Chwaraeon – cerdded a beicio

Beth bynnag eich hoff weithgaredd, byddwch chi’n siŵr o gael llawer o hwyl wrth aros yn Rhondda Cynon Taf.

Mae nifer o weithgareddau ar gael, gan gynnwys cerdded, beicio, marchogaeth a physgota. Byddwch chi bendant yn cael profiad ysbrydoledig a chreadigol yng ngwarchodfeydd natur Rhondda Cynon Taf, p’un ai’ch bod chi’n dewis mynd ar daith ffurfiol, ymweld ag achlysuron tymhorol, neu ymweld â’r ardal gyda’ch ffrindiau a’ch teulu.

  Cyfres o luniau o Rhondda Cynon Taf.

 

Cerdded a beicio Coed yr hydref

Mae'r milltiroedd o lwybrau trwy gefn gwlad Rhondda Cynon Taf yn denu beicwyr a cherddwyr, ac mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn gwasanaethu'r ardal yn dda. Pontypridd yw canolbwynt y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn Ne Cymru – dyma le mae’r Llwybr Celtaidd yn croesi Taith Taf, ac mae’r dref hefyd yn fan dechrau’r Llwybr Lefel Uchel heriol dros Lanwynno a mynyddoedd y Maerdy a’r Rhigos.

Mae llwybrau gyda marciau ffordd yn arwain i fannau mwyaf prydferth ein hardal.

Mwynhewch y rhaeadrau trawiadol, megis Pen Pych neu Sgwd yr Eira yn ardal ‘Gwlad y Sgydiau’.  

Rhaeadr Pen Pych, Blaen-cwm

Sgwd Penpych, Blaencwm.Ymlaciwch ar lan y llynnoedd ym mharciau gwledig Cwm Dâr, Glyncornel, Garw-nant neu Barry Sidings.

 

 

 

 

 

 

 

Parc Gwledig Barry Sidings, Trehafod Photogprah of person walking the footpaths of Trehafod.

Mae parciau gwledig ein hardal yn ei gwneud hi’n hawdd cyrraedd cefn gwlad.

Mae’r rhwydwaith o lwybrau gyda marciau ffordd yn cynnig dewisiadau o ran trefnu teithiau cerdded, sy’n berffaith ar gyfer teuluoedd a phobl hŷn.

Mae gwersi beicio’n cael eu cynnal ddydd Mawrth rhwng 10am ac 1pm ym Mharc Gwledig Barry Sidings, Trehafod. Mae teithiau byr ar gael er mwyn magu hyder, a theithiau hirach i Nantgarw, Pont-y-gwaith ac Abercynon.

Mae’n bosibl rhentu treiciau, tandemau ochr-wrth-ochr, tandemau, seddi babanod ac ôl-gerbydau i blant am ddim bob dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 10am a 3pm, a hynny fel rhan o gynllun Mentro Allan sy'n cael ei gynnal gan Sustrans. Mae gwasanaeth ailgylchu beiciau a gwasanaeth cynnal a chadw beiciau hefyd ar gael. Mae diodydd poeth a bisgedi ar gael am ddim yn y ganolfan i ymwelwyr ac mae croeso i bawb.

Mae cerdded Nordig yn ddull gwych o ymarfer corff, ac mae’n cael ei gynnal bob dydd Gwener rhwng 1pm a 3pm ym Mharc Gwledig Barry Sidings. Mae’n bosibl dewis teithiau hir ar hyd llwybrau serth, neu deithiau hamddenol ar hyd llwybrau gwastad, a hynny gydag arweinwyr a hyfforddwyr profiadol. Mae polion cerdded a lluniaeth ar gael am ddim.

Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr

Mae sesiynau beicio mynydd ar gyfer dechreuwyr yn cael eu cynnal o amgylch Cwm Dâr bob dydd Mercher rhwng 11am a 3pm. Mae eisiau cwrdd y tu allan i uned 39, Ystad Ddiwydiannol Aberaman er mwyn dilyn taith o amgylch y Parc Gwledig a'r ardal leol. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Eleanor Rothwell ar 0788 755 1303 neu anfonwch neges e-bost i eleanor.rothwell@sustrans.org.uk|

Taith Taff Taffs Trail  

Mae Taith Taf yn 55 milltir o hyd ac mae'n troelli’i ffordd drwy gefn gwlad prydferth a hanesyddol cymoedd De Cymru.

A hithau'n ymestyn rhwng Caerdydd a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Taith Taf yn rhwydwaith o lwybrau a theithiau cylchol sy’n cynnig cyfle i archwilio nifer o fannau diddorol a hanesyddol.

 

 

 Llwybr Lefel Uchel (Rhif 47)

Photograph of the High Level route.

Dewch i archwilio cefn gwlad ar lwybr 24 milltir (38km) o hyd rhwng Pontypridd a Chastell-nedd.

Dyma un llinyn o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ac mae’n croesi’r coedwigoedd uchel rhwng Pontypridd a Chastell-nedd. Mae’n dilyn ffyrdd trwy’r goedwig a llwybrau cul yn bennaf, ac mae nifer o lethrau serth ac wynebau garw mewn mannau.

 

Llwybr Lefel Uchel (rhif 47)

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â llwybrau beicio lleol ar gael ar y wefan www.sustrans.org.uk|.