Safleoedd hanesyddol a chofebau

Mae treftadaeth gref yn perthyn i ardal Rhondda Cynon Taf. Mae Cwm Rhondda a Chwm Cynon yn enwog ym mhedwar ban byd ers iddyn nhw fod yn ganolbwynt i’r chwyldro diwydiannol.

Mae olion cyndadau trigolion Rhondda Cynon Taf i’w gweld yn y trefi, yn y dirwedd, ac yn y pentrefi. Mae cymysgedd o’r hen a’r newydd yn cyfrannu at wneud yr ardal yma’n ddiddorol i ymwelwyr, a bydd croeso cynnes yn eich ysgogi chi i ddod yn ôl yma dro ar ôl tro.

Cyfres o olygfeydd yn Rhondda Cynon Taf

Mae hyd yn oed olion Oes yr Iâ i’w gweld ar ffurf clogfaen rhewlifol sy’n sefyll ar y bryn uwchben tref Pontypridd. Roedd seremonïau derwyddol yn cael eu cynnal ar y safle yma ar un adeg.

Dewch am dro dros Hen Bont Pontypridd, sy’n dathlu 250 mlynedd o wasanaethu trigolion y dref y flwyddyn nesaf. Dewch i ddathlu 150 mlynedd ers cyfansoddi’r Anthem Genedlaethol – a’r geiriau sy’n siŵr o gael effaith ar unrhyw Gymro balch – wrth gofeb James James ac Evan James ym mhrydferthwch Parc Ynysangharad.

Dewch i ddilyn ôl traed y glowyr ar safle’r hen lofeydd, neu gwisgwch bâr o esgidiau addas ac ewch am dro trwy wyrddni’r cymoedd. Dewch i weld sut mae byd natur wedi’i adfer yn yr ardal ysblennydd yma trwy grwydro miloedd o erwau’r parc cenedlaethol, y parciau a’r gerddi Fictoraidd. Byddwch chi’n dod ar draws nifer o drefi ar wasgar ymhlith yr holl wyrddni. Mae siopau teuluol traddodiadol, ochr yn ochr â siopau enwog y stryd fawr, yn cynnig cipolwg ar yr oes a fu, a chyfle i fwynhau powlaid o gawl a phrynu’r ffasiwn ddiweddaraf.

Olwyn Hen Lofa’r CambrianOlwyn Hen Lofa'r Cambrian

Sut i ddod o hyd iddi

Ewch i Donypandy yng Nghwm Rhondda. Dilynwch yr arwyddion i Gwm Clydach ac fe ddewch chi o hyd i’r olwyn ym Mharc Hen Lofa’r Cambrian.

Mae hanes anrhydeddus o gloddio am lo i Gwm Cynon a Chwm Rhondda. Dyma oedd un o’r ardaloedd pwysicaf yn y byd o ran cloddio am lo. Heddiw, dim ond un pwll glo sy’n gweithio – Glofa’r Tŵr, ger Hirwaun yng Nghwm Cynon. Y glowyr eu hunain sy’n berchen ar y pwll.

 

Meini’r Orsedd

Cylch Barddol trawiadol yn Nhreorci yw’r Orsedd. Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yma ym 1928.

Yr Eisteddfod

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd yn ôl i 1176. Dywedir i'r Eisteddfod gyntaf gael ei chynnal dan nawdd Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi y flwyddyn honno. Yno, cynhaliwyd ymryson, a gwahoddwyd beirdd a cherddorion o bob cwr o'r wlad i gystadlu yn erbyn ei gilydd. Rhoddwyd cadair wrth fwrdd yr Arglwydd i'r cerddor a'r bardd buddugol, traddodiad sydd yn parhau hyd heddiw yn yr EisteddfodPlant yn dawnsio yn yr EisteddfodGenedlaethol.

Wedi 1176, a thrwy’r canrifoedd, cynhaliwyd nifer o eisteddfodau o dan nawdd tywysogion ac uchelwyr ledled Cymru. Ar ddechrau’r 19eg ganrif, bu Eisteddfod bwysig yn yr Ivy Bush Inn, yng Nghaerfyrddin. Yno bu cysylltiad ffurfiol rhwng yr Orsedd a'r Eisteddfod am y tro cyntaf. Erbyn hyn roedd yr Eisteddfod wedi datblygu i fod yn ŵyl werin gynhwysfawr.

