Mae ystod eang o adnoddau ar-lein ar gael yn rhad ac am ddim trwy’r Cyngor.
Cliciwch ar y teitl y mae ei angen arnoch. Gofynnir i aelodau deipio eu rhif aelodaeth llyfrgell i mewn.
|
Ancestry. Library Edition|. Offeryn gwerthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn olrhain ei goeden deulu. Mae’r wefan yn cynnwys cofnodion cyfrifiad y DU o 1841 i 1901, yn ogystal â chofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau o’r DU, gweddill Ewrop a’r Unol Daleithiau. Gallwch hefyd lawrlwytho taflenni cofnod i helpu i gofnodi pa adnoddau rydych chi wedi’u defnyddio a phwy rydych chi wedi’i olrhain.
D.S. Mae modd defnyddio meddalwedd ‘Ancestry, Library Edition’ yn unrhyw un o’n llyfrgelloedd cangen. Does dim modd eu defnyddio o’ch cartref ar hyn o bryd.
Rhai Cynghorion ar Chwilio (Saesneg yn unig)|
Gwasanaeth gwybodaeth busnes cyhoeddus mwyaf cynhwysfawr y DU ar gyfer dechrau, tyfu neu ddatblygu eich busnes, meithrin medrau newydd a diogelu eich eiddo deallusol.
Ydych chi am ddechrau busnes ond ddim yn gwybod sut i wneud hynny? A oes angen i chi feithrin medrau rheoli? Ydych chi’n chwilio am gwsmeriaid newydd neu gyflenwyr newydd? Oes angen i chi wybod am dueddiadau’r farchnad? Ydych chi’n dymuno gwirio credyd cwmnïau eraill? Ydych chi am ddiogelu syniad? Ydych chi’n chwilio am grant i’ch helpu chi? Marchnata cynnyrch gan ddefnyddio rhestrau postio? Oes angen i chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth? Cofrestru nod masnach?
Mae gan Business Insight dros 40 o wasanaethau i’ch helpu chi gyda’ch anghenion gwybodaeth fusnes.
Er bod ymholiadau Business Insight yn cael eu hateb trwy ein gwasanaethau cyfeirio yn y tair prif lyfrgell yn Aberdâr, Pontypridd a Threorci, gellir derbyn ymholiadau mewn unrhyw un o’n canghennau. Mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau am ddim.
Beth yw ESO?
Mae European Sources Online (ESO) yn gronfa ddata ar-lein. Mae’n rhoi gwybodaeth am sefydliadau Undeb Ewrop a’u gwaith, y gwledydd, rhanbarthau a sefydliadau rhyngwladol eraill Ewrop, ac am y materion sydd o bwys i ddinasyddion a rhanddeiliaid Ewrop.
Beth sydd ynddi?
Mae’r ESO yn cynnwys miloedd o wefannau – y rhai poblogaidd a’r rhai llai amlwg, dogfennau a chyhoeddiadau Undeb Ewrop a sefydliadau rhyngwladol eraill, llywodraethwyr gwladol, sefydliadau rhanddeiliaid, melinau trafod, papurau gwaith, ac ati, erthyglau llawn gan ffynonellau newyddion awdurdodol y Financial Times ac European Voice, ynghyd â chofnodion llyfryddol i werslyfrau academaidd a chyfnodolion, a chyfres o Arweinlyfrau Gwybodaeth gan Dîm Olygu’r ESO.
I bwy mae’r ESO?
Mae dinasyddion, myfyrwyr, ac ymchwilwyr, swyddogion llywodraethau, sefydliadau sydd ddim yn rhai llywodraethol, mudiadau corfforaethol a phroffesiynol i gyd yn defnyddio’r ESO.
Oes modd i fi ddod o hyd i’r wybodaeth yma i gyd ar y we yn barod – a hynny am ddim?
Rydyn ni i gyd yn defnyddio amryw wasanaethau a thechnegau i ddod o hyd i wybodaeth. Yn ddiau, mae cyfleusterau chwilio cyffredinol, porth yr Undeb Ewrop ei hun Europa, cronfeydd data megis ECLAS a gwasanaethau newyddion megis EUR-ACTIV ac EUObserver i gyd o gymorth mawr. Serch hynny, mae ESO yn mynd y tu hwnt i hynny, trwy gynnig gwasanaeth gwybodaeth penodol ar gyfer Ewrop sy’n cynnwys ffynonellau sydd wedi’u dewis a’u dethol, ystod eang o ffynonellau a sylw, cynnwys a sylw gwerthfawr sydd ddim yn cynnwys gwledydd Ewrop yn unig. Yn wir, dyma gynnig rhywbeth ychwanegol i chi.
