Rhoi adroddiad am gerbydau sy wedi'u gadael Ar-lein
Er mwyn i gerbyd fod yn un sydd wedi’i adael, mae rhaid bod y cerbyd wedi’i adael mewn rhyw fan neilltuola a dydy’r perchennog ddim eisiau’r cerbyd bellach. Dydy hyn ddim yn golygu bod y cerbyd wedi’i adael yn gyfeithlon neu fod y perchennog cofrestredig (yr un swydd wedi’i enwi ar y ddogfen gofrestru) â hawl i wadu unrhyw gyfrifoldeb cyfreithlon drosto.
Fodd bynnag, gall cerbydau gael eu gadael mewn llawer o leoliadau am wahanol resymau heb eu bod nhw’n gerbydau wedi’u gadael. Mae’n bosibl y bydd trigolion yn gadael cerbydau tra’u bod nhw i ffwrdd neu os nad oes modd iddyn nhw ddychwelyd at y cerbyd oherwydd salwch. Mae’n bosibl y byddan nhw hefyd yn parcio ceir sy’n aros i gael eu trwsio neu sydd wedi bod mewn damwain.
Yn gyffredinol, mae ceir wedi’u gadael mewn cyflwr gwael, er dyw hyn ddim bob amser yn wir.
Cerbydau heb dreth
Mae cerbydau heb dreth yn gallu bod yn bwnc dryslyd. Er ei bod hi’n anghyfreithlon i ddefnyddio cerbyd ar y briffordd heb dreth, dyw cerbydau sydd heb dreth ddim o anghenraid yn gerbydau wedi’u gadael. Mae rhai pobl yn dewis anwybyddu’r gyfraith a gyrru cerbydau heb dreth, ond dyw’r ceir yma ddim yn gerbydau wedi’u gadael.
Y ceidwad cofrestredig diwethaf sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y dreth wedi’i thalu ar gerbyd. Os bydd cerbyd yn cael ei werthu neu’i drosglwyddo, cyfrifoldeb y ceidwad cofrestredig yw gwneud yn siŵr bod y DVLA (yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau) yn gwybod am hyn ac wedi diweddaru’r cofnodion.
Er bod yr Heddlu yn ymchwilio i gerbydau heb dreth ac yn dweud wrth yr awdurdodau amdanyn nhw, y DVLA fydd yn erlyn.
Cysylltwch â’r DVLA os ydych chi’n gwybod am gerbyd heb dreth...
Ebost unlicensed.use@dvla.gsi.gov.uk|
Llythyr
Swyddfa Leol y DVLA
Tŷ Archway
77 Tŷ Glas Avenue
Llanisien
Caerdydd
CF14 5DX
Ffôn 0800 325 202 (llinell gymorth am ddim)
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y DVLA www.dvla.gov.uk|
Beth allwn ni ei wneud am gerbyd wedi’i adael?
Byddwn ni’n symud unrhyw gerbyd yn Rhondda Cynon Taf os ydyn ni o’r farn ei fod wedi’i adael “heb awdurdod cyfreithiol”. Yn ogystal â cherbydau sydd wedi’u gadael ar briffordd, rydyn ni hefyd yn delio â cherbydau sydd wedi’u gadael “ar unrhyw dir yn yr awyr agored”.
Cerbydau mewn cyflwr gwael
Os ydyn ni o’r farn bod cerbyd mewn cyflwr mor wael y dylid cael gwared arno, mae gyda ni’r hawl i roi rhybudd cyfreithiol ar y cerbyd cyn i ni ei symud. Mae’r rhybudd yma’n dweud wrth y perchennog y bydd y cerbyd yn cael ei anfon i gael ei sgrapio os na fydd yn cael ei symud o fewn 24 awr. Yn yr achos yma, does dim rheidrwydd arnon ni i ddod o hyd i berchennog ar gyfer y cerbyd.
Cerbydau sydd mewn cyflwr go lew
Os bydd cerbyd mewn cyflwr go lew, mae rhaid i ni gymryd camau penodol i ddod o hyd i berchennog. Os oes modd dod o hyd i berchennog, mae rhaid rhoi cyfnod rhesymol o amser iddo ymateb i’r rhybudd. Os nad yw cerbyd yn dangos disg dreth ddilys, byddwn ni’n cysylltu â’r DVLA am hyn.
