-
Beth yw gwastraff o’r cartref?
-
Pa wasanaethau casglu gwastraff bydd y Cyngor yn eu darparu?
-
Cysylltu â ni
Beth yw gwastraff o’r cartref?
Mae gwastraff o’r cartref yn cynnwys gwastraff cyffredinol o dai, fflatiau, llety a lleoedd eraill sy’n gartref i bobl.
Mae gwastraff o’r cartref yn cynnwys dodrefn ac offer trydan ond nid deunyddiau sy’n cael eu defnyddio yn rhan o waith DIY neu waith adeiladu. Mae soffas, byrddau, cadeiriau ac ati’n cael eu cyfrif yn wastraff cartref ond nid brics, sment, cypyrddau cegin ac ati.
Pa wasanaethau casglu gwastraff bydd y Cyngor yn eu darparu?
O dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 mae dyletswydd arnon ni i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff o gartrefi yn rheolaidd. Mae eithriadau i hyn yn cynnwys eiddo ynysig neu nad oes modd ei gyrraedd heb fynd i gostau afresymol o uchel.
O dan yr un ddeddf, mae modd inni wneud y canlynol ...
-
roi cynwysyddion i chi ar gyfer gwastraff
-
dweud wrthoch chi i le y dylech chi roi’ch gwastraff i’w gasglu
-
dweud wrthoch chi bryd y dylech chi roi’ch gwastraff yn barod i’w gasglu
-
dweud wrthoch chi pa eitemau y cewch chi ddisgwyl i ni eu casglu, a’r pethau hynny na fyddwn ni’n eu casglu.
Gallwch chi ddisgwyl yn rhesymol i ni ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff rheolaidd a dibynadwy. Dydy hynny ddim yn golygu na fyddwn ni’n anghofio casglu ambell i fin neu y bydd ambell i gasgliad yn hwyr. Mae’n anodd osgoi’r materion yma wrth ddarparu gwasanaeth ar y raddfa yma, ond byddwn ni’n gwneud ein gorau i osgoi hyn. Yn ddiweddar rydyn ni wedi cael cerbydau casglu sbwriel modern ac effeithiol i gymryd lle’r hen rai.

Gallwch chi hefyd ddisgwyl i ni ddarparu gwasanaeth casglu rheolaidd a dibynadwy ar gyfer gwahanol ddeunyddiau i’w hailgylchu a gwastraff o’r ardd. Mae’r gwasanaeth yma bellach ar gael i bob cartref yn Rhondda Cynon Taf.
Yn ogystal â hynny, rydyn ni’n cynnal gwasanaeth casglu ar gyfer nwyddau mawr neu swmpus. Rydyn ni’n fodlon casglu eitemau o ddodrefn mawr neu offer/peiriannau yn y cartref os byddwch chi’n gwneud cais. Gallwn ni gasglu hyd at 3 eitem o’ch cartref bob tro y byddwn ni’n ymweld â chi, ac mae modd ichi wneud cais am hyd at 3 o gasgliadau’r flwyddyn.
Fyddwn ni ddim, fel arfer, yn dod i mewn i’ch cartref i gasglu sbwriel, deunydd i’w ailgylchu neu eitemau mawr fel arfer ond rhowch wybod inni os ydych chi’n anabl, yn hen neu’n eiddil. O dan y fath amgylchiadau byddwn ni’n ceisio rhoi cymaint o gymorth ichi ag y bo modd.
Sylwer:
Cysylltu â ni
Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd
Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT
Ffôn: 01443 494700
Ffacs: 01443 827730
E-bost: Recycling@rhondda-cynon-taf.gov.uk|