 

Cofeb James James ac Evan JamesCofeb James James ac Evan James

Yn ôl pob sôn, cafodd y geiriau eu hysgrifennu gan Evan James, a oedd yn wehydd o Bontypridd, ryw fore Sul ym mis Ionawr 1856, a hynny ar dôn a gafodd ei chyfansoddi gan ei fab, James James. Yn ôl rhai, mae’r dôn yn seiliedig ar hen alaw ar gyfer y delyn. Mae’r dyddiad y cafodd y gân ei mabwysiadu fel yr Anthem Genedlaethol yn ansicr, ond cafodd ei hamlygu yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ym 1874. Ers hynny, dyma’r gân sy’n mynegi teimladau’r Cymry’n well nag unrhyw gân arall yn ôl y rhan fwyaf o bobl.

Geiriau’r Anthem

 

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Dros ryddid gollasant eu gwaed.

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i’m gwlad;
Tra môr yn fur i’r bur hoff bau,
O bydded i’r hen iaith barhau.

Morwyn Pen-rhys

Sut i ddod o hyd iddi

Wrth gylchfan Pen-rhys ar ffordd B4512, rhwng Cwm Rhondda Fawr a Tylorstown.

Mae Morwyn Pen-rhys yn sefyll yn un o olygfeydd mwyaf bendigedig yr ardal, gan roi ichi olygfa ardderchog dros Gwm Rhondda. Yn ystod y 13eg ganrif, adeiladodd mynachod Sistersaidd Abaty Llantarnam, Sir Fynwy, faenor i’w hunain ym Mhen-rhys lle roedd rhai ohonyn nhw’n byw bywyd amaethyddol syml.

Yn ôl yr hanes, daeth un ohonyn nhw o hyd i gerflun addurnedig o’r Fam Sanctaidd wrth weithio yn y caeau. Cododd y mynachod gapel ac allor ar gyfer y cerflun ac yn sydyn daeth Pen-rhys yn ganolfan addoli a daeth llawer o bererinion i dalu teyrnged a chael eu hiacháu. Cafodd y cerflun presennol ei godi yn 1953.

Cerflun o Deulu GlöwrCerflun o Deului Glöwr

Sut i ddod o hyd iddo

Ewch i Donypandy yng Nghwm Rhondda. Mae’r cerflun ar ochr ffordd A4119 ar bwys Llwynypïa.

Mae’r cerflun ‘Teulu Glöwr’ yn symbol o dreftadaeth falch Cwm Rhondda. Mae’n anrhydeddu hanes unigryw’r cwm a bydd yno yn gofeb o falchder ffyrnig y glöwr a’i deulu i genedlaethau’r dyfodol.

 

 

 

Y Garreg SigloPhotograph of Rocking Stones in Pontypridd

Clogfaen rhewlifol o Oes yr Iâ yw’r “Garreg Siglo”. Dyma oedd man canolog yr Orsedd, neu fan cyfarfod y beirdd, ym 1795. Cafodd ei threfnu gan y saer maen, Edward Williams, a oedd yn cael ei adnabod yn ôl ei enw barddol, “Iolo Morganwg”.

 

 

 

 

Yr Hen Bont, Pontypridd 

Cafodd y bont un bwa enwog ym Mhontypridd ei hadeiladu gan William Edwards ym 1756. Cymerodd dri chynnig iddo cyn cael y bont a ddyluniodd i sefyll. Er bod ei siâp hi’n ddeniadol, mae hi erioed wedi bod yn serth i unrhyw beth ar olwynion.

Cafodd Gorsedd y meini llai ei hadeiladu ym 1849 gan Evan Davies ("Myfyr Morganwg" oedd ei enw barddol). Mae Beirdd yr Orsedd wedi ymgynnull yma’n aml, ac mae’n fan poblogaidd ar gyfer achlysuron cyhoeddus eraill.

Yr Hen Bont, Pontypridd