Mae llawer o wahanol reoliadau am fewnforio anifeiliaid. Mae’r rheoliadau am fewnforio anifeiliaid i’r Deyrnas Unedig yn wahanol i’r rhai ar gyfer mewnforio i wledydd eraill.
Mewnforio i’r Deyrnas Unedig
Mae rheoliadau cwarantîn yn dal mewn grym yn y Deyrnas Unedig. Mae torri’t Rheoliadau hyn yn erbyn y gyfraith. Mae rheolaeth lem ar fewnforio anifeiliaid anwes i’r Deyrnas Unedig. (Mae hyn yn cynnwys bochdewion, gerbilod, llygod, ac adar). Os ydych chi’n bwriadu mwnforio anifail anwes, dylech chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Yn ôl Gorchymyn y Gynddaredd (Mewnforio Cŵn, Cathod, a Mamaliaid Eriall) 1974, (fel y’i diwygiwyd), mae gyda ni’r pŵer i ddifa anifeiliaid sy’n glanio heb basbort Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes. Yn ogystal â hynny mae’r gyfraith yn rhoi pwerau i roi dirwy i berchnogion anifeiliaid, neu’u hanfon i garchar. Dyna pam fod ufuddhau i’r rheolau hyn mor bwysig.
Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes
System newydd yw’r Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes, sy’n gadael i anifeiliaid anwes ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig (DU) o wledydd penodol. O ddilyn y gweithdrefnau perthnasol, fydd eu perchnogion ddim yn gorfod eu rhoi mewn cwarantîn am gyfnod.
Canlyniad arall yw bod modd i bobl yn y DU fynd â’u hanifeiliaid anwes i wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd (UU), a dod â nhw’n ôl wedyn.
Mae modd mynd ag anifeiliaid anwes i rai gwledydd sydd ddim yn yr UE hefyd, a dod â nhw’n ôl heb orfod eu rhoi mewn cwarantîn.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am hyn, cliclwch ar y cyswllt isod:
ww2.defra.gov.uk/wildlife-pets/pets/travel/|
Gwybodaeth gysylltu
Ffôn: 01443 425777
Ffacs: 01443 425301
Ffôn testun: 01443 425535
Ebost: publichealthhousing@rhondda-cynon-taff.gov.uk|