Diwrnod Agored y Cyngor i Deuluoedd
- Lleoliad
- Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Ystradyfodwg
- Dyddiad(au)
- Dydd Gwener 8th Mehefin 2012
- Cyswllt
-
Rhagor o wybodaeth: 01443 424190
- Disgrifiad
-
Diwrnod Agored y Cyngor
Dewch draw i Ddiwrnod Agored y Cyngor i Deuluoedd yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda – bydd rhywbeth i bawb yno.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwybod yn iawn pa mor bwysig yw hi i fuddsoddi yn ein plant a phobl ifainc, a bydd yr achlysur hwn yn llwyfan i nifer o'n prosiectau ardderchog!
Trowch eich cefn ar ddiwrnodau diflas y gwyliau, a rhoi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau AM DDIM i bawb yn eich teulu. Cofiwch hefyd i alw heibio i Bentref Chwaraeon y Cyngor.
Yn ogystal â chymryd rhan yn y gweithgareddau a'r miri di-ri, dyma'ch cyfle i gwrdd â staff y Cyngor i gael cyngor ar y materion sy'n effeithio arnoch chi!
Felly dewch draw yn llu, da chi, i Ddiwrnod Agored Cyngor Rhondda Cynon Taf i weld yr hyn allwn ni'i wneud drosoch chi.