Mae yna wahanol ddiffiniadau cyfreithiol am sbwriel, ond yn syml, sbwriel yw gwastraff sy’n cael ei adael neu’i wasgaru’n anghyfreithlon, yn gyffredinol mewn man cyhoeddus.
Gall sbwriel gynnwys llawer iawn o bethau o eitemau bach fel papur losin, stwmps sigaréts, gwm cnoi neu docynnau bws, neu eitemau mwy fel poteli diodydd, caniau, bocsys bwyd brys, neu hyd yn oed fagiau o wastraff. Mae sbwriel yn hyll ofnadwy ac mae’n rhoi argraff wael o ardal leol.
Rydyn ni’n darparu biniau sbwriel mewn gwahanol leoliadau ar draws Rhondda Cynon Taf.
Rydyn ni hefyd yn darparu gwasanaeth glanhau’r strydoedd i briffyrdd mabwysiedig, priffyrdd, llwybrau troed cyhoeddus, grisiau cyhoeddus, ardaloedd canol trefi ar gyfer cerddwyr yn unig, meysydd parcio a mannau cyhoeddus yn y Sir.
Rydyn ni’n darparu’r gwasanaeth yma yn unol â Chôd Ymarfer ar Sbwriel a Gwastraff Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Yn y Côd, mae strydoedd yn cael eu rhannu’n saith categori gwahanol. Po fwyaf aml y bydd y stryd yn cael ei defnyddio, yr amlaf y bydd yn cael ei glanhau. Mae llawer iawn o fynd a dod mewn lleoedd fel canolfannau siopau, felly byddan nhw’n cael blaenoriaeth.
Fodd bynnag, os bydd ardal yn gwaethygu i lefel annerbyniol o ran golwg, bydd yn cael ei glanhau o fewn terfynau amser a nodir yn y Côd Ymarfer.
Yn unol â’r Côd Ymarfer, bydd yr ardal yn dod o dan un o’r pedwar categori o lanweithdra, sef ...
Gradd A – dim sbwriel na gwastraff.
Gradd B – mwy neu lai dim gwastraff na sbwriel ar wahân i rai eitemau bach.
Gradd C – llawer iawn o sbwriel a gwastraff a rhai pentyrrau bach
Gradd D – llawer iawn o bentyrrau o sbwriel a gwastraff
Dyw’r Côd ddim yn dweud pa mor aml mae rhaid glanhau pob ardal. Yn hytrach, mae’n nodi cyfnod o amser i sicrhau bod yr ardal yn cyrraedd statws Gradd A.
I wneud hyn, rydyn ni’n ysgubo pob ffordd fabwysiedig â pheiriannau ac â llaw yn ôl amserlen. Bydd ffordd naill ai’n cael ei hysgubo bob dydd, bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis gan ddibynnu ar yr ardal a statws y ffordd. Bydd Prif Strydoedd prysur yn cael eu hysgubo’n fwy rheolaidd na ffyrdd tawel mewn ardaloedd preswyl.
Byddwn ni’n defnyddio brwsh llaw er mwyn cael gwared ar sbwriel a gwastraff o bafin neu lain. Mae hefyd yn fodd o gael gwared ar eitemau mwy o gwteri. Byddwn ni’n defnyddio peiriant i lanhau cwteri a’r system ffyrdd.
Er mwyn bodloni gofynion y Côd Ymarfer ar Sbwriel a Gwastraff, mae gyda ni raglen glanhau strydoedd yn ei lle.
Fel rhan o’r rhaglen yma, rydyn ni’n gwneud y canlynol:
Gallwch chi’n helpu ni gadw’r ardal yn lân drwy wneud y pethau hyn:
Os ydych chi’n meddwl bod safon eich stryd wedi cwympo yn is na’r safon ofynnol, dwedwch wrthon ni am hyn drwy ddefnyddio ein manylion cyswllt isod neu ddefnyddio’r ffurflen ar-lein ar waelod y dudalen.
Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni, rhowch yr wybodaeth ganlynol i ni ...
• Enw’r stryd neu’r ardal rydych chi’n meddwl sydd wedi cwympo mewn safon
• Faint o sbwriel sydd yno a’r math o sbwriel
• Oes cerbydau yn parcio ar y stryd, ac ar ba adegau mae’r cerbydau yno?
• A weloch chi rywun yn daflu’r sbwriel?
• Os weloch chi rywun yn taflu’r sbwriel, oeddech chi’n eu hadnabod nhw neu a fyddai modd i chi eu disgrifio?
• Os weloch chi rywun yn gollwng y sbwriel, a fyddech chi’n barod i wneud datganiad am y digwyddiad?
• Oes unrhyw dystiolaeth sy’n dangos pwy adawodd sbwriel (llythyron, biliau ac ati)?
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal y Strydoedd
Gwasanaethau Gofal Strydoedd Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT
Ffôn: 01443 494700
Ffacs: 01443 844310
E-bost: Customer.Services@rhondda-cynon-taf.gov.uk|