Lles anifeiliaid

Animal-Welfare

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am orfodi ystod o ddeddfwriaeth lles anifeiliaid, yn bennaf Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, Deddf Diogelwch Bwyd 1990, Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972, Deddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968, Deddf Diogelu Anifeiliaid 1911 ac is-ddeddfwriaeth.

Mae’r Cyngor yn awyddus i weithio gyda ffermwyr a phobl sy’n cadw da byw er mwyn diogelu’u busnes a diogelu iechyd y cyhoedd. Drwy gynnig cyngor a gwybodaeth i’r rheini sy’n cadw da byw, gellir lleihau’r pwysau ar y busnes a gellir diogelu iechyd yr anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd. Mae’r Awdurdod yn gweithio’n agos gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ac wedi mabwysiadu dull seiliedig ar risg o archwilio.

Fy nghymdogaeth