Gofal Plant - Gwybodaeth gyffredinol

Childcarer-with-blocks-2

Dewis y gofal plant gorau i chi
a’ch plentyn..

Yn gyntaf, ewch i weld cymaint â phosib o ddarparwyr gofal plant cyn penderfynu pa un sydd orau ar eich cyfer chi a’ch plentyn a gwnewch yn siŵr eu bod wedi’u cofrestru. Yn ail, i'ch helpu chi i benderfynu, rydym ni wedi paratoi'r rhestr ganlynol o gwestiynau|. Dyma bethau mae pobl eraill wedi ei chael hi'n ddefnyddiol i'w gofyn wrth edrych am wasanaeth gofal plant.

I ddod o hyd i ddarparwyr gofal plant yn eich ardal chi cysylltwch â ni ar Radffon 0800 180 4151.

Mathau o Ofal Plant:

Rhaid i unrhyw un sy'n darparu gwasanaeth gofal plant am fwy na dwy awr y dydd i blant o dan wyth oed gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).

Mae gwasanaethau cofrestredig yn cynnwys:

  • gwarchodwyr/carcwyr plant
  • meithrinfeydd oriau dydd
  • grwpiau a chylchoedd chwarae
  • clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol  

Er mwyn gweld y rhestr ddiweddaraf o ddarparwyr plant cofrestredig yn eich ardal chi:
Rhadffon: 0800 180 4151

early_years_blocks-3

Gwarchodwyr Plant

Darparwyr gofal oriau dydd i blant sy’n gweithio yn eu cartrefi eu hunain yw gwarchodwyr plant cofrestredig.

Maen nhw’n gweithio yn y gymuned, sy’n golygu bod modd i blant fynd i gylchoedd chwarae / cylchoedd meithrin, cylchoedd Ti a Fi, a chlybiau lleol neu ymweld â ffrindiau yn lleol.

Cyfrifoldebau a Chofrestru
Mae gwarchodwyr plant yn gyfrifol am ddiogelwch eich plentyn yn ogystal â’i ddatblygiad emosiynol a chorfforol.

Dylen nhw ddarparu amrywiaeth o brofiadau chwarae a dysgu oddi mewn a thu allan i’r cartref.
Rhaid i warchodwyr plant gael eu cofrestru a’u harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), a fydd yn gwirio eu haddasrwydd, eu cartref a phawb dros 16 oed sy’n byw yn y tŷ.

Rhaid bod gan warchodwyr plant:

  • tystysgrif cofrestru gydag AGGCC
  • tystysgrif yswiriant o atebolrwydd cyhoeddus

Ffioedd a Hyblygrwydd
Mae gwarchodwyr plant yn hunangyflogedig ac yn gosod eu ffi eu hunain. Gallant gynnig gofal plant hyblyg drwy’r flwyddyn, yn llawn amser neu’n rhan-amser a thu allan i oriau ysgol. Gallant ofalu am hyd at 6 o blant o oedrannau amrywiol ar yr un pryd a gallant felly ofalu am frodyr a chwiorydd gyda’i gilydd.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch neu ymweld:

Meithrinfeydd Oriau Dydd

Mae meithrinfeydd oriau dydd yn darparu addysg gynnar a gofal plant cofrestredig i blant ifainc o 0-5 oed. Maen nhw fel arfer ar agor o ben bore tan fin nos o ddydd Llun hyd ddydd Gwener, drwy’r flwyddyn. Maen nhw’n cynnig amgylchedd gofalgar, diogel ac ysgogol naill ai fel gofal diwrnod llawn neu ofal rhan-amser i fabanod a phlant cyn-ysgol. Gall rhai hefyd ddarparu gofal cyn ac ar ôl ysgol ac yn y gwyliau i blant rhwng pedair a saith ac weithiau i blant hŷn yn ogystal.

early_years_blocksRhaid i bob Meithrinfa Oriau Dydd:

  • wedi'i chofrestru a’i harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru(CSSIW)
  • meddu ar dystysgrif gofrestru AGGCC
  • meddu ar dystysgrif yswiriant o atebolrwydd cyhoeddus
  • meddu ar dystysgrif hylendid bwyd briodol

Mae Cymdeithas Genedlaethol y Meithrinfeydd Oriau Dydd yn darparu cyngor am ddim i rieni ynghylch dewis meithrinfa a thalu am ofal plant, drwy adran arbennig i rieni ar ei wefan|.

Cymdeithas Genedlaethol y Meithrinfeydd Oriau Dydd sy'n cefnogi ac yn cynrychioli meithrinfeydd oriau dydd.

Mae llawer o feithrinfeydd oriau dydd cyfrwng Cymraeg yn gysylltiedig â Mudiad Ysgolion Meithrin ac yn cael eu cefnogi ganddo.

Ffioedd
Mae’r rhan fwyaf o feithrinfeydd yn cael eu rhedeg gan sefydliadau preifat neu wirfoddol a bydd ffioedd yn amrywio ar draws y wlad. Mae cymorth tuag at y costau ar gael o gredydau treth, talebau gofal plant a lleoedd rhan-amser am ddim i bob plentyn tair oed.