Cerbydau ar dir preifat
Mae gyda ni’r hawl i fynd ar dir preifat i archwilio cerbydau a chyhoeddi rhybuddion. Gallwn ni hefyd symud cerbydau o dir preifat os nad oes ymateb i’n rhybuddion. Mae gan feddianwyr tir 15 diwrnod i ymateb, yn ysgrifenedig, i unrhyw rybuddion y byddwn ni’n cyhoeddi ar eu cyfer.
Cerbydau mewn lleoliadau nad oes modd eu cyrraedd
Os bydd cerbydau yn cael eu gadael mewn lleoliadau peryglus neu leoliadau nad oes modd eu cyrraedd, byddwn ni’n penderfynu a yw’n rhy beryglus neu’n rhy ddrud i gael gwared arnyn nhw. Fodd bynnag, rydyn ni’n cydweithio â’r Fyddin i geisio mynd i’r afael â’r broblem yma nawr. Mae’r Fyddin yn symud cerbydau o leoliadau anodd fel rhan o hyfforddiant ar gyfer eu hadrannau adfer tanciau.
Cerbydau sydd â threth ddilys
Os bydd cerbyd yn arddangos disg dreth ddilys, does dim modd cael ei wared tan fod cyfnod y dreth wedi dod i ben.
Hawl yr Heddlu i ddelio â cherbydau
Mae gan yr Heddlu’r pŵer i symud a chael gwared ar gerbydau neu i ofyn i berchennog neu berson sydd â rheolaeth dros y cerbyd ei symud. Mae’r pwerau hyn yn cwmpasu ceir sydd wedi torri i lawr, sydd wedi’u gadael neu sydd wedi’u gadael ‘heb awdurdod cyfreithiol’.
Cerbydau sydd ddim yn gerbydau wedi’u gadael, ond sydd yn achosi problem
Dywedwch wrth yr Heddlu am gerbydau sydd heb eu gadael ond sydd yn achosi problem.
Cerbydau sy’n achosi rhwystr
Dywedwch wrth yr Heddlu am gerbydau sy’n rhwystro mynediad neu’n rhwystro priffordd.
Sut mae rhoi adroddiad am gerbyd sydd wedi’i adael?
Os ydych chi o’r farn bod cerbyd wedi cael ei adael, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein isod neu defnyddiwch y manylion cyswllt ar waelod y dudalen yma.
Sut mae ildio cerbyd di-angen?
Os oes gyda chi gerbyd dydych chi ddim am ei gadw, cysylltwch â ni ac fe drefnwn ni ddod i’w gasglu. Bydd rhaid i chi brofi mai chi yw perchennog cyfreithiol y cerbyd neu fod gyda chi hawl y perchennog i gael gwared ar y cerbyd.
Bydd rhaid i chi dalu £40 i symud a chael gwared ar bob cerbyd rydych chi am ei ildio.
Ydy’r Cyngor yn trefnu amnest cerbydau?
Rydyn ni’n cynnal amnest cerbydau yn aml. Yn ystod y cyfnodau amnest yma, gall perchnogion ddod â’u cerbydau aton ni a byddwn ni’n eu derbyn yn rhad ac am ddim. Fel arfer, bydd amnest yn digwydd dros benwythnos a byddwn ni’n darparu tri lleoliad yn Rhondda Cynon Taf lle gallwch chi fynd â’r cerbydau.
Sylwer: eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr y gallwch chi yrru’ch cerbyd yn gyfreithiol ar y briffordd i leoliad yr amnest.
Bydd manylion amnest i’w gweld yn y wasg leol gan gynnwys dyddiadau a lleoliadau. Bydd y manylion hefyd i’w gweld ar y dudalen yma.
Beth yw Operation Cubit?
Cynllun partneriaeth yw Operation Cubit rhwng y Cyngor, y DVLA, yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân. Fel rhan o’r cynllun yma, mae’r partneriaid i gyd yn casglu eu hadnoddau at ei gilydd i fynd i’r afael ag ystod o broblemau sy’n ymwneud â cherbydau. Gellir delio â cherbydau sydd wedi’u gadael, eu llosgi a cherbydau heb dreth fel rhan o’r fenter yma. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gall cerbydau gael eu clampio yn y fan a’r lle neu eu symud.
Does dim modd i ni gynnal Operation Cubit yn barhaol, a does dim modd i ni weithredu’r cynllun ym mhob rhan o’r Sir bob tro. Bob blwyddyn, rydyn ni’n cynnal sawl menter am fisoedd ar y tro, a bydd y cynllun yn canolbwyntio ar wahanol ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf bob tro.
