-
Beth yw ailgylchu byd masnach?
-
Ydy’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu ar gyfer gwastraff ailgylchu byd masnach?
-
Beth mae’r Cyngor yn ei gasglu yn rhan o Gynllun Ailgylchu Byd Masnach?
-
Pa ddiwrnod mae casgliadau ailgylchu byd masnach yn cael eu cynnal?
-
Pryd mae eisiau i mi roi'r ailgylchu byd masnach allan i'w gasglu?
-
Sut mae cael bagiau ar gyfer ailgylchu byd masnach?
-
Beth yw cost ailgylchu byd masnach?
-
Sut mae talu?
-
Beth sy’n digwydd i gasgliadau ailgylchu byd masnach adeg y Nadolig neu ar wyliau banc?
-
Cysylltwch â ni
Beth yw ailgylchu byd masnach?
Yn gyffredinol, Ailgylchu Byd Masnach yw’r gwastraff mae modd ei ailgylchu sy’n cael ei gynhyrchu gan adeiladau sydd ar gyfer busnes neu fasnach, chwaraeon, hamdden neu adloniant. Mae hyn yn cynnwys yr hyn y byddwn ni’n ei gasglu o siopau, tafarndai, clybiau, gwestai, swyddfeydd y Cyngor ac ati.
Ydy’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu ar gyfer gwastraff ailgylchu byd masnach?
Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu byd masnach eang, a thrwy gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, byddwn ni’n galw heibio i’ch adeilad chi bob wythnos.
Os ydych chi’n byw mewn fflat neu dŷ sy’n rhan o’r adeilad masnach, byddwn ni’n casglu eich gwastraff o’r cartref i’w ailgylchu am ddim, fel arfer, ond allwch chi ddim rhoi eich gwastraff ailgylchu byd masnach mewn gyda’ch gwastraff o’r cartref.
Chewch chi ddim mynd â gwastraff ailgylchu byd masnach i ganolfannau Ailgylchu Cymuned (safleoedd amwynderau dinesig gynt) gan fod trwyddedau’r safleoedd yn dweud mai dim ond gwastraff arferol a gwastraff i’w ailgylchu o gartrefi mae modd ei dderbyn.
Beth mae’r Cyngor yn ei gasglu yn rhan o Gynllun Ailgylchu Byd Masnach?
-
Papur: Papur swyddfa, papurau newydd, cylchgronau, bocsys grawnfwyd, cardfwrdd, post sothach, llyfrau rhifau ffôn ac amlenni.
-
Metel: Caniau diodydd, tuniau bwyd a ffoil glân.
-
Plastig: Poteli plastig, topiau poteli, cwpanau plastig a phecynnau Tetra Pak, er enghraifft, cartonau sudd oren ac ati.
-
Polystyren: Rhowch bolystyren mewn bag ar wahân.
Sylwer, mae rhaid i chi ddefnyddio bagiau glas unigol ar gyfer pob math gwahanol o wastraff sydd i’w ailgylchu.
Mae rhaid i chi roi papur mewn un bag glas, pethau plastig mewn bag glas arall, a thuniau a chaniau mewn bag glas arall. Ddylai gwahanol fathau o wastraff i’w ailgylchu DDIM cael ei roi yn yr un bag. Bydd hynny’n difetha’r drefn yn y ganolfan ddidoli. Fyddwn ni ddim yn casglu bagiau sy’n cynnwys mwy nag un math o wastraff.
Os ydych chi hefyd yn cymryd rhan yn ein Cynllun Gwastraff Byd Masnach, byddwn ni’n casglu’ch cardfwrdd chi yn rhad ac am ddim, os yw wedi’i glymu’n daclus a’i bacio’n fflat, a bod dim plastig na pholystyren yn rhan o’r bwndel.
Gallwn ni hefyd gasglu gwastraff gwyrdd (toriadau porfa a gwrych ac ati) drwy gynllun bag glas ailgylchu byd masnach, ond mae rhaid trefnu hyn ymlaen llaw. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ddiwedd y dudalen am ragor o fanylion.
Does dim modd ailgylchu gwydr drwy ddefnyddio’r cynllun bagiau glas chwaith. Os oes gyda chi lawer o wastraff gwydr, ffoniwch ‘Nick Philbin Ltd’ ar 01942 246690 i gael gwybodaeth am wasanaethau casglu.