Bwyd a byrbrydau
Mae gan y rhan fwyaf o feithrinfeydd oriau dydd gyfleusterau i baratoi bwyd a byrbrydau ar gyfer y plant yn eu gofal. Dylent gynnig bwydlen dair wythnos o leiaf i gynnwys bwyd o ansawdd da a darparu byrbrydau addas i hyd diwrnod y plentyn yn y feithrinfa.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch neu ymweld:

  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0800 180 4151
  • Cymdeithas Genedlaethol y Meithrinfeydd Oriau Dydd: 01824 707 823 www.ndna.org.uk
  • Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM): 01970 639639 www.mym.co.uk

Grwpiau a Chylchoedd chwarae / Cylchoedd Meithrin

Grwpiau a Chylchoedd Mae Grwpiau a Chylchoedd Chwarae yn darparu ar gyfer plant rhwng dwy a phump oed, am ddwy i dair awr yn y bore neu’r prynhawn fel rheol, ac yn bennaf yn ystod y tymor ysgol. Maen nhw’n cynnig amgylchedd diogel ac ysgogol i blant chwarae, dysgu a chymdeithasu â’i gilydd. Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru, elusen gofrestredig, sy’n eu datblygu a’u cefnogi. Mae nifer o Grwpiau a Chylchoedd Chwarae’n cynnig cyflwyniad i’r Gymraeg i blant ifainc. Anogir staff a gwirfoddolwyr i ddatblygu a rhannu eu sgiliau yn y Gymraeg. Mae rhieni, cynhalwyr, a gofalwyr yn rhan o’r gwaith o redeg y cylchoedd chwarae ac maent yn aml yn ymuno â’u pwyllgorau rheoli.

Cylchoedd Meithrin Cylchoedd chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg yw Cylchoedd Meithrin sy’n rhoi cyfle i’r plant ddod yn ddwyieithog (yn y Gymraeg a’r Saesneg). Mae croeso i blant o deuluoedd di-Gymraeg fynychu Cylchoedd Meithrin, a chael y fantais o fod yn ddwyieithog. Caiff Cylchoedd Meithrin eu cefnogi gan y Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM), sefydliad gwirfoddol cenedlaethol.

Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau

Mae Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru (PPA Cymru) a’r Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM) yn cynnig cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant yn ogystal â chynlluniau cyfeirio i integreiddio plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau yn y cylchoedd chwarae lleol.

Addysg ran-amser i blant tair a phedair oed

Mae gan bob plentyn hawl i le mewn sefydliad addysg gynnar o ansawdd da, rhan-amser ac am ddim y tymor wedi ei ben-blwydd yn dair oed. Golyga rhan-amser o leiaf 10 awr yr wythnos, am tua’r un nifer o wythnosau â’r flwyddyn ysgol arferol.

Gall lleoliad neu sefydliad cymeradwy fod yn ysgol, cylch meithrin, cylch chwarae, meithrinfa oriau dydd neu warchodwr plant sy'n rhan o rwydwaith gwarchod plant o ansawdd sicr.

Costau
Does dim disgwyl i chi gyfrannu at gostau’r lleoliad yma. Os yw eich plentyn yn mynychu lleoliad neu sefydliad addysg gynnar cymeradwy yn barod pan ddaw'n dair oed, caiff y ffi ei gostwng. Er hynny, efallai y bydd rhaid i chi dalu am unrhyw wasanaethau neu ofal plant sy’n ychwanegol at y lleoliad addysg ran-amser am ddim.

Cofrestru
Caiff bob lleoliad neu sefydliad cymeradwy eu harchwilio gan Estyn sef y corff sy'n gyfrifol am hyfforddi a chofrestru arolygwyr addysg feithrin. I gael rhagor o wybodaeth am safleoedd sy'n cynnig lleoedd rhan amser yn rhad ac am ddim, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.

View a list of I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0800 180 4151.

Clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol

Mae clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol yn help i rieni neu gynhalwyr/gofalwyr sy’n gweithio neu sy’n cael hyfforddiant.

Maen nhw’n darparu clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol, clybiau gwyliau a gofal chwarae cyn ac ar ôl oriau ysgol i blant o oedran ysgol.

Cofrestru
Mae gan lawer o ysgolion glybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol, a bydd clybiau eraill mewn neuaddau pentref, canolfannau cymunedol a meithrinfeydd oriau dydd. Caiff y plant eu cofrestru a chânt fyrbryd a diod. Lle bo’n briodol, caiff y clybiau eu cofrestru a’u harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac mae staff chwarae cymwysedig neu hyfforddedig yn goruchwylio’r gweithgareddau (un aelod o staff i bob 8 plentyn o dan 8 oed).

Dylai’r amgylchedd chwarae fod yn ysgogol ac amrywiol gydag ystod o weithgareddau fel celf/crefft, gemau a chwarae corfforol i blant ddewis ohonynt. Hefyd, mae’n bosib fod yno le tawel i ddarllen a gwneud gwaith cartref. Caiff y plant eu goruchwylio nes daw rhiant neu gynhaliwr/gofalwr i’w casglu. Weithiau, bydd gwasanaeth casglu ar gael i hebrwng plant i’r ysgol o’r clwb a’u dychwelyd adref ar ddiwedd eu diwrnod

|