|
[Cliciwch y faner uchod i gyrchu ein ffurflen enwebu]
Mae’r campau yn llawn o bobl anhygoel sy'n gweithio'n ddiflino i fynd mas o'u ffordd i wneud gwahaniaeth er gwell a darparu cyfleoedd i bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon. Gwelwyd llif o bobl yn cymryd rhan yn y campau a gwirfoddoli yn sgìl Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012. Nawr ydy’r amser i gydnabod a gwobrwyo'r rheiny sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol.
Mae achlysur Gwobrau Chwaraeon Rhondda Cynon Taf, sy’n cael ei drefnu gan uned Chwaraeon RhCT a’i hwyluso gan Brifysgol Morgannwg, yn cydnabod ac yn gwobrwyo’r fyddin o unigolion sy'n gwneud cyfraniad eithriadol a hanfodol er mwyn cadw ein clybiau a’n mudiadau chwaraeon yn fyw a’u harwain o nerth i nerth.
Mae llawer o bobl yn gweithio y tu ôl i'r llenni, o hyfforddwyr chwaraeon i fuddsoddwyr preifat, o’r rhai sy'n torri'r gwair i'r rhai sy'n trefnu amserlen y gemau. Dyma'r bobl rydyn ni’n awyddus i’w gwerthfawrogi a’u cydnabod yn y seremoni wobrwyo.
Mae 11 categori ar gyfer enwebu. Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir a bydd modd ichi enwebu o 7 Ionawr, 2013 tan 1 Mawrth 2013.
Athro/Athrawes Ysgol Gynradd y Flwyddyn
Dyma wobr ar gyfer athro/athrawes ysgol gynradd sydd wedi ymdrechu'n galed i sicrhau bod chwaraeon yn hwyl yn yr ysgol neu'r gymuned leol. Hoffwn ni i blentyn neu grŵp o blant enwebu.
Athro/Athrawes Ysgol Gyfun y Flwyddyn
Dyma wobr ar gyfer athro/athrawes ysgol gyfun sydd wedi cyfrannu'n fawr tuag at ddatblygiad chwaraeon yn yr ysgol neu'r gymuned leol. Does dim angen iddo ef neu iddi hi fod yn athro/athrawes Addysg Gorfforol. Gall fod yn unrhyw aelod o staff sy'n gweithio yn yr ysgol.
Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn
Dyma wobr ar gyfer unigolyn sydd ym myd addysg uwch (y Brifysgol neu Goleg), sydd wedi helpu gwneud cyfraniad mawr tuag at ddatblygu chwaraeon yn Rhondda Cynon Taf. Rhaid i ymgeiswyr fod dan 25 oed.
Hyfforddwr y Flwyddyn
Dyma wobr ar gyfer hyfforddwr yn y gymuned, mewn clwb neu mewn ysgol sydd wedi cyfrannu'n fawr tuag at ddatblygu chwaraeon yn ei ddewis gamp. Rhaid i ymgeiswyr fod dan 25 oed.
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
Dyma wobr ar gyfer unigolyn sydd wedi rhoi o'i amser yn wirfoddol mewn ysgol neu yn y gymuned ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ddatblygu chwaraeon yn Rhondda Cynon Taf. Fe all hynny fod trwy helpu gweinyddu, datblygu gwefan, cymryd y gofrestr neu roi cymorth ynglŷn â gwaith marchnata. Rhaid i ymgeiswyr fod dan 25 oed.
Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Dyma wobr ar gyfer y rheiny sy'n gweithio'n ddiflino y tu ôl i'r llenni i gyflawni'r tasgau nad yw pobl byth mo'u gweld... Efallai byddan nhw'n trefnu gemau, golchi'r cit, cofrestru'r chwaraewyr, mynychu cyfarfodydd neu gadw trefn ar faterion ariannol. Hebddyn nhw fyddai'r clwb ddim yn rhedeg! Rhaid i ymgeiswyr fod dros 25 oed.
Gwobr Etifeddiaeth 2012
Bydd y wobr yma yn adnabod ac yn gwobrwyo clybiau chwaraeon, busnesau a phrosiectau cymunedol sydd wedi trefnu cyfleoedd chwaraeon neu gyfleoedd ffitrwydd er mwyn i drigolion gadw’n heini. Dywedwch wrthyn ni am brosiectau sydd wedi ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgaredd newydd yn ystod y flwyddyn fwyaf yn hanes chwaraeon Prydain.
Tîm y Flwyddyn
Dyma wobr ar gyfer tîm sydd wedi cyflawni rhywbeth arbennig y flwyddyn yma, naill ai ar y cae neu oddi arno! Efallai bod tîm wedi codi arian ar gyfer elusennau ac wedi gweithio'n galed i helpu'r gymuned, neu efallai eu bod wedi gwthio'u hunain i lwyddo.
Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn
Dyma wobr ar gyfer person ym myd chwaraeon sydd wedi cyflawni rhywbeth anhygoel y flwyddyn yma. Efallai eu bod wedi gweithio'n galed, wedi llwyddo yn eu chwaraeon, neu wedi mynd y filltir eithaf ar y cae chwarae i gyflawni rhywbeth arbennig. Rhaid i ymgeiswyr fod dan 25 oed.
Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn
Dyma wobr ar gyfer person ym myd chwaraeon sydd wedi llwyddo i gyflawni rhywbeth arbennig y flwyddyn yma. Efallai bod yr unigolyn wedi llwyddo yn eu chwaraeon, neu wedi mynd i'r filltir eithaf ac wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth mawr! Rhaid i ymgeiswyr fod dros 25 oed.
Dyma wobr ar gyfer person ym myd chwaraeon sydd wedi llwyddo i gyflawni rhywbeth arbennig y flwyddyn yma. Efallai bod yr unigolyn wedi llwyddo yn eu chwaraeon, neu wedi mynd i'r filltir eithaf ac wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth mawr! Rhaid i ymgeiswyr fod dros 25 oed.
Canu Clodydd Arwr
Dyma wobr ar gyfer pobl sy'n rhoi o'u hamser gwerthfawr er budd chwaraeon yn RhCT, o dorri'r maes chwarae, i wneud y lluniaeth neu fynd â'r plant i'r gêm. Hebddyn nhw fyddai chwaraeon ddim yn digwydd yn y gymuned!
Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, cysylltwch â ni:
Uned Chwaraeon RhCT
Llwyn Castan,
Library Road,
Pontypridd,
CF37 2YA
Ffôn: 01443 490209
E-bost:chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk |