Mae ein Hymgynghorwyr Hawliau Lles yn gweithio i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth arbenigol i ddefnyddwyr gwasanaeth sydd wedi eu nodi fel rhai â phroblemau budd-daliadau lles cymhleth.
Nid ydynt yn darparu gwasanaeth uniongyrchol i’r cyhoedd, ond ar hyn o bryd maent yn gweithio gyda phobl sydd yn defnyddio ein gwasanaethau gofal cymdeithasol yn barod.
Eu nodau yw:
-
Mynd ati i hyrwyddo cynnydd yn nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau i sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth yn ymwybodol o’u hawliau mewn perthynas â budd-daliadau lles.
-
Sicrhau bod pob math o gymorth yn cael ei roi i hawlio budd-daliadau ac felly cynyddu incwm cymaint â phosibl
-
Darparu cyngor i ddefnyddwyr y gwasanaeth sy’n cael anawsterau ariannol
-
Cyfrannu’n llawn i leihau tlodi ac amddifadedd o fewn Rhondda Cynon Taf
Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfrinachol, diduedd ac am ddim