Mae modd defnyddio cyfrifiaduron a chyrchu’r rhyngrwyd ym mhob llyfrgell yn Rhondda Cynon Taf. Gellir defnyddio’r cyfrifiaduron hyn i chwilio am wybodaeth, anfon negeseuon e-bost, ac ar gyfer prosesu geiriau a pharatoi cyflwyniadau.
Mae’r llyfrgelloedd yn cynnig y canlynol o bob cyfrifiadur:
-
Y Rhyngrwyd
-
Llwybrau cyflym i adnoddau gwybodaeth ar-lein
-
MS Word ar gyfer prosesu geiriau
-
MS Excel ar gyfer taenlenni
-
MS PowerPoint ar gyfer cyflwyniadau
-
MS Access ar gyfer cronfeydd data
-
Acrobat Reader
Bydd o leiaf un cyfrifiadur ym mhob llyfrgell hefyd yn rhoi mynediad i’r canlynol:
-
Elfennau Adobe Photoshop
-
Cicero ar gyfer darlleniadau sgrin a chwyddo dogfennau wedi’u sganio
-
Geiriadur Cymraeg ar-lein, Cysgair
-
Cysill ar gyfer gwirio sillafu yn y Gymraeg
-
FrontPage ar gyfer dylunio ar y we
-
Publisher ar gyfer cyhoeddi pen desg
-
Supernova ar gyfer darlleniadau sgrin ac ar gyfer chwyddo
-
Darperir cyfleusterau TG eraill ym mhob llyfrgell:
-
Argraffu du a gwyn
-
Argraffu lliw
-
Sganio
-
Mae disgiau cyfrifiadur a CD-R ar werth
-
Codir tâl am argraffu a phrynu disgiau. Am ragor o fanylion gweler y rhestr taliadau.
Amodau defnydd
Mae mynediad am ddim i holl aelodau llyfrgell. Mae rhaid dangos cardiau aelodaeth cyn dechrau sesiwn ar y cyfrifiadur
Caiff yr holl ddefnydd o’r Rhyngrwyd ei fonitro.
Bydd gofyn i bob defnyddiwr lenwi ffurflen gytundeb y Rhyngrwyd gan nodi’i fod wedi darllen polisi defnyddio gwasanaeth y llyfrgell ac wedi’i ddeall.
Bydd plant a phobl ifainc o dan 18 oed yn gallu defnyddio’r Rhyngrwyd cyhyd â bod rhiant neu warcheidwad cyfreithiol wedi llofnodi ffurflen ganiatâd ar eu rhan. Mae rhaid llofnodi’r ffurflenni hyn yn y llyfrgell gydag aelod o staff y llyfrgell yn dyst i’r llofnod.
Mae’r rhiant neu’r gwarcheidwad yn gyfrifol am y deunydd mae’u plant yn edrych arno. Nid yw gwasanaeth y llyfrgell yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am oruchwylio mynediad gan blant.
Gwybodaeth Archebu
Cynghorir archebu o flaen llaw. Efallai y bydd y cyfrifiaduron wedi’u harchebu wythnos o flaen llaw. Noder os bydd y defnyddiwr yn methu â chyrraedd ar yr amser mae wedi archebu cyfrifiadur, cedwir y sesiwn am gyfnod o 10 munud yn unig, ac wedi hynny ystyrir bod y cyfrifiadur ar gael i ddefnyddwyr eraill a fydd
wedyn yn cadw’r sesiwn.
Gellir archebu sesiynau am hyd at 2 awr. Os nad yw’r galw am y cyfrifiaduron yn uchel ar y pryd, gellir ymestyn sesiwn.
Yn ddibynnol ar y galw, efallai y bydd rhai cyfrifiaduron ar gael i’w defnyddio heb eu harchebu.
Ymwelwyr â Rhondda Cynon Taf
Mae mynediad am ddim i bob ymwelydd â Rhondda Cynon Taf. Mae rhaid rhoi prawf o gyfeiriad cartref ac ymweld cyn dechrau sesiwn ar y cyfrifiadur
Caiff yr holl ddefnydd o’r Rhyngrwyd ei fonitro.
Bydd gofyn i bob defnyddiwr lenwi ffurflen gytundeb y Rhyngrwyd gan nodi’i fod wedi darllen polisi defnyddio gwasanaeth y llyfrgell ac wedi’i ddeall.