Caiff trwyddedau i gadw sefydliad marchogaeth eu dyroddi o dan Ddeddfau Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970.
Diffiniad Sefydliad Marchogaeth yw sefydliad ‘sy’n rhedeg busnes yn cynnwys cadw ceffylau at ddibenion eu marchogaeth neu eu hurio, neu at ddibenion hyfforddi yn gyfnewid am dâl’. Caiff trwyddedau’u hadnewyddu bob blwyddyn. Bydd y Cyngor yn trefnu i filfeddygol archwilio’r ceffylau a’r safle er mwyn diogelu lles yr anifeiliaid a sicrhau bod y llety’n addas. Rhaid cydymffurfio ag amodau’r drwydded a thalu’r ffi o £118.00 cyn derbyn y drwydded. Bydd hi’n ofynnol i’r ceisydd dalu costau’r archwiliad gan y milfeddyg neu ymarferydd llawfeddygol awdurdodedig y Cyngor hefyd.
Yn ogystal â hyn, mae’r amodau a ganlyn yn ofynnol o dan y Ddeddf. Nid oes gwahaniaeth a ydynt yn y drwydded ai peidio.
-
Os bydd swyddog awdurdodedig yn darganfod bod angen sylw milfeddygol ar geffyl ar y safle, rhaid peidio â dychwelyd y ceffyl i weithio nes i ddeiliaid y drwydded gael trwydded filfeddygol ar ei gost ei hun fod y ceffyl yn addas i weithio. Bydd raid iddo/iddi gyflwyno copi o’r dystysgrif i’r awdurdod lleol;
-
Rhaid i ddeiliad y drwydded beidio â gosod ceffyl allan i’w llogi neu i’w ddefnyddio ar gyfer darparu hyfforddiant heb oruchwyliaeth gan berson cyfrifol 16 oed neu drosodd oni bai’i fod wedi’i fodloni neu’i bod wedi’i bodloni (yn achos ceffyl wedi’i osod allan i’w logi ar gyfer marchogaeth) bod y sawl sy’n llogi’r ceffyl yn gymwys i farchogaeth heb oruchwyliaeth;
-
Rhaid peidio â gadael rhedeg busnes sefydliad marchogaeth yng ngofal person dan 16 mlwydd oed ar unrhyw adeg;
-
Rhaid i ddeiliad y drwydded ddal polisi yswiriant cyfredol sy’n ei yswirio yn erbyn atebolrwydd am unrhyw anaf a geir gan rai sy’n llogi ceffyl ganddo ar gyfer marchogaeth, ac am unrhyw anaf a geir gan rai sy’n defnyddio ceffyl wrth gael hyfforddiant marchogaeth ganddo yn gyfnewid am dâl ac sy’n codi o logi neu o ddefnyddio ceffyl fel y crybwyllwyd uchod, ac sydd hefyd yn yswirio’r cyfryw bersonau yn erbyn unrhyw atebolrwydd y gallent fynd iddo mewn perthynas ag anaf i unrhyw person a achosir gan, neu sy’n codi o, logi neu ddefnyddio ceffyl fel y crybwyllwyd uchod;
-
Rhaid i’r deiliaid trwydded gadw cofrestr o bob ceffyl 3 oed ac o dan hynny sydd yn ei feddiant ac a gedwir ar y safle fel arfer, ac a fydd ar gael i’w harchwilio gan swyddog awdurdodedig ar bob adeg resymol. (Adran 1(4a)).
Mae Cymdeithas Filfeddygol Prydain yn cyhoeddi canllawiau ar amodau ar gyfer trwyddedau sefydliadau marchogaeth.
Mae modd prynu copïau o Ddeddfau Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970 gan Lyfrfa Ei Mawrhydi.
Mae copïau o’r ddeddfwriaeth i’w gweld yn Swyddfeydd y Cyngor. Galwch heibio i edrych arnyn nhw, neu i ofyn am ein ffurflen gais ac am gopi o’n hamodau safonol ni.
Croeso ichi gysylltu â ni drwy’r manylion isod hefyd.
Carfan Materion Trwyddedu
Tŷ Elái,
Dinas Isaf,
Tonypandy.
CF40 1NY
Ffôn 01443 445777
Ffacs 01443 425301
Ebost: Licensing.Section@rhondda-cynon-taff.gov.uk|