Difa plâu

Bydd Swyddogion Difa Plâu’r Cyngor yn ymdrin â phlâu sy’n niweidiol i iechyd a lles y cyhoedd, mewn cartrefi a busnesau. Gall cnofilod, hynny yw llygod mawr a llygod, fod yn boendod mawr, gan eu bod yn gallu trosglwyddo clefydau. Bydd y Cyngor yn delio â’r plâu hyn o fewn 3 diwrnod gwaith a hynny heb godi tâl arnoch chi ar eich aelwyd, er bydd tâl am y gwasanaeth ar safle sydd ddim yn safle preswyl.

Mae chwilod duon, gwenyn meirch a phryfed gwely hefyd yn niwsans i iechyd y cyhoedd ac mae’r Cyngor yn delio â’r rhain am ddim mewn eiddo domestig.

Mae morgrug, chwain a phryfed eraill yn gallu bod yn destun pryder hefyd. Byddwn ni’n codi tâl am ddelio â’r rhain. Mae rhestr o’r costau i’w gweld isod.

Os hoffech chi gael gwasanaeth Rheoli Plâu, ffoniwch ni yn ystod yr oriau gwaith arferol lle bydd ein staff yn rhoi cyngor i chi. Fel arall mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost.

Bydd y swyddogion yn trefnu ymlaen llaw cyn galw gan ddelio â’r plâu drwy ddulliau diogel ac effeithlon. Os bydd y broblem yn parhau am unrhyw reswm, bydd y swyddogion yn dychwelyd a gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y pla wedi’i ddifa.

Triniaethau yn y Cartref

Y pris yn cynnwys TAW ar 20% oni nodir yn wahanol

Pris y gwasanaeth o 1 Ebrill 2011
Llygod a llygod mawr Pob eiddo domestig AM DDIM
Prfyed gwely Pob eiddo domestig AM DDIM
Cockroaches Pob eiddo domestig AM DDIM

Plâu Eraill (morgrug, chwilod carped, chwain) Pob triniaeth (un llawr / lefel yn unig ar gyfer morgrug / chwain / chwilod carped) £38.00
Noder - bydd tâl ychwanegol o 50% yn daladwy ar gyfer triniaeth helaeth o ardal fawr e.e. y tŷ cyfan neu os oes mwy nag un llawr angen triniaeth. £57.00
Gwenyn Meirch Pob lleoliad i mewn ac o gwmpas cartref domestig AM DDIM

Safleoedd Masnachol

Llygod a Llygod Mawr - £156.00 + TAW

Pryfed (yn cynnwys chwilod duon) - £76.50 + TAW

Gwenyn Meirch (tu mewn a thu allan) - £76.50 + TAW

Eiddo'r Awdurdod Lleol (dim TAW)

Llygod a Llygod Mawr - £70.20

Pob math o bryfed (yn cynnwys chwilod duon) - £38.00

Gwenyn Meirch - £38.00

Noder - bydd costau ychwanegol yn dilyn triniaethau helaeth neu driniaethau y tu hwnt i oriau arferol swyddfa ar gais y cleient.

  • cysylltwch â ni (gweler y manylion cyswllt isod) os oes angen gwasanaeth sydd ddim ar y rhestr uchod.
  • os bydd tenant preifat (gan gynnwys Cymdeithasau Tai) yn gofyn am wasanaeth lle mae tâl, rhaid i’r landlord gadarnhau hyn mewn ysgrifen a rhoi archeb ymlaen llaw. Fel arall, bydd gofyn i’r tenant dalu am y gwasanaeth ymlaen llaw.
  • mae’r tâl ar gyfer eglwys neu gapel fel ar gyfer y cartref.
  • fydd dim tâl am ddod yn ôl at nyth gwenyn meirch os oedd hwnnw heb ei ddinistrio. (Dydy trin ar gyfer gwenyn meirch ddim yn cynnwys symud y nyth.)
  • eiddo gwag dan reolaeth asiantau tai – bydd y tâl am drin ar gyfer chwain yn ôl y Taliadau Safonol ar gyfer safle domestig.

Gwybodaeth Gysylltu

Ffôn: 01443 425777
Ffacs: 01443 425301
Minicom: 01443 425535
E-bost: publichealthprojectsupport@rhondda-cynon-taf.gov.uk|

 

Dogfennau perthnasol