Dyma rai camau hawdd sy’n esbonio sut mae’r broses Rheoliadau Adeiladu yn gweithio yn Rhondda Cynon Taf.
Cam 1
Cael gwybod a oes angen caniatâd Rheolaeth ar Adeiladu ai peidio. Gweler yr wybodaeth Oes angen Caniatâd Rheolaeth ar Adeiladu arna i|? Mae gofyn eich bod chi’n cadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio arnoch chi yn ogystal. I gael rhagor o fanylion, galwch heibio i’r tudalennau cynllunio .
Cam 2
Cyflwyno’ch cais. Dau ddull sydd o wneud cais o dan y Rheoliadau Adeiladu – Cynlluniau Llawn neu Hysbysiad Adeiladu:
Cam 3
Unwaith ein bod ni’n derbyn eich cais, byddwn ni’n gwirio’ch ffurflen i ofalu eich bod chi wedi’i llenwi’n gywir, wedi cynnwys cynlluniau manwl sydd eu hangen arnon ni ac anfon y ffi gywir. Os ydych chi wedi gwneud hynny i gyd, yna mae’ch cais chi’n ddilys, a byddwn ni’n anfon llythyr sy’n cadarnhau hynny atoch chi gan gynnwys enw a rhif ffôn y swyddog fydd yn trafod eich cais.
Os bydd eisiau rhagor o fanylion arnon ni, byddwn ni’n anfon llythyr atoch chi sy’n nodi'r hyn sydd ei angen. Dylech chi anfon yr wybodaeth atodol hon aton ni cyn gynted ag y bo modd.
Os ydyn ni’n ystyried fod eich cais cyntaf ddim yn addas ond bod lle i’w wella, byddwn ni’n cyflwyno rhai awgrymiadau. Mewn amgylchiadau o’r fath, efallai bydd angen rhagor o amser arnon ni i roi ystyriaeth i’ch cais diwygiedig.
Mae gyda ni darged pum wythnos statudol i ddod i benderfyniad ar geisiadau cynlluniau llawn. Serch hynny, mae modd ichi gytuno i roi tair wythnos ychwanegol i ni drwy dicio’r blwch addas ar y ffurflen gais. Mewn rhai achosion, efallai bydd cydsynio i ddatblygiadau mawr yn cymryd rhagor o amser a byddwn ni’n trafod y cais fesul cam.
Cam 4
Yn wahanol i waith cynllunio, dydyn ni ddim yn rhoi gwybod i’ch cymdogion ynglŷn â’ch gwaith arfaethedig a dydy’ch cynlluniau ddim ar gael i’r cyhoedd oni bai eich bod chi’n ysgrifennu aton ni i nodi eich bod chi’n fodlon ar hynny. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n rhoi gwybod i’ch cymdogion ynglŷn â’ch gwaith arfaethedig a gofalu’ch bod chi’n cydymffurfio â Deddf Waliau Cydrannol 1996.|
Cam 5
O roi ystyriaeth i’ch cynlluniau, dylech chi drafod y gwaith gyda nifer o adeiladwyr profiadol a chael amcanbrisiau ar gyfer y gwaith.
Cam 6
Os byddwn ni’n fodlon bod eich cynlluniau arfaethedig yn bodloni gofynion Rheoliadau Adeiladu, byddwn ni’n cymeradwyo’ch cais cynlluniau llawn.
Cam 7
Mae gofyn eich bod chi’n rhoi gwybod i ni pan fydd gwaith yn dechrau ar y safle. Byddwn ni’n galw heibio i archwilio’r safle ao bryd i’w gilydd yn ystod y gwaith adeiladu i ofalu bod y gwaith yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu. Er ein bod ni’n gwneud hynny, eich cyfrifoldeb chi ydy gofalu bod y gwaith yn cydymffurfio â’r cynlluniau sy wedi’u cymeradwyo. O beidio â gwneud hynny, bydd rhaid newid neu ddymchwel y gwaith.
Cam 8
Os ydyn ni’n fodlon bod y gwaith rydych chi’n ymgymryd ag ef yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu, byddwn ni’n cyhoeddi tystysgrif gwblhau. Mae’r ddogfen hon yn brawf bod y gwaith arfaethedig wedi cyrraedd safon dderbyniol. Mae hon yn ddogfen bwysig a dylech chi’i chadw’n ddiogel os ydych chi’n bwriadu gwerthu neu ail-forgeisi’ch eiddo.
Mathau o Geisiadau
Cais Hysbysiad Adeiladu
Mae Hysbysiadau Adeiladu yn cynnwys peth gwybodaeth ynglŷn â’ch cais ac yn eich galluogi chi i ymgymryd â gwaith heb orfod paratoi cynlluniau manwl. Fydd y Cyngor ddim yn rhoi Hysbysiad Cymeradwyaeth yn achos cyflwyno Hysbysiad Adeiladu, ac efallai byddwn ni’n gofyn am ragor o wybodaeth, cynlluniau adeiladu, cyfrifiadau neu gynlluniau sydd i’w cyflwyno’n ddiweddarach. Os ydych chi’n cyflwyno Hysbysiad Adeiladu bydd modd ichi ddechrau gweithio ar y safle yn dilyn cyfnod statudol o 48 awr, fodd bynnag, os ydych chi’n cysylltu â’r Cyngor, efallai bydd modd ichi ddechrau ar y gwaith yn gynt. Serch hynny, rhaid cynnwys y ffi gywir gyda’ch Hysbysiad. Mae rhagor o risgiau yn perthyn i ddechrau gwaith ar sail Hysbysiad Adeiladu ar gyfer cynlluniau cymhleth lle does dim cynlluniau neu fanylion wedi’u cyflwyno.
Cais Cynlluniau Llawn
Mae Cynlluniau Llawn yn cynnwys cynlluniau a lluniau manwl ynglŷn â’ch cynigion, yn ôl graddfa. Gellwch chi dynnu’r cynlluniau yma eich hun, ond bydd gofyn bod gyda chi ddealltwriaeth gadarn o faterion adeiladu a’ch bod chi wedi darllen a deall Rheoliadau Adeiladu a’r Dogfennau Cymeradwy eraill. Bydd cyflogi tirfesurydd, adeiladwr, ymgynghorydd neu swyddog cymwys arall i baratoi a chyflwyno’r cais, hwyrach, yn gwneud y drefn yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.
Byddwn ni’n gwirio’r cynlluniau i ofalu’u bod nhw’n cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu ac o gymryd eu bod nhw’n bodloni’n gofynion, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Hysbysiad Cymeradwyaeth. Efallai byddwn ni’n gofyn am ragor o wybodaeth gyda golwg ar rai adeiladweithiau penodol yn dilyn derbyn cais Cynlluniau Llawn. O gyflwyno cais Cynlluniau Llawn, dylech chi gynnwys y ffi gywir ynghyd â dau gopi o unrhyw luniau ac os yw hi’n briodol, cyfrifiadau saernïol, sy’n nodi manylion llawn eich cynigion. Mae gofyn eich bod chi’n llenwi/llofnodi ffurflen Gosodiadau Trydan mewn Eiddo a’i hanfon yn ôl gyda’ch cais. Mae taliadau wedi’u pennu’n lleol yn rhan o fframwaith sy wedi’i pharatoi gan y Llywodraeth. Y cyfnod statudol ar gyfer trafod cais Cynlluniau Llawn ydy pum wythnos, serch hynny, efallai byddwn ni’n dod i benderfyniad yn gynt.
Dydy gwrthod eich cais DDIM o reidrwydd yn golygu ein bod ni’n gwrthod y cynllun at ei gilydd. Yn amlach na pheidio, bydd hyn ond yn digwydd os bydd y cynllun yn mynd yn groes i Reoliadau Adeiladu o bwys, neu ddiffyg gwybodaeth wedi’i chyflwyno. Byddwn ni’n cymeradwyo ceisiadau, lle bynnag bo’n bosibl, gan nodi amodau arbennig ynghyd â cheisiadau am ragor o wybodaeth neu fân newidiadau. Mewn achosion lle mae’r Cyngor wedi gofyn am ragor o fanylion, ac o gymryd bod y gwaith yn aros yr un peth fwy neu lai, fydd dim disgwyl ichi dalu rhagor o arian. Os ydych chi’n anghytuno â’n penderfyniad i wrthod cais cynlluniau llawn, mae hawl gyda chi i gyflwyno apêl ar gyfer sylw Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, sy’n gyfrifol am reoliadau adeiladu yng Nghymru a Lloegr.
