Canolfannau ibobun
Yn yr adborth rydych chi a’n staff ni wedi’i roi i ni, rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl yn teimlo’n rhwystredig pan fyddan nhw’n cael eu hanfon o un adran i’r nesaf wrth geisio defnyddio gwasanaethau’r Cyngor.
Mae canolfannau ibobun yn siop un stop ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor, er mwyn i chi allu cael gafael ar gyngor a gwybodaeth, wyneb yn wyneb mewn un ymweliad heb deimlo’ch bod chi’n cael eich gwthio i bob cyfeiriad!
Ble mae’r canolfannau?
Mae gyda ni bedair canolfan ar hyn o bryd:
|Canolfan ibobun Aberdâr
Rock Grounds
High Street
Aberdâr
CF44 7AE
|Canolfan ibobun Pontypridd
Tŷ Sardis
Sardis Rd
Pontypridd
CF37 1DU
Canolfan ibobun Porth
|
Tŷ Bronwydd
Bronwydd Avenue
Porth
CF39 9DL
Pa wasanaethau sydd ar gael mewn canolfannau ibobun?
Rydyn ni’n cynnig cyngor a gwybodaeth am ystod eang o wasanaethau allweddol y Cyngor - o ddweud wrthon ni am olau stryd sydd wedi torri i ddelio â chais am Fudd-dal Tai.
Hefyd, rydyn ni’n adolygu’n gwasanaethau ac yn ychwanegu atyn nhw’n gyson, er mwyn ymateb i adborth a gofynion ein cwsmeriaid.
Ar hyn o bryd, mae’n prif wasanaethau ni’n cynnwys:
-
Treth y Cyngor
-
Budd-dal tai
-
Trethi busnes
-
Taliadau
-
Delio â cheisiadau am Docynnau Mantais y Bws a’u dosbarthu
-
Ceisiadau am Fathodyn Glas
-
Allweddi RADAR
-
Cynllunio
-
Rheoli Adeiladu
-
Gwasanaethau Gwastraff Cartef/Masnach ac Ailgylchu
-
Gofal y Strydoedd a’r Gwasanaeth Amgylchedd
Beth am wasanaethau arbenigol a gwasanaethau gan bartneriaid?
Rydyn ni hefyd yn cynnig ystod o wasanaethau arbenigol gan y Cyngor a gan bartneriaid yn rhai o’n canolfannau.
Mae rhai o’r gwasanaethau yma ar gael drwy’r amser, ac eraill ar gael yn wythnosol yn y bore neu’r prynhawn.
Dyma rai o’r gwasanaethau arbenigol neu gan bartneriaid sydd ar gael yn y canolfannau ibobun ar hyn o bryd:
Sylwer: mae gwasanaethau arbenigol a chan bartneriaid yn wahanol mewn canolfannau gwahanol. Cliciwch ar y dolenni uchod i gael yr amseroedd, canolfan a diwrnodau diweddaraf ar eu cyfer.
Beth allwch chi ei ddisgwyl o ganolfan ibobun.
Mae ein swyddogion ni i gyd yn gyfeillgar, yn broffesiynol ac wedi cael hyfforddiant trylwyr am y gwasanaethau sydd ar gael. Mae ein cwsmeriaid ni i gyd yn unigryw, a bydd gyda chi anghenion gwahanol hefyd, a bydd ein staff yn hapus i deilwra’r gwasanaethau ar gyfer ein hystod eang o gwsmeriaid.
Ble bynnag posibl, bydd ein staff yn ceisio datrys eich ymholiad yn y fan a’r lle.
Eu gwaith nhw yw eich rhoi chi’n gyntaf, a cheisio sicrhau bod eich cysylltiad chi a’r Cyngor mor syml â phosibl.
Gall ein swyddogion roi cyngor a chymorth i chi ar bob agwedd ar fusnes y Cyngor a’i bartneriaid gan gynnwys y canlynol:
-
Help llaw i gwblhau ffurflenni cais os nad oes modd i chi eu gwneud eich hunain.
-
Dilysu dogfennau sy’n cefnogi’ch cais.
-
Bod yn berson canol rhyngoch chi ac adrannau’r Cyngor.
-
Eich cyfeirio chi at wasanaethau gan bartneriaid a threfnu apwyntiadau.
I gael rhagor o wybodaeth am ein safonau ar gyfer gwasanaethau i gwsmeriaid, cymrwch olwg ar ein Siartr Cwsmeriaid.