Rhai Cynghorion ar Chwilio
Mae 10 o lyfrgelloedd yn Rhondda Cynon Taf sy’n tanysgrifio i Gylchgrawn Which? Yn y llyfrgelloedd hyn gallwch gyrchu gwefan Which? Online yn ogystal. Yma gallwch ddod o hyd i adroddiadau llawn ar gynnyrch presennol a chynnyrch y gorffennol, neu gymryd rhan mewn arolygon ac ymchwil. Dyma’r llyfrgelloedd lle mae modd cyrchu Which? Online:
Abercynon, Aberdâr, Gartholwg, Hirwaun, Aberpennar, Pontypridd
Pont-y-clun, y Porth, Tonypandy, Treorci
Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur mewn unrhyw un o’r llyfrgelloedd uchod ac yn dymuno cyrchu gwefan Which? Online gofynnwch i lyfrgellydd eich mewngofnodi.
Gellir cael mynediad i’r adnoddau ar-lein canlynol ar gyfrifiaduron at ddefnydd y cyhoedd yn ein llyfrgelloedd, neu gan aelodau o’r llyfrgell ar eu cyfrifiaduron gartref
|
Credo reference Online|
Mae llyfrgell gyfeirio Credo yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr i ddod o hyd i’r atebion cywir yn gyflym. Mae’n cynnwys llyfrau cyfeirio ar ystod o bynciau. Mae Credo yn cynnwys cyfeiriadau at y pynciau mawr i gyd gan gyhoeddwyr cyfeirio mwyaf blaenllaw.
Rhai Cynghorion ar Chwilio (Saesneg yn unig)
Myfyrwyr|
Gwasanaeth cyfeirio ar gyfer aelodau ifainc. Mae’n cynnwys 50 o deitlau cyfeirio sy wedi’u dewis i ddiwallu anghenion aelodau ifainc.
Rhai Cynghorion ar Chwilio (Saesneg yn unig)|
Gwybodaeth am ystod eang o faterion cymdeithasol cyfoes megis beichiogrwydd ymhlith merched ifainc, ysmygu ayyb. Felly dyma adnodd gwerthfawr ar gyfer unrhyw un sy’n astudio materion cymdeithasol cyfoes.
|
Mae Access Wales & U.K. Newspapers yn gasgliad testun llawn ar y we sy’n cynnwys rhai o bapurau newydd mwyaf cyfarwydd Cymru a Phrydain – y tabloidau a’r papurau mwy. Mae’r casgliad yn rhoi modd ichi ddarllen erthyglau yn y papurau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
Dyma rai o’r papurau:
Papurau yng Nghymru
Daily Post (Gogledd Cymru)
Western Mail
South Wales Evening Post
South Wales Argus
South Wales Echo
Papurau gwledydd Prydain
The Times
Daily Telegraph
The Economist
Financial Times
The Independent
The Guardian
Oxford Dictionary of National Biography|
55,000 o fywgraffiadau wedi’u paratoi ar gyfer yr adnodd yma. Maen nhw’n trafod bywydau pobl sydd wedi dylanwadu ar hanes Gwledydd Prydain a’r byd. Mae’r Oxford DNB yn cynnwys erthyglau cywir, cryno, a darllenadwy ar gymeriadau nodedig o bob lliw a llun. Mae’r cofnodion yn cynnig gwybodaeth fanwl a chynhwysfawr sy’n tynnu ar ffynonellau cynradd ac eilradd ac sy’n amrywio o ychydig eiriau i 35,000 o eiriau o hyd. Yn cynnwys dros 10,000 o luniau, yn deillio o waith ymchwil mewn partneriaeth â’r Oriel National Portrait Gallery, Llundain, mae’r Oxford DNB yn cynnwys y dewis mwyaf o bortreadau a gyhoeddwyd erioed.
|
Oxford English Dictionary Online|
Derbynnir yn gyffredinol mai’r Oxford English Dictionary ydy’r awdurdod pennaf ar ddatblygiad y Saesneg dros y milfwlyddiant diwethaf. Dyma ganllaw penigamp i ystyr, hanes, ac yngangiadau dros hanner miliwn o eiriau, yn y presennol a’r gorffennol.