Beth ddylwn i ei wneud os oes rhybudd ar fy ngherbyd?
Er ein bod ni’n rhoi rhybuddion ar gerbydau yn aml, dyw pob rhybudd ddim yn rhybudd gan y Cyngor. Mae’r Heddlu hefyd yn rhoi rhybuddion ar geir, yn enwedig os yw’r cerbyd ar briffordd heb ddisg dreth ddilys.
Os ydych chi o’r farn mai ni sydd wedi rhoi rhybudd ar eich cerbyd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen yma.
Sylwer
-
Os byddwn ni’n rhoi rhybudd 24 awr ar gerbyd, byddwn ni’n mynd â’r car oddi yno ar ôl 24 awr os na fydd ymateb wedi ein cyrraedd ni gan y perchennog neu’r ceidwad.
-
Os yw’r cerbyd wedi cael ei adael ar dir, a’n bod ni’n rhoi rhybudd i feddiannydd y tir, mae rhaid ymateb yn ysgrifenedig. Yn yr achos yma, mae gan y meddiannydd 15 diwrnod i ymateb. Os na fydd ymateb ysgrifenedig i’n rhybudd yn dod i law, byddwn ni’n mynd ar y tir ac yn cymryd y cerbyd.
Beth ddylwn i ei wneud os yw fy ngherbyd wedi cael ei symud?
Mae gyda ni awdurdod ar gyfer symud cerbydau os ydyn ni o’r farn eu bod nhw wedi cael eu gadael. Os ydy’ch cerbyd chi wedi cael ei symud, mae’n bosib mai ni sydd wedi ei symud, yn enwedig os yw wedi cael ei adael heb ei ddefnyddio neu mewn cyflwr gwael. Mae’n bosib y byddwn ni hefyd yn symud cerbydau sydd wedi cael eu llosgi. Mae asiantaethau eraill fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân a’r DVLA hefyd yn symud cerbydau.
Mae gyda ni gronfa ddata gynhwysfawr sy’n cynnwys manylion cerbydau rydyn ni wedi derbyn adroddiad yn eu cylch, a gallwn ni ganfod yn gyflym ac yn hawdd os ydyn ni wedi archwilio cerbyd neu ei symud.
I gael gwybod a ydyn ni wedi symud eich cerbyd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen yma.
Ble mae dod o hyd i ffeithiau a ffigurau am gerbydau wedi’u gadael?
Mae’r tabl isod yn dangos nifer y cerbydau rydyn ni wedi derbyn adroddiadau yn eu cylch ers 1999. Mae’r tabl hefyd yn dangos nifer y cerbydau hynny gafodd eu symud a’u gwaredu.
Cerbydau gafodd eu symud a’u gwaredu
|
Blwyddyn
|
Nifer y cerbydau
gafodd eu symud
|
Nifer y diwrnodau a gymeridd
hi i symud cerbydau, ar gyfartaledd
|
|
2005/2006
|
551
|
7
|
|
2006/2007
|
260
|
9
|
|
2007/2008
|
107
|
8
|
|
2008/2009
|
56
|
7
|
|
2009/2010
|
31
|
8
|
Mae rhaid dilyn camau cyfreithiol manwl wrth fynd ati i symud cerbydau. Roedd pob un o’r cerbydau y derbyniwyd adroddiadau yn eu cylch yn achosi rhyw fath o broblem, ond doedd dim modd symud llawer ohonyn nhw o dan y ddeddfwriaeth cerbydau wedi’u gadael. Lle bo hynny’n briodol, mae manylion y cerbydau nad oes modd i ni ddelio â nhw yn cael eu hanfon at yr Heddlu neu’r DVLA.
Cysylltwch â ni
Os ydych chi am...
-
Rhoi adroddiad am gerbyd sydd wedi’i adael
-
Ymateb i rybudd gafodd ei adael ar eich cerbyd
-
Cael gwybod os ydyn ni wedi symud eich cerbyd
-
Rhagor o wybodaeth am gerbydau sydd wedi’u gadael
cysylltwch â ni yn uniongyrchol ar.......
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal y Strydoedd
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT
Ffôn: 01443 494700
Ffacs: 01443 844310
Ebost: Customer.Services@rhondda-cynon-taf.gov.uk|