Pump gwahanol fath o faethu sydd, gan gynnwys maethu amser llawn, maethu rhan amser, a gofal cefnogol.
Maethu Tymor Byr
Am gyfnod byr yn unig y bydd llawer o blant yn derbyn gofal. Rhywbeth dros dro yw'u hamser mewn cartref maeth. Yn aml iawn, byddan nhw’n dychwelyd i'w cartrefi'u hun. I'r plant hyn, gyda theulu maeth sy'n cynnig y math gorau o ofal.
Profiad anodd i blant yw cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd. Eich gwaith chi fel cynhaliwr/gofalwr maeth tymor byr fydd derbyn plant i'ch cartref (ar fyr rybudd yn aml iawn) a gofalu amdanyn nhw yn ystod y cyfnod gofidus hwn. Weithiau, byddwn ni'n gofyn i chi helpu yng ngwaith dychwelyd y plant i ofal eu rhieni. Bydd hyn yn gofyn am adael i rieni'r plant ddod i'w gweld yn aml. Ar y llaw arall, mae'n bosibl y byddwn ni'n eich helpu i baratoi plant i symud i gartref arall, lle byddant yn derbyn gofal tymor hir neu ofal parhaol.
Mae'n bosibl hefyd y byddwn ni'n gofyn i chi helpu gyda gwaith asesu anghenion y plentyn, yn awr ac yn y dyfodol. Un rheswm dros roi plant gyda theuluoedd dros dymor byr yn aml iawn yw bod achos llys ymlaen. Gall hyn gymryd hyd at 40 wythnos.
Gofal Cefnogol (Cynllun Rhan amser)
Byddwn ni'n cynnig gofal cefnogol i blant sy'n byw gyda'u rhieni os yw'r plant yn cael anhawster i ymdopi. Os bydd teulu'n chwalu, bydd y plentyn angen maethu dros y tymor hirach. Rydym ni’n trefnu arhosiadau byr cynlluniedig i blant gyda'r un cynhalwyr er mwyn atal y chwalfa.
Cyswllt Teulu
Mae trefniant cyswllt â teuluoedd yn debyg i gartref gofal seibiant yn yr ystyr ei fod yn darparu cyfnodau byr rheolaidd o ofal i blentyn, a rhoi seibiant i'r rhieni. Ar gyfer plant ag anableddau dysgu neu anableddau corfforol y byddai’r trefniant yma mewn gwirionedd.
Mae'r teulu cyswllt yn cynnig cyfle i'r plant ennill profiadau newydd, ac i feithrin mesur o annibyniaeth. Gall trefniadau teulu cyswllt barhau am nifer o flynyddoedd.
Maethu Tymor Hir
Am nifer o resymau, fydd dim modd i rai plant ddychwelyd i'w teuluoedd am nifer o flynyddoedd - neu byth, o bosibl. Mae'r plant hyn angen diogelwch a sefydlogrwydd cartref maeth. Yn y fan honno bydd modd iddyn nhw ddatblygu'n emosiynol ac yn gorfforol yn ystod eu hamser yno.
Yn aml iawn, bydd y plant yn dal i gysylltu â'u rhieni a'u brodyr a chwiorydd. Gyhyd ag y bydd y plant angen y gofal, bydd angen ymroddiad y teulu maeth. Mewn amgylchiadau eithriadol, fe all maethu tymor hir arwain at fabwysiadu plentyn.
Ystafell â Chymorth
Nod y cynllun hwn yw darparu llety â chymorth sy'n ddiogel ag o ansawdd da i bobl ifainc rhwng 16 ac 20 oed, gan amlaf rai sy'n paratoi i adael gofal a byw yn annibynnol. Ystafell mewn cartref neu aelwyd yn yr ardal fydd y llety, gyda'r person ifanc yn cael defnyddio'r cyfleusterau. Rhaid i bobl ifainc ddysgu sgiliau megis coginio a chyllidebu cyn symud ymlaen i fyw yn annibynnol. Bydd y cynllun hwn yn fodd iddyn nhw wneud hynny. Maen nhw’n gwneud hyn gyda chymorth gŵr neu wraig y llety, fydd yn rhoi cefnogaeth emosiynol a chymorth ymarferol.
Hoffech chi ragor o wybodaeth am Lety â Chefnogaeth? Cysylltwch â Colin Pugh ar 01443 486731.