Cais Rheoleiddio
Efallai byddwn ni’n dwyn achos yn erbyn perchennog sydd wedi ymgymryd â gwaith heb ganiatâd. Serch hynny, i roi cymorth i’r bobl hynny sydd eisiau cael gwaith wedi’i gymeradwyo, mae Rheolaeth ar Adeiladu wedi cyflwyno trefn newydd o’r enw Rheoleiddio. Cais ôl-weithredol gyda golwg ar waith sy wedi cymryd lle heb awdurdod ydy cais rheoleiddio h.y. gwaith heb ganiatâd Rheoliadau Adeiladu. Diben y drefn yma ydy rheoleiddio gwaith anawdurdodedig a chael tystysgrif rheoleiddio. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, efallai bydd rhaid cael datguddiad a/neu warediad i gydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu.
Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cysylltu â Gwasanaeth Rheolaeth ar Adeiladu eich awdurdod lleol i drafod eich amgylchiadau arbennig chithau cyn cyflwyno Cais Rheoleiddio.
Cais Gosod Ffenestri Newydd
Mae gosod ffenestri newydd wedi dod o fewn terfynau gwaith Rheoliadau Adeiladu ers Ebrill 2002. Golyga hyn fod gofyn i unrhyw un sy’n gosod ffenestri neu ddrysau newydd i gydymffurfio â safonau llym thermol newydd (mae gwaith gosod gwydr newydd wedi’i eithrio).
Un o’r prif resymau dros y newid ydy arbed ynni. Mae Rheoliadau Adeiladu wedi rheoli materion gosod ffenestri mewn adeiladau newydd ers sawl blwyddyn ond maen nhw ond yn cyfrif am ganran fechan iawn o’n stoc adeiladau yn unig. Mae hi’n holl bwysig ein bod ni’n gwella perfformiad nifer helaeth o adeiladau sydd ohoni i ddibenion cwrdd â nodau gwladol a byd-eang llem yn nhermau arbed ynni.
Adeg gwerthu’ch eiddo, bydd tirfesurwyr y prynwr yn gofyn am brawf bod unrhyw ffenestri newydd sy wedi’u gosod ers Ebrill 2002 yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu newydd. Mae dwy ffordd i ddangos bod y gwaith yn cydymffurfio:
-
tystysgrif sy’n nodi bod gosodwr y gwaith wedi’i gofrestru’n unol â Chynllun FENSA neu
-
dystysgrif gan yr Awdurdod Lleol yn nodi bod y gwaith yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu.
Cynllun FENSA
Yn ôl yr amcangyfrifon, mae oddeutu 2 filiwn o ffenestri newydd yn cael eu gosod bob blwyddyn. Ac felly, mae hi’n hollbwysig gofalu bod y gwaith i gyd yn gywir a hynny heb unrhyw gynnydd afresymol mewn gwaith gweinyddol a gofynion ariannol ar osodwyr a pherchnogion eiddo. Cynllun FENSA ydy’r ateb. Mae’r cynllun yn caniatáu cwmnïau gosod sy’n bodloni meini prawf i hunan-ardystio bod y gwaith yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu. Sefydlwyd Ffederasiwn Gwydr a Gwydro, ar y cyd â’r prif fudd-ddeiliaid i gyd, ac mae Llywodraeth ganolog wedi’i gymeradwyo. Mae arolygwyr Cynllun FENSA yn archwilio enghreifftiau o waith y gosodwyr i gyd i ddibenion bodloni a chynnal safonau ac mae modd i osodwyr sy’n peidio â chyrraedd nod i gael eu gwahardd neu’u heithrio o’r cynllun. Mae Cynllun FENSA hefyd yn rhoi gwybod i’r awdurdodau lleol am waith FENSA i gyd a chyhoeddi tystysgrifau sy’n cadarnhau bod y gwaith yn cydymffurfio i berchnogion eiddo.
Yn unol â Rheoliadau Adeiladu, rhaid cael caniatâd yr awdurdod lleol am unrhyw waith gosod gan gwmni sy ddim â’r hawl i hunan-ardystio, gan gynnwys gwaith o ddwylo’ch hun. Yn berchennog eiddo, chi sy’n bennaf gyfrifol am ofalu bod gwaith yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu. Bydd ffi archwilio yn ddyledus.
RHYBUDD
Rydyn ni wedi clywed hanesion sy’n peri pryder am osodwyr sy heb fod yn aelodau o gynllun FENSA ac sydd ddim yn cyflwyno ceisiadau ar gyfer sylw’r Cyngor. Cofiwch, bydd hyn yn arafu neu hyd yn oed yn rhwystro gwerthu’ch cartref yn gyfan gwbl os dydych chi ddim yn gallu dangos prawf bod gwaith gosod ffenestri newydd yn gyfreithlon. Cyn llofnodi cytundeb am waith gosod ffenestri newydd, cofiwch ofyn a ydy’r gosodwyr yn gallu hunan-ardystio ei waith ai peidio. O beidio, bydd rhaid cyflwyno cais i’ch awdurdod lleol yn unol â Rheoliadau Adeiladu.
Archwiliadau Safle
Bydd archwiliadau safle yn gofalu bod y gwaith yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu. A chyda golwg arbennig ar y gwaith canlynol:
-
Cloddio’r sylfeini
-
Sylfeini wedi’u gosod
-
Paratoi’r lle bydd llawr
-
Cwrs Gwrth-leithder a Haenennau Llawr
-
Draeniau, cyn ac ar ôl eu cuddio
-
Meddiannu’r adeilad
Pan fydd y gwaith yn dod i ben
Unwaith eich bod chi neu’ch adeiladwr wedi rhoi gwybod i ni fod y gwaith wedi’i gwblhau, a bod arolwg terfynol boddhaol wedi’i gynnal, bydd Tystysgrif Gwblhau ffurfiol yn cael ei chyflwyno i ddangos bod y gwaith yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi’n gwerthu’r eiddo yn ddiweddarach neu os ydych chi eisiau cael arian ychwanegol. Bydd modd ichi ofyn am hyn ar ddechrau’r cynllun neu ar ôl i’r gwaith ddod i ben.
Dymchwel adeilad?
Does dim hawl dechrau dymchwel adeilad heb roi rhybudd i’r Awdurdod Lleol yn gyntaf a chyhoeddi naill ai gwrth-hysbysiad dan Adran 81 o Ddeddf Adeiladu 1984 neu fod chwe wythnos wedi mynd heibio ers cyhoeddi hysbyseb dan Adran 80. O beidio â rhoi rhybudd, efallai byddwch chi’n cael dirwy sydd heb fod yn fwy na £2,000 yn rhan o’r drefn sydd ohoni. Does dim rhaid rhoi rhybudd ar gyfer adeiladau sydd heb fod yn fwy na 1,750 troedfedd giwbig o gyfaint mewn mesuriadau allanol, serch hynny rhaid rhoi ystyriaeth i ofynion Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Yn ogystal â hynny, mae gofyn bod gwaith dymchwel yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladwaith (Cynllunio a Rheoli) 1994 a chynllun Iechyd a Diogelwch y blaen ymgymerwr.
Nwy Radon
Mae nwy radon yn nwy ymbelydrol naturiol. Does dim modd ei arogli na’i flasu, does ganddo ddim lliw ac fel arfer, bydd lefel y nwy mor isel, fydd e ddim yn beryglus. Fodd bynnag, mae’n gallu mynd mewn i adeiladau drwy’r ddaear a rhoi dos o ymbelydredd i’r preswylwyr. Yn y DU, mae Radon yn cyfrannu tua 50% i gyfanswm yr ymbelydredd y bydd unigolyn yn ei gael ar gyfartaledd, mae hynny dipyn yn fwy na’r dos y byddai’n ei gael o waith niwclear.
Mewn rhai mannau yn y DU, gan gynnwys rhannau o Gymru, mae’r dos o radon posibl lawer yn fwy oherwydd daeareg y wlad. (Mae ychydig o Radon i’w gael mewn pob math o gerrig a phridd).
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan UKRADON|.