Cegaid o Fwyd Cymru

Lleoliad
Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd
Dyddiad(au)
Dydd Gwener 3rd - Dydd Sul 5th Awst 2012
Cyswllt

Mwy o wybodaeth yn fuan

E-bost: events@rctcbc.gov.uk| ||

Rhif ffôn: 01443 424123

Disgrifiad
BigWelshBite

Ymunwch ag un o ddigwyddiadau teuluol mwyaf poblogaidd a hwylus yr ardal sy’n rhad ac am ddim wrth iddo ddychwelyd i Bontypridd.

Mae’r prydferth Barc Coffa Ynysangharad yn paratoi at groesawu degau o filoedd o bobl o bob oed i achlysur Cegaid o Fwyd Cymru.

Wedi’i drefnu er mwyn dathlu pob peth da am fywyd yn Rhondda Cynon Taf ac ymhellach, mae Cegaid o Fwyd Cymru’n cynnig rhywbeth i bawb.

Eleni bydd y cogyddion teledu poblogaidd Tom a Henry Herbert – The Fabulous Baker Brothers – yn serennu ar y dydd Sadwrn. Ar y dydd Sul bydd Rachel Khoo o Little Paris Kitchen yn adlonni’r gynulleidfa gyda’i ryseitiau unigryw.

Ymysg yr atyniadau yng Nghegaid o Fwyd Cymru Cyngor Rhondda Cynon Taf bydd ystod o stondinau bwydydd a chrefftau, rhaglen lawn-dop o sioeau arena, anifeiliaid fferm, cerfio pren, gwersi gof, reidiau plant a gemau, cyngor iechyd a hapusrwydd a gwersi coginio oddi wrth ben-cogyddion enwog – enwau eraill i’w cyhoeddi’n fuan!

Mae’r holl gynnyrch sydd ar gael yn yr ŵyl wedi’i dyfu, dal, bragu, piclo, pobi, mygu neu brosesu gan y stondinwyr eu hunain, gan arwain at rychwant blasus o gaws, cacennau, jamiau, cwrw, gwin, cyri, nwdls, losin, cig rhost a chigoedd ffres lleol.

Yr ŵyl fwyd ac amaeth, digwyddiad enfawr tri diwrnod i deuluoedd, yw un o uchafbwyntiau calendr digwyddiadau haf Cyngor Rhondda Cynon Taf...ac yn well na dim, mae mynediad yn RHAD AC AM DDIM!

Edrychwch yma’n aml i ddarganfod mwy o wybodaeth ac atyniadau yn achlysur CEGAID O FWYD CYMRU eleni