Asbestos

Photograph showing Asbestos panelling.Ydy’r Cyngor yn casglu asbestos?

Yn anffodus, oherwydd problemau gyda’r system waredu, mae’r Cyngor wedi gorfod atal y gwasanaeth casglu asbestos o gartrefi. Rydyn ni’n ystyried y dulliau eraill o gasglu a byddwn ni’n rhoi gwybodaeth amdanyn nhw yma ar ein gwefan.

Oes yna rywle y caf i fynd â fy asbestos?

Mae Canolfan Ailgylchu Cymuned Bryn Pica yn Llwydcoed yn dal i dderbyn Asbestos o gartrefi dan yr amodau canlynol:-

  • Mae rhaid trefnu gadael pob llwyth o asbestos ymlaen llaw gyda swyddogion y safle.
  • Mae rhaid i chi gysylltu â swyddog safle Ailgylchu Cymuned Tŷ Amgen ar 01685 870770 i drefnu dyddiad ac amser i adael yr asbestos ac i gael rhagor o wybodaeth am y deunydd pecynnu sydd ei angen arnoch.
  • Bydd rhaid i chi ddangos tystiolaeth eich bod yn byw yn y Sir hefyd.

To asbestos / Asbestos Roofing.Sylwer: Os byddwch chi’n cael cymorth adeiladwr neu gwmni i gael gwared ar gynnyrch asbestos e.e. dalenni, pibellau ac ati, cyfrifoldeb yr adeiladwr neu’r cwmni fydd y rhain. Mae rhaid i’r person neu’r bobl yma drefnu i symud yr eitemau hyn a chael gwared arnyn nhw.

Mae asbestos yn fwn gwenwynig a gall dod i gysylltiad ag asbestos achosi mesothelima, sef math o ganser prin. I gael rhagor o fanylion am yr hyn sy’n achosi’r canser yma a chyfraddau goroesi mesothelima|, galwch heibio i wefan www.pleuralmesothelima.com| - dyma adnodd cynhwysfawr sy’n nodi effeithiau dod i gysylltiad ag asbestos a’i gysylltiadau â chanser mesothelioma

I gael rhagor o wybodaeth am iechyd a diogelwch ac asbestos, cysylltwch â’n Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd Ffoniwch Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd ar 01443 442100