Cyhoeddiadau newydd gan Fwrdd Lleol Diogelu Plant Rhondda Cynon Taf (LSCB).
Yn gymharol ddiweddar, mae’r Bwrdd wedi paratoi dogfen Protocol Aml-asiantaeth ar gyfer Asesu Plant mewn angen a’u Teuluoedd. Mae’r ddogfen yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol ynglŷn â’r broses atgyfeirio ar gyfer sylw’r Gwasanaethau i Blant. Mae’r wybodaeth yn cynnwys ffurflen atgyfeirio aml-asiantaeth (MARF) ynghyd â chanllawiau ynglŷn â’i llenwi. Bydd y ffurflen yn cael ei defnyddio o 1 Medi 2010. Mae modd ei llenwi ar y cyfrifiadur (anfonwch nodyn i finditrct@rctcbc.gov.uk |gael ffurflen electronig) neu godi dogfen PDF o’r ffurflen sydd ar gael o dan 'Dogfennau Perthnasol'. Mae modd ichi weld y ffurflen, y ddogfen ei hun a’r canllawiau o dan adran Dogfennau Perthnasol ar y dudalen yma.
Sylwer:- Os oes pryderon gyda chi ynghylch diogelwch plentyn neu unigolyn ifanc, ffoniwch y garfan berthnasol yn rhan o’r Adran Gwasanaethau i Blant yn ddiymdroi. Mae’r rhifau ffôn ar waelod y dudalen.
Ar Fehefin 28ain, cyhoeddodd Bwrdd Lleol Diogelu Plant Rhondda Cynon Taf grynodeb gweithredol o’r adolygiad o achos difrifol mewn perthynas â Phlentyn H.
Mae modd darllen y crynodeb o dan ‘Dogfennau perthnasol’ ar ochr dde’r dudalen ac ar wefan Bwrdd Lleol Diogelu Plant www.rctlscb.org|
Amddiffyn / Diogelu Plant - P’un a ydych chi’n...
-
blentyn neu’n berson ifanc
-
rhiant neu’n gynhaliwr
-
aelod o’r teulu
-
cyflogwr
-
cyfaill neu’n gymydog
-
aelod o’r cyhoedd
neu’n unrhyw un sy’n dod i gyswllt â phlant, neu sydd â diddordeb mewn lles plant, mae gyda ni i gyd gyfrifoldeb i gadw plant rhag cael eu niweidio.
Beth yw cam-drin plant?
Gall cam-drin plant gynnwys camdriniaeth gorfforol, camdriniaeth rywiol, camdriniaeth emosiynol neu esgeulustod.
-
Ystyr Camdriniaeth Gorfforol yw rhywun yn anafu neu’n brifo plentyn – mae hyn yn cynnwys pob math o niwed corfforol.
-
Ystyr Camdriniaeth Rywiol yw rhywun yn gorfodi plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol neu’i ddenu i wneud hyn.
-
Ystyr Camdriniaeth Emosiynol yw oedolyn yn trin plentyn dros gyfnod o amser mewn ffyrdd sy’n niweidio ei ddatblygiad emosiynol, gan beri iddo deimlo:
-
-
yn ofnus
-
yn ansicr
-
yn ddiwerth a bod neb yn ei garu
-
Ystyr Esgeulustod yw oedolion yn methu â bodloni anghenion sylfaenol plentyn; mae hyn yn cynnwys y canlynol:
-
peidio â darparu bwyd
-
peidio â darparu cysgod
-
peidio â darparu dillad
-
peidio â darparu gofal meddygol
-
peidio ag amddiffyn / diogelu plentyn rhag perygl
-
gadael plentyn ar ei ben ei hun
-
peidio ag anfon plentyn i’r ysgol
Mae rhaid i unrhyw un sy’n poeni am ddiogelwch plentyn ddweud yn syth wrth rywun am eu pryderon. Mae gyda’r Cyngor gyfrifoldeb i edrych i mewn i unrhyw adroddiad bod plentyn, o bosib, yn cael ei gam-drin neu’i esgeuluso.
Beth yw effeithiau camdriniaeth ar blant?