Pa ddiwrnod mae casgliadau ailgylchu byd masnach yn cael eu cynnal?
Cyn hir, bydd modd i chi gael gweld eich diwrnod casgliad ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau gwastraff ar-lein. Ar hyn o bryd, dyw’r gwasanaeth yma ddim ar gael, felly bydd rhaid i chi gysylltu â ni.
Er mwyn cael gwybod diwrnod eich casgliad, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen.
Pryd mae eisiau i mi roi'r ailgylchu byd masnach allan i'w gasglu?
Gwnewch yn siŵr bod eich ailgylchu byd masnach allan ar y pafin ERBYN 7:00AM ar eich diwrnod casglu, ond nid cyn 7:00pm y noson flaenorol.
Sut mae cael bagiau ar gyfer ailgylchu byd masnach?
Os byddwch chi’n penderfynu defnyddio ein gwasanaeth casglu, bydd rhaid i chi brynu ein bagiau ailgylchu gwastraff byd masnach. Mae’r bagiau yma’n las, ac mae ‘Ailgylchu Byd Masnach Rhondda Cynon Taf’ arnyn nhw’n glir.
Bydd rhaid i chi dalu am y gwasanaeth ailgylchu byd masnach, ond mae cost y bagiau yn cwmpasu’r holl gostau casglu a gwaredu. Gweler isod am gostau ailgylchu byd masnach. Byddwn ni’n dosbarthu bocsys o 200 o fagiau neu gallwch chi gasglu hyd at 50 bag o’r canolfannau yma:
-
Canolfan ibobun , Tŷ Sardis, Sardis Road, Pontypridd;
-
Canolfan ibobun, Rock Grounds, Aberdâr;
-
Canolfan ibobun, Llyfrgell Treorci, Dyfodwg Street, Treorci;
-
Swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Bronwydd, High Street, Y Porth.
Erbyn hyn, mae'n bosibl prynu bagiau ailgylchu byd masnach ym mhob llyfrgell yn Rhondda Cynon Taf.
Beth yw cost ailgylchu byd masnach?
Byddwn ni’n casglu gwastraff byd masnach i’w ailgylchu unwaith yr wythnos. Mae cost prynu bagiau’n cwmpasu’r holl gostau casglu a gwaredu.
Bagiau Ailgylchu byd Masnach
|
Bagiau ailgylchu byd masnach
|
Cost (£)
|
|
Bagiau (fesul bag)
|
0.25
|
|
Bagiau (fesul bocs o 200 wedi'i ddosbarthu)
|
55.50 (gan gynnwys £5.50 am ddosbarthu)
|
|
|
Does dim TAW ar Ailgychu Bwyd Masnach erbyn hyn
|
Sut mae talu?
Os oes angen bagiau ailgylchu byd masnach arnoch chi, anfonwch eich archeb a siec yn daladwy i ‘CBS Rhondda Cynon Taf’ at:
Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd
Gwasanaeth Gofal Strydoedd Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf
Uned B23, Taffs Fall Road
Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT
Sylwer: byddwn ni dim ond yn dosbarthu bocsys sy’n cynnwys 200 o fagiau.
Beth sy’n digwydd i gasgliadau ailgylchu byd masnach adeg y Nadolig neu ar wyliau banc?
Yn ddiweddar, fe gytunon ni gyda’n carfanau casglu y byddan nhw’n gweithio ar y rhan fwyaf o wyliau banc a bydd dim newidiadau i’r diwrnodau casglu ar yr adegau hynny.
Yr unig dro pan all y diwrnodau casglu newid yw adeg y Nadolig. Mae’n bosibl y bydd y casgliadau yn digwydd ddiwrnod neu ddau yn hwyrach gan ddibynnu ar ba ddiwrnodau o’r wythnos y bydd y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn digwydd.
Byddwn ni’n dweud wrthoch chi am unrhyw newidiadau ar y wefan yma a hefyd yn y wasg leol, llyfrgelloedd a Swyddfeydd y Cyngor.
Cysylltwch â ni
Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT
Ffôn: 01443 494700
Ffacs: 01443 827730
Ebost: Recycling@rhondda-cynon-taf.gov.uk|