Mae’r Cyngor yn rheoli nifer o goedwigoedd yn y sir. Rydyn ni’n rheoli nifer o ardaloedd mawr o goed er mwyn eu mwynhau, hamddena ac er mwyn cadwraeth natur.
Mae ardaloedd mawr o goed fel Gwarchodfa Natur Leol Glyncornel yn cael eu rheoli gan y Gwasanaeth Ceidwaid Cefn Gwlad. Mae llawer o goedwigoedd yn y sir yn cael eu rheoli yn y ffordd yma.
Coed Cymru
Mae Swyddog Coedwigoedd Rhondda Cynon Taf ar ran Coed Cymru yn gweithio ym Mhontypridd ac mae ar gael i roi cyngor i unrhyw un am reoli coedwigoedd. Mae hefyd yn gallu cynghori pobl am y gwahanol fathau o gymorthdaliadau sydd ar gael i dirfeddianwyr, ffermwyr, ysgolion a grwpiau cymunedol ar gyfer creu a rheoli coedwigoedd.
Dechreuodd Coed Cymru| fel corff ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am goedwigoedd cynhenid, yn enwedig ymhlith y diwydiant ffermio sy’n berchen ar y rhan fwyaf o’r coedwigoedd yma. Ym 1986, cafodd rhwydwaith o gynghorwyr coedwigoedd ei greu ac roedden nhw’n gweithio o swyddfeydd Cynghorau Sir a Pharciau Cenedlaethol. Mae swyddfa ganolog Coed Cymru yn Nhregynon yn darparu cymorth gweinyddol, technegol a chyfathrebu sydd ei angen i gydlynu’r corff.
Mae wedi dod i’r amlwg bod gan Goed Cymru bedair prif swyddogaeth:
-
Darparu cymorth diduedd, cyngor a hyfforddiant yn rhad ac am ddim;
-
Hyrwyddo cydweithio rhwng perchnogion coedwigoedd, contractwyr coedwigoedd a defnyddwyr pren
-
Datblygu cynnyrch a marchnadoedd ar gyfer cynnyrch pren caled er mwyn gofalu bod gan goedwigoedd llydanddail sail economaidd gadarn fydd yn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli yn y dyfodol.
-
Bod yn eiriolwr dros goedwigoedd llydanddail yng Nghymru a bod yn rhan o’r broses o greu manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol drwy reoli coedwigoedd yn gynaliadwy.
Integreiddio Coedwigaeth, Ffermio a Defnydd o Bren ymhellach
-
Mwy o ddefnydd ar goedwigoedd at ddibenion hamdden;
-
Mwy o amrywiaeth economaidd a biolegol drwy systemau coedamaeth cynaliadwy;
-
Y defnydd gorau o ddeunyddiau sydd wedi’u casglu yn yr economi lleol;
-
Lleihau’r ddibyniaeth ar bren caled sy’n cael ei fewnforio;
-
Dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd coedwigoedd Cymru yn gymdeithasol, yn fasnachol ac yn amgylcheddol
Manylion cyswllt
Coed Cymru
Isadran Parciau a Chefn Gwlad
Llwyn Castan
Library Road
Pontypridd
CF37 2YA
Ffôn: 01443 400563
E-bost: parkscountryside@rhondda-cynon-taff.gov.uk|