Rhai Cynghorion ar Chwilio| (Saesneg yn unig)

Oxford Music Online|
Oxford Music Online ydy’r adnodd blaenllaw ar gyfer gwaith ymchwil cerddoriaeth ar-lein. Casgliad campus o ysgolheictod ym myd cerddoriaeth sy’n cynnig testun llawn The New Grove Dictionary of Music and Musicians, 2il argraffiad (2001), The New Grove Dictionary of Opera (1992), a The New Grove Dictionary of Jazz, 2il argraffiad (2002), yn ogystal â diwygiadau a diweddariadau diweddarach. Yn cynnwys dros 50,000 o erthyglau â llofnod a 30,000 o fywgraffiadau mae dros 6,000 o ysgolheigion o bedwar ban byd wedi’u cyfrannu. Mae Oxford Music Online yn awdurdod heb ei well ar bob agwedd ar gerddoriaeth.
|
Oxford Reference Online|
Casgliad o 175 o weithiau gyda mynegai llawn a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen. Dyma fan delfrydol i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy ar ystod eang o bynciau.
Rhai Cynghorion ar Chwilio (Saesneg yn unig)|
|
Safari Tech Books Online| Dyma adnodd gyfeirio ar-lein perffaith ar gyfer y rheiny ohonoch sy’n hoff o TG. Mae modd cyrchu 50 o deitlau gan awduron blaenllaw maes technoleg rydych chi’n eu defnyddio yn feunyddiol, ar unwaith . Cyfrifiadura i ddechreuwyr, ipod ac itunes, gwella neu drwsio’ch cyfrifiadur, Photoshop, paratoi gwefannau, iaith raglennu, a systemau gweithredu o Windows i Linux - yr wybodaeth gywir ar yr amser cywir.
Er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn berthnasol a’r mwyaf diweddar, byddwn ni’n adolygu’r teitlau yn rheolaidd. Os oes gyda chi unrhyw syniadau ar gyfer teitlau technoleg gwybodaeth neu bynciau yr hoffech chi inni’u cynnwys, anfonwch e-bost at:
Nick.e.kelland@rhondda-cynon-taff.gov.uk|
Mae gwefan Llwybr Treftadaeth Rhondda Cynon Taf| yn rhoi canllaw hanfodol i ddarganfod treftadaeth ddiwydiannol, gymdeithasol a diwylliannol gyfoethog y fwrdeistref sirol, gan ein gwahodd i ddarganfod dros 200 o flynyddoedd o hanes sy’n werth ailymweld ag ef.
|
Mae Archif Ffotograffig Rhondda Cynon Taf| yn cynnwys delweddau digidol o bobl ac ardaloedd Rhondda Cynon Taf a dynnwyd o’r casgliadau a gedwir yn Llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae dros 14,000 o ddelweddau ar gael ar y safle sy’n dangos pob agwedd ar fywyd yn ardal y Fwrdeistref Sirol o tua 1880 i’r presennol.
|
Mae ein Cronfa Ddata Gwybodaeth Gymunedol| yn cynnwys gwybodaeth am gannoedd o sefydliadau lleol a chenedlaethol sy’n cynnal gwasanaethau yn Rhondda Cynon Taf.
Gallwch chwilio’r gronfa ddata yn gyflym ac yn hawdd mewn 3 ffordd wahanol:
defnyddio allweddeiriau
enw’r sefydliad
neu yn ôl pwnc ac ardal
Mae’r canlyniadau yn rhoi manylion am bob sefydliad, fel sut i gysylltu â nhw, disgrifiad o’r gwasanaeth, amserau agor a phrisiau.
Os ydych yn rhedeg/yn aelod o grŵp, ceir hefyd cyfleuster ffurflen ar-lein ar y wefan sy’n eich galluogi i ychwanegu eich grŵp at y gronfa ddata neu i ddiweddaru ei fanylion os yw eisoes wedi’i gynnwys.
Mae Rhondda Cynon Taf yn cynnal gwasanaeth llyfrgell gyfeirio yn ogystal. I gyflwyno ymholiad cyfeirio defnyddiwch y ffurflen electronig drwy’r cyswllt ar frig y dudalen.