Mae Undeb Credyd Dragon Savers yn darparu’r gwasanaethau canlynol:
-
Cynilo arian, ar gael i unrhyw oedolyn sy’n byw neu’n gweithio yn RhCT
-
Cyfrifon cadw i bobl ifainc a chyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ar gyfer pobl ifainc dan 18 oed y mae’u rhiant neu warcheidwad yn byw neu’n gweithio yn RhCT
-
Cael hyd i gredyd fforddiadwy ar gyfer y sawl sy dros 18 oed
-
Yswiriant bywyd rhad ac am ddim ar gynilon a benthyciadau ar gyfer yr oedolion i gyd sy’n gymwys
Mae’r gwasanaethau canlynol ar gael yng Nghanolfannau IBobUn Pontypridd ac Aberdâr:
-
Gwybodaeth - gwasanaethau Undeb Credyd ar gael i’r aelodau ac adneuwyr ifainc ac sut i gysylltu â nhw, ffeithiau ynglŷn â’u cyfrifon, dosbarthu taflenni a ffeithlenni ar ystod eang o faterion a chymorth i lenwi gwaith papur undeb credyd perthnasol.
-
Cymryd Arian - Y gallu i roi arian i mewn i gyfrifon neu ad-dalu benthyciadau.
-
Cymryd Arian/Ad-dalu Benthyciad – Tynnu arian allan o gyfrifon cynilo neu gael benthyciad. Cewch chi siec mae modd ei newid yn rhad ac am ddim mewn swyddfa’r bost leol neu gangen o fanc Co-operative.
Pa Ganolfannau IBobUn sy’n darparu’r gwasanaethau yma?
Mae gwasanaethau Dragon Savers ar gael yn y Canolfannau IBobUn canlynol
|
Canolfan ibobun Pontypridd
|
dydd Mawrth 09:00am - 02:30pm, dydd Gwener 11:30am - 02:30pm
|
|
Canolfan ibobun Aberdâr
|
dydd Llun 10:00am – 02:30pm
|
Manylion Cyswllt Undeb Credyd Dragon Savers:
107 Bute Street
Treorci
CF42 6AU
Galwch heibio i wefan Dragon Savers|