Mae Rhondda Cynon Taf wedi ymroi i yrru cynlluniau gwaith datblygu cymhleth ac arwyddocaol yn eu blaenau mor gyflym ag sy’n bosibl. I fynd â’r maen i’r wal, ac fel bod modd inni ddarparu gwasanaethau mwy cyflym, mae angen eich cymorth chi arnon ni.
Bydd penderfynu ar hynt nifer o gynlluniau datblygu cymhleth ac arwyddocaol yn cymryd cryn amser am resymau sydd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, gan gynnwys:
-
Efallai bod y gwaith ymgynghori gyda’r sawl mae’r cynigion yn effeithio arnyn nhw wedi dechrau’n rhy hwyr.
-
Cytundebau neu hawliadau cyfreithiol eraill sy’n ofynnol ddim yn eu lle.
-
Efallai bod y ceisydd wedi penderfynu gwneud newidiadau mawr i’r cynllun ar ôl cyflwyno’r cais.
-
Efallai bod y ceisydd neu’r asiant ddim wedi ymateb mewn da bryd i’n cais am newidiadau neu wybodaeth ychwanegol.
Nod canllaw 'Gwaith Datblygu Cymhleth ar Arwyddocaol' y Cyngor ydy annog datblygu trefnau cysylltu cynnar gyda datblygwyr arfaethedig i ofalu bod y budd-ddeiliaid i gyd yn manteisio i’r eithaf ar y cynllun.
Cysylltwch â Ni
Gwasanaethau Datblygu ac Adfywio
Uned 3, Lefel 5, Tŷ Pennant,
Catherine Street,
Pontypridd
CF37 2TB
Ffôn: 01443 495186
Ffacs: 01443 407725
E-bost: MDP@rhondda-cynon-taf.gov.uk|