awydd i gael pip ar y cennau? Heb yr un clem ymhle i ddechrau? Edrychwch ar y wefan hon: http://www.opalexplorenature.org/?q=LichenGuide|

Mae’n cynnig allwedd neu agoriad i ddealltwriaeth o ansawdd aer, ar sail y gwahanol fathau o gennau.

Gwarchod Glöynnod Byw De Cymru

Rydym wedi derbyn rhaglen llawn o achlysuron a digwyddiadau ar gyfer y gaeaf gyda Gwarchod Glöynnod Byw. Mae digonedd o gyfle i gymryd rhan yng ngwaith ymarferol rheoli’r safleoedd. Bydd Dr. Owen Lewis yn tradddodi sgwrs (gyda lluniau) am dynged glöyn byw poblogaidd y trilliw bach, ar Ionawr 4ydd. Hoffech chi ragor o fanylion? Croeso i chi gysylltu â fi, neu edrych ar eu gwefan http://www.southwales-butterflies.org.uk/index.html>.

Ffyngau

Unwaith eto, rydym yn ddyledus i Mark Evans am adroddiad hynod ddiddorol. Roedd wedi treulio dau fore bach yn olynol yn gwylio targedau ger y Darranlas, ar bwys Perthcelyn. Gwan iawn oedd y goleuni, ac roedd niwl ar lawr hefyd. Er hyn, fel lwyddodd Mark i dynnu llun o bastwn coch y lindysyn (Cordiceps militaris). Ffwng rhyfedd yw hwn sy’n dechreu’i fywyd dan ddaear yn tyfu yng nghyrff chwilerod a larfâu amryw o rywogaethau o wyfynnod. Dyna oedd y tro cyntaf i mark weld y rhywogaeth honno erioed.

 

Y diwrnod blaenorol, a minnau’n chwilio yn yr ardal, mi welais lawer o gapau cwyr ac o ffyngau gwelltir eraill, Yn ogystal â’r rhain i gyd mi welais fwy o’r jeli rhyfedd hwnnw nag a welswn i erioed o’r blaen. Roedd peth o’r jeli yn dryloyw, a pheth yn anhryloyw, ond ar y glaswellt byrrach roedd y cyfan yn gorwedd. Ni wn beth sy’n ei gynhyrchu. Ai anifeiliaid sy’n ei greu, neu blanhigion, neu ffyngau?

 

Tywydd sych a gawsom yn nechrau’r hydref, a chan hynny roedd y ffyngau hydrefol yn hwyr yn ymddangos. Ond, fel y tystiodd Steve Murray, roedd y tywydd gwlyb a gawsom wedyn yn ddigon i yrru’r ffyngau i godi o’r pridd. Fe welodd Steve, sy’n byw yng Nghoed-y-Cwm, ger Pontypridd, nifer o ffyngau’r werthyd wed (Clavaria vermicularis) ar lethr y mynydd tu ôl i’m ty. Roedd nifer fawr o ffyngau eraill yno hefyd. (Gyda llaw, fy mab deng mlwydd oed, ac nid y fi, oedd y darganfyddwr go iawn!) Gofynnais i Steve am ragor o wybodaeth am y safle. Mae’n ei disgrifio fel dôl sy’n llawn twmpathau morgrug melyn. Mae rhai o’r twmpathau’n eithaf mawr, heb fwy na chwpl bach o fetrau rhyngddynt. Awyrgylch yr oes o’r blaen sydd yno, heb arwydd fod neb wedi ceisio’i foderneiddio. Mae yno leiniau bach porfa fer rif y gwlith, gyda cheffylau’n pori gan amlaf ond weithiau â defaid yno hefyd. Mae’r rhedyn ungoes wedi ymledu i’r llethrau yno. Dyma safle ffyngau arbennig o ddiddorol, yn ôl pob sôn. Marciau llawn i Emrys, mab Steve!

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Fioamrywiol.

Diolch eto am yr holl adroddiadau a chofnodion. Os bûm mor amryfus â cholli neu anghofio rhai, gobeithio y caf faddeuant.

Richard Wistow
Ecolegydd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Llwyncastan
Library Road
Pontypridd,
CF37 2YA