Mae’r system Teleofal yn system sy’n rhoi cymorth i bobl fyw bywyd yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a gwneud hynny’n ddiogel. Ar yr un pryd, mae’r system yn fodd o roi tawelwch meddwl i’r teulu ac i ffrindiau.
Mae’r system Teleofal yn manteisio ar Wasanaeth Carelink Lifeline trwy seinio larwm i roi gwybod i staff ynglŷn â phroblemau posib.
Beth yw ‘Diogel yn y Cartref’?
Dyma gynllun sy’n rheoli risgiau i’ch iechyd yn amgylchedd eich cartref, a’u cadw hyd y lleiaf posibl. Byddwn ni’n gosod nifer o ddyfeisiau synhwyro (‘synwyryddion’) pwrpasol yn eich tŷ.
Mae llawer o wahanol synwyryddion i’w cael – synwyryddion mwg, synwyryddion tymheredd isel, synwyryddion nwy, a synwyryddion syrthio. Mae dyfais bwrpasol yn cysylltu’r holl synwyryddion yma â chanolfan ymateb Carelink. Mae hon yn gweithio bob awr o’r dydd a’r nos i ddarparu tawelwch meddwl a diogelwch.
Sut mae’n gweithio?
Os bydd rhywbeth yn sbarduno synhwyrydd, bydd neges awtomatig yn mynd i’r ganolfan ymateb. Bydd y system yn dweud wrth ein staff ni ble mae’r synhwyrydd, a beth mae’n ei synhwyro. Dyna sut bydd ein staff yn gwybod beth yw’r peth gorau i’w wneud. Efallai fod yr unigolyn eisiau cyngor, neu ychydig eiriau i dawelu’r meddwl. Neu. Ar y llaw arall, efallai fod angen cysylltu â pherthynas, cymydog, y meddyg – neu’r gwasanaethau brys hyd yn oed.
Ga i ddefnyddio’r gwasanaeth Diogel yn y Cartref?
Os ydych chi am ddefnyddio’r gwasanaeth Diogel yn y Cartref, rhaid ichi gyflawni’r meini prawf cymhwysedd. Sail y gofynion yma yw’ch angen chi am y system. Os hoffech chi gael manylion llawn y meini prawf, cysylltwch â’r gwasanaeth Diogel yn y Cartref (mae’r manylion cyswllt i’w gweld ar waelod y dudalen yma).
Beth yw’r gost?
Mae’n bosibl y bydd raid ichi dalu am wasanaeth Diogel yn y Cartref. Os hoffech chi gael manylion llawn y taliadau, cysylltwch â’r gwasanaeth Diogel yn y Cartref.
Os oes raid ichi dalu am y gwasanaeth, byddwn ni’n trafod gyda hyn. Fyddwn ni ddim yn gosod y synwyryddion a’r dyfeisiau eraill cyn cytuno gyda chi.
Pa ddyfeisiau sydd ar gael?
Dyma’r dyfeisiau sydd ar gael:
Synhwyrydd Syrthio – os ydych chi wedi syrthio’n galed, bydd y ddyfais yn synhwyro’n awtomatig ac yn anfon neges i Carelink.
Synhwyrydd Llifogydd – os oes posibilrwydd o lifogydd yn y tŷ, bydd y ddyfais yn rhybuddio Carelink.
Synhwyrydd Nwy Naturiol – os oes nwy naturiol yn gollwng, bydd y ddyfais yn rhybuddio Carelink. Bydd y cyflenwad nwy’n cael ei dorri’n awtomatig.
Galwr Cartref Rhybuddio Defnyddiwr/Gofalwr – os oes problem yn codi a chithau yn y tŷ, bydd y ddyfais yn eich rhybuddio chi’n syth yn lle anfon y rhybudd drwy Carelink.
Larwm drwy’r Glustog – os bydd tân yn dechrau a chithau’n cysgu, bydd y ddyfais yn peri i’ch clustog ddirgrynu.
