A chithau’n un o'n cynhalwyr/gofalwyr maeth cymeradwy, fe wyddoch chi am yr holl fanteision sydd ar gael i chi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ac, rydych chi’n gwneud defnydd ohonyn nhw.
Cewch gymorth a chefnogaeth yn rheolaidd drwy'r gweithiwr cymdeithasol fydd yn ymweld â chi. Dyma'ch gweithiwr cyswllt, fydd ar gael i roi cyngor, cymorth, cefnogaeth a goruchwyliaeth i chi. Bydd y gweithiwr cyswllt yma bob amser yn wahanol i weithiwr cymdeithasol eich plentyn maeth.
Os byddwch chi'n wynebu unrhyw anawsterau, a bod eich gweithiwr cyswllt ddim ar gael, fe wnawn ni'n sicr fod gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd i drafod yr anawsterau ac ateb eich cwestiynau.
Rydym ni wedi sefydlu nifer o gynlluniau mentora gan gymheiriaid i roi cynhalwyr maeth mewn cyswllt â'i gilydd. Gall siarad â chynhalwyr eraill helpu datrys problemau hefyd. A phlentyn dan eich adain chi, os daw unrhyw her i'ch rhan, fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun. Byddwch chi'n rhan o dîm yn gweithio gyda'ch gilydd i sicrhau'r canlyniadau a deilliannau gorau posibl i'r plentyn.
Yn ogystal â hyn fe fydd cyfeillgarwch, cymorth, a chefnogaeth cynhalwyr maeth eraill ar gael i chi drwy'r grŵp cynnal cynhalwyr maeth lleol. Os byddwch chi angen cymorth a chyngor, croeso i chi ymaelodi â'r Rhwydwaith Maethu.
Hoffech chi ofyn cwestiynau? Oes gennych awgrymiadau am sut i wella'r wybodaeth ddarparwn ni ar ein gwefan? Croeso i chi gysylltu â ni:
Manylion Cysylltu
Y Swyddog Recriwtio
Gwasanaethu Maethu
Uned 3, Llawr 7
Tŷ Pennant
Catherine Street
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 2TB
Ffôn: 0800 0852635
Ebost:: FosterCare@rhondda-cynon-taf.gov.uk|