Rydyn ni’n gwybod bod camdriniaeth yn effeithio’n wael ar lawer o blant, yn gorfforol ac yn emosiynol. Mae modd i’r effeithiau hyn bara ar hyd eu hoes.
Felly, mae hi’n bwysig iawn ein bod ni’n cadw anghenion a phroblemau plant mewn cof, a’n bod ni’n gweithredu ar unrhyw bryderon sydd gyda ni. Mae hi bob amser yn well yng ngolwg llawer o bobl i beidio â busnesu, bod ag ofn achosi problemau, neu am beidio ag eisiau credu bod plentyn yn cael ei frifo.
Ond cofiwch
os na fyddwn ni’n gwneud rhywbeth i roi cymorth i blentyn sy’n cael ei niweidio, efallai y bydd y plentyn yna’n dal i ddioddef.
a
thrwy siarad â’r bobl iawn, byddwch chi’n gofalu bod y plentyn a’i deulu yn cael y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw.
Beth alla i ei wneud? Â phwy galla i siarad?
Os ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc ac yn anhapus am eich bywyd
neu os ydych chi’n poeni am ffrind, neu rywun arall yn yr ysgol
neu os ydych chi neu ffrind yn cael eich bwlio
dywedwch wrth rywun rydych chi’n ymddiried ynddo...
-
ffrind
-
rhywun yn eich teulu
-
eich athro, eich nyrs ysgol
-
neu ffoniwch un o’r rhifau isod
Os ydych chi’n oedolyn sy’n poeni am blentyn, mae modd ichi ffonio un o’r rhifau isod.
Gallwch chi ofyn i’ch enw beidio â chael ei roi i’r teulu rydych chi’n bryderus yn ei gylch, a bydd hyn yn cael ei barchu. Dylech chi gael gwybod hefyd yn ddiweddarach a yw unrhyw un wedi gweithredu ar eich galwad – mae’n debyg fydd dim hawl gyda chi i gael rhagor o fanylion, gan y bydd y rhain yn gyfrinachol.
Mae amddiffyn / diogelu plant a’u plant yn flaenoriaeth i ysgolion a gwasanaethau cymorth eraill yn Rhondda Cynon Taf.
Mae rhaid i bob ysgol gael athro dynodedig sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â materion amddiffyn / diogelu plant a rhoi cyngor a chefnogaeth i staff eraill. Mae rhaid i bob ysgol hefyd gael “llywodraethwr amddiffyn / diogelu plant” a ddylai sicrhau bod gyda’r ysgol bolisi amddiffyn / diogelu plant effeithiol sy’n gyson â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan (2002).
 phwy galla i gysylltu?
Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf. Dyma Garfanau Gwaith Cymdeithasol sydd ar ddyletswydd:
Cwm Rhondda: Ffôn: 01443 431513
Ebost: csiatrhondda@rctcbc.gov.uk|
Cwm Cynon: Ffôn: 01685 888800
Ebost: csiatcynon@rctcbc.gov.uk|
Taf Elái: Ffôn: 01443 486731
Ebost: csiattafely@rctcbc.gov.uk|
Oriau agor: 8.30am – 5.00pm (Llun i Iau)
8.30am – 4.30pm (Gwener)
Carfan ar Ddyletswydd mewn Argyfwng: 01443 849944 (5.00pm – 8.30am Llun i Iau, 4.30pm – 8.30am Gwener-Llun)
Heddlu De Cymru: Oes argyfwng? Galwch 999 bob tro!
Childline: 0800 1111 (rhadffôn)
Llinell Gymorth Amddiffyn Plant NSPCC:
Cymru (gan gynnwys gwasanaeth yn Gymraeg): 0808 1002524 (rhadffôn)
Cymru/Lloegr: 0800 800 500 (rhadffôn)
Mae hi’n bwysig i bawb sy’n ymwneud â phlant a phobl ifainc gydweithio gyda’i gilydd i geisio eu cadw nhw’n ddiogel rhag niwed. Uwchlaw popeth, mae rhaid i anghenion plant a phobl ifainc ddod yn gyntaf.
Yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda rhieni a chynhalwyr plant a phobl ifainc.
Mae Bwrdd Lleol Diogelu Plant Rhondda Cynon Taf| hefyd yn cydweithio gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf er mwyn amddiffyn / diogelu plant.