Synhwyrydd Symudiad Is-goch Goddefol – mae’r ddyfais yn synhwyro symudiadau ac yn rhybuddio Carelink. Bydd y staff yn gwrando i ddarganfod a oes rhywun wedi torri i mewn. Mae modd gosod y system i rybuddio os ydych chi heb symud o gwbl ers sbel hefyd.
Llinyn Tynnu – gosod y rhain mewn lleoedd cyfleus ar hyd y tŷ. Gallwch dynnu’r llinyn i rybuddio Carelink os ydych chi wedi syrthio.
Synhwyrydd Mwg – os bydd y synhwyrydd mwg yn synhwyro mwg, bydd e’n anfon neges larwm i Carelink ar unwaith.
Rhybuddiwr Sŵn – dyfais i bobl sy’n drwm eu clyw. Os bydd synhwyrydd yn sbarduno, neu’r ffôn yn canu, bydd y ddyfais yn gwneud sŵn uchel ac yn fflachio goleuadau.
Synhwyrydd Eithafion Tymheredd – os bydd y tŷ’n mynd yn rhy oer neu’n rhy dwym, neu os bydd y tymhered dyn codi’n rhy sydyn, bydd y ddyfais yn anfon rhybudd i Carelink.
Synhwyrydd Cleientiaid sy’n Crwydro – dyfais i bobl sy’n dechrau profi dementia, ac i rai sy’n gofalu amdanyn nhw. Os bydd rhywun ym mynd allan, ac yn aros allan yn rhyw hir, bydd y ddyfais yn anfon rhybudd i Carelink.
Sbardunau Amie+/Gem+ – dyfais fach i’w chario gyda chi. Os byddwch chi’n cael problem ac yn methu symud, bydd y ddyfais yn gallu anfon neges larwm hyd at 50 metr.
Synhwyrydd Gwely/Cadair (sy’n monitro enwresis) – os bydd rhywun wedi codi o’r gwely neu’r gadair ac yn aros i ffwrdd yn rhyw hir, bydd y ddyfais yn anfon rhybudd i Carelink. (Mae’r ddyfais yn gallu anfon rhybudd os yw rhywun yn gwlychu hefyd).
Botwm Galwyr Ffug – gosodwch y botwm mewn lle cyfleus a dirgel ger y drws. Os oes rhywun amheus am ddod i mewn, gwasgwch y botwm i rybuddio Carelink.
Synhwyrydd Carbon Monocsid – os bydd gormod o garbon deuocsid yn y tŷ, bydd y ddyfais yn rhybuddio Carelink. Byddan nhw’n cymryd y camau priodol.
Synhwyrydd Enwresis – dyfais mewn mat tenau, gwydn, sy’n dal dŵr. Mae rhywun yn dodi’r ddyfais ar y gwely, rhwng y fatres a’r cynfas uchaf. Fydd y sawl sydd yn y gwely ddim yn sylwi’i bod hi yno.
Synhwyrydd Epilepsi – dyfais i bobl gyda’r epilepsi. Mae’n monitro curiad eich calon, eich anadl, ac arwyddion bywyd eraill. Os bydd ffit eplileptig ar y ffordd, bydd y ddyfais yn anfon rhybudd.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chost y gwasanaeth, gosod yr offer, a’r hyn sydd ar gael, cysylltwch â:
Gwasanaeth Diogel yn y Cartref
Uned 5-6 Green Park
Ystad Ddiwydiannol Coedcae Lane
Pont-y-clun
CF72 9GP
Ffôn: 01443 239104
E-bost: SafeatHome@rhondda-cynon-taf.gov.uk|
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chynllun ‘Lifeline’, cysylltwch â:
Carelink
Canolfan Gyswllt
Tŷ Elái
Dinas Isaf
Tonypandy
Ffôn: 01443 425001
E-bost: CARELINK@rhondda-cynon-taf.gov.uk|
Ymholiadau cyffredinol, e-bost: socialservices@rhondda-cynon-taf.